Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Crynodeb

  • Cymerodd cyfanswm o 68 o staff ACC ran yn yr arolwg.
  • Cyfradd ymateb o 96%.
  • Mynegai ymgysylltu ACC oedd 78%.

Prif ganlyniadau

Mynegai ymgysylltu
% Cadarnhaol 78%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol -2
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +12
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +8
Fy ngwaith
% Cadarnhaol 89%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol 0
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +10
Gwahaniaeth o gymharu â Pherfformwyr Uchel y GS +7
Amcanion a diben sefydliadol
% Cadarnhaol 92%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol -4
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +7
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +3
Fy rheolwr
% Cadarnhaol 84%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol +1
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +9
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +7
Fy nhîm
% Cadarnhaol 96%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol +3
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +12
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +9
Dysgu a datblygu
% Cadarnhaol 66%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol +6
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +10
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +5
Cynhwysiant a thriniaeth deg
% Cadarnhaol 93%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol +3
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +11
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +8
Adnoddau a llwyth gwaith
% Cadarnhaol 89%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol +4
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +14
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +10
Cyflog a buddion
% Cadarnhaol 84%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol -2
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +45
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +37
Arweinyddiaeth a rheoli newid
% Cadarnhaol 77%
Gwahaniaeth o gymharu â’r arolwg blaenorol +8
Gwahaniaeth o gymharu â CS2021 +19
Gwahaniaeth o gymharu â pherfformwyr uchel y GS +13

Atodiad

Rhestr termau

Term Diffiniad
% Cadarnhaol Y gyfran a ddewisodd 'gytuno' neu 'gytuno'n gryf', ar gyfartaledd ar draws yr holl gwestiynau o fewn y thema
Arolwg blaenorol Mae cymariaethau â'r arolwg blaenorol yn ymwneud â chanlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020
CS2021 Meincnod CS2021 yw canolrif y ganran gadarnhaol ar draws yr holl sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021
Perfformwyr uchel y GS Ar gyfer pob thema dyma sgôr y chwartel uchaf ar draws pob sefydliad sydd wedi cymryd rhan yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021

Talgrynnu

Cyflwynir y canlyniadau fel rhifau cyfan er mwyn hwyluso'r darllen, gan dalgrynnu yng ngham olaf y cyfrifo er mwyn sicrhau’r cywirdeb gorau posibl. Felly mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaethau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i ffigurau wedi’u talgrynnu y sgoriau sy'n cael eu cymharu.

Er enghraifft, os yw eich sgôr Mynegai Ymgysylltiad heb ei dalgrynnu yn 75.43647583%, sgôr cyffredinol eich sefydliad yw 74.63572484% a’r gwahaniaeth rhwng y ddau yw +0.800751%, yn yr adroddiad hwn byddai'r sgoriau hyn yn ymddangos fel 75%, 75% a +1.

Y mynegai ymgysylltu â chyflogeion

Mae'r arolwg yn cynnwys pum cwestiwn sy'n creu'r mynegai ymgysylltu.

Mae’r sgôr mynegai yn cynrychioli lefel gyfartalog yr ymgysylltu yn yr uned honno ac yn amrywio o 0 i 100. Mae sgôr mynegai o 0 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn yr uned honno’n dweud eu bod yn anghytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu ac mae sgôr o 100 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn cytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu.

Cyfrinachedd

Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet ar ran yr holl sefydliadau sy’n cymryd rhan. Comisiynir sefydliad allanol gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal yr Arolwg.

Er mwyn diogelu anhysbysedd unigolion, ni adroddir ar grwpiau o lai na 10 ymatebydd, ond mae eu hymatebion yn cyfrannu at y sgoriau cyffredinol ar gyfer yr uned a'r sefydliad y maent yn perthyn iddynt a chanlyniadau cyffredinol y Gwasanaeth Sifil.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil i’w weld ar GOV.UK