Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Crynodeb

Cynhaliwyd yr arolwg Pobl rhwng 22 Medi a 31 Hydref.

  • Cymerodd 74 o staff ACC ran yn yr arolwg.
  • Cyfradd ymateb o 89%.
  • Roedd mynegai ymgysylltiad gweithwyr ar gyfer ACC yn 77% cadarnhaol.

Mae ymgysylltu â gweithwyr yn ddull gweithle sydd wedi'i gynllunio er mwyn sicrhau bod gweithwyr wedi ymrwymo i nodau a gwerthoedd eu sefydliad, a'u bod yn cael eu cymell i gyfrannu at lwyddiant sefydliadol.

Prif ganlyniadau

Canlyniadau Arolwg Pobl ACC 2022 ar gyfer ymgysylltiad gweithwyr a 9 thema graidd

Thema

% Cadarnhaol

O’i gymharu â’r arolwg blaenorol O’i gymharu â Meincnod y Gwasanaeth Sifil
Mynegai ymgysylltu

77%

-1

+13

Fy ngwaith

89%

0

+11

Amcanion a diben sefydliadol

92%

0

+9

Fy rheolwr

88%

0

+11

Fy nhîm

92%

-3

+9

Dysgu a datblygu

67%

0

+12

Cynhwysiant a thriniaeth deg

93%

+1

+12

Adnoddau a llwyth gwaith

93%

+3

+18

Cyflog a buddion

79%

-5

+52

Arweinyddiaeth a rheoli newid

79%

+2

+25

Atodiad

Rhestr termau
Term Diffiniad
% Cadarnhaol Y gyfran a ddewisodd 'gytuno' neu 'gytuno'n gryf', ar gyfartaledd ar draws yr holl gwestiynau o fewn y thema
Arolwg blaenorol Mae cymhariaethau â'r arolwg blaenorol yn ymwneud â chanlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021
Meincnod y Gwasanaeth Sifil Canolrif y ganran gadarnhaol ar draws yr holl sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022

Mynegai ymgysylltiad gweithwyr

Mae'r arolwg yn cynnwys 5 cwestiwn sy'n creu'r mynegai ymgysylltiad.

Mae’r sgôr mynegai yn cynrychioli lefel gyfartalog yr ymgysylltu yn yr uned honno ac yn amrywio o 0 i 100. Mae sgôr mynegai o 0 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn yr uned honno’n dweud eu bod yn anghytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu ac mae sgôr o 100 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn cytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu.

Talgrynnu

Cyflwynir y canlyniadau fel rhifau cyfan er mwyn hwyluso'r darllen, gan dalgrynnu yng ngham olaf y cyfrifo er mwyn sicrhau’r cywirdeb gorau posibl. Felly mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaethau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i ffigurau wedi’u talgrynnu y sgoriau sy'n cael eu cymharu.

Er enghraifft, os yw eich sgôr Mynegai Ymgysylltiad, heb ei dalgrynnu, yn 75.4%, sgôr cyffredinol eich sefydliad yw 74.6%, yn yr adroddiad hwn byddai'r sgorau hyn yn ymddangos fel 75%.

Cyfrinachedd

Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet ar ran yr holl sefydliadau sy’n cymryd rhan. Comisiynir sefydliad allanol gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal yr Arolwg.

Er mwyn diogelu anhysbysedd unigolion, ni adroddir ar grwpiau o lai na 10 ymatebydd, ond mae eu hymatebion yn cyfrannu at y sgoriau cyffredinol ar gyfer yr uned a'r sefydliad y maen.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil i’w weld ar GOV.UK