Bydd yr arolygon hyn yn ein galluogi i ddeall yn well ein perthynas â rhanddeiliaid a sut y gallwn eu gwella.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Rhanddeiliaid Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cynhaliwyd arolwg 2010 gan Ipsos MORI. Ei nod cyffredinol oedd asesu perfformiad meysydd ac adrannau Cyfarwyddwyr Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cyfanrwydd yng nghyd-destun ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Cynlluniwyd yr arolwg hefyd gyda’r bwriad o ddarparu tystiolaeth sylfaenol er mwyn datblygu’r ffordd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, ac yn cynnwys rhanddeiliaid, a darparu data y gellir eu cymharu â chanfyddiadau 2006 a 2008.