Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o sefydliad ariannu, trefniadau a'r gwaith amrywiol a wneir gan y gwasanaeth.

Roedd gan yr adolygiad ddau brif amcan:

  • I ymchwilio i ariannu, trefniadaeth ac ystod y gwaith y mae Athrawon Bro yn ei ymgymryd; ac
  • I adolygu’r hyfforddiant a gyflawnwyd gan wasanaeth Athrawon Bro a phan fo’n briodol i gynnig argymhellion ar sut i wella hyfforddiant.

Mae canfyddiadau’r adolygiad yn cynnwys:

  • Merched yw mwyafrif helaeth gweithlu Athrawon Bro, ac mae’r proffil oedran ar sgiw tuag at y rhai dros 40.
  • Mae’r gwasanaeth y mae Athrawon Bro yn ei gyflawni yn amrywio’n sylweddol ar hyd Cymru, yn adlewyrchu nerth cymharol yr iaith Gymraeg mewn rhannau gwahanol o Gymru.
  • Mae rhan fwyaf o amser Athrawon Bro yn cael ei dreulio mewn ysgolion cynradd cyfrwng di-Gymraeg yn cynnig hyfforddiant yn y gwaith a chefnogaeth i ymarferwyr.
  • Mae timau Athrawon Bro wedi buddsoddi amser sylweddol yn datblygu adnoddau addysgu, dysgu ac asesu.

Mae gan yr adolygiad argymhellion i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Chydbwyllgor Addysg Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth.

Adroddiadau

Arolwg o'r Gwasanaeth Cymorth Iaith Gymraeg i Ysgolion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 904 KB

PDF
904 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.