Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Mae gan yr Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd rôl unigryw wrth fonitro a mynd i'r afael ag iechyd parhaus y sector amgueddfa yng Nghymru. Yn hanesyddol, mae Sbotolau wedi darparu data hanfodol i hysbysu cynllunio, ariannu, a phenderfyniadau strategol yng nghyd-destun amgueddfeydd ers ei sefydlu yn 2006. Mae'r adroddiad yn tynnu ar ddata cymharydd o gylchoedd arolwg blaenorol, yn benodol data a gasglwyd yn 2019 [troednodyn 1]. Mae'r ymchwil hwn yn cynrychioli cyfle i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith y data a gynhyrchir ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer y sector amgueddfeydd yng Nghymru.

Comisiynwyd Emma Chaplin Gwasanaethau Treftadaeth am Amgueddfeydd gan yr Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru i gynnal Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd 2022 ac i gynnig cefnogaeth i'r sector amgueddfeydd cyn ac yn ystod y gwaith maes. Yn ychwanegol, mae cyfres o sesiynau lledaenu ac ymgysylltu gyda'r sector amgueddfeydd wedi'u cynllunio i gyfathrebu canfyddiadau allweddol.

Methodoleg

Mae'r Arolwg Sbotolau yn casglu data ansoddol a meintiol ac mae'r cwestiynau yn cynnig data nominal, trefnol a chyfwng.

Anfonwyd holiadur arolwg llawn at yr holl amgueddfeydd achrededig yng Nghymru. Gwnaeth hyn roi maint sampl posib mwyaf o 111 o amgueddfeydd. Derbyniwyd saith deg saith o ymatebion yn cynrychioli 69% o gyfradd ddychwelyd.

Roedd yr arolwg yn agored am bedair wythnos o'r 24 Chwefror 2023. Rhoddwyd estyniadau unigol hyd at wythnos gyntaf Ebrill i sicrhau bod ymatebion a oedd yn weddill yn cael eu derbyn. Cyflwynwyd dau weithdy cymorth dwyieithog rhithiol yn ystod cyfnod yr arolwg. Rhoddwyd cymorth ychwanegol trwy flwchpost e-bost pwrpasol.

Canfyddiadau

Mae'r holl ganfyddiadau yn perthyn i'r ymatebion gan y 77 amgueddfa a gwblhaodd yr arolwg Sbotolau 2022.

Ymwelwyr â'r amgueddfeydd

Yn 2022, cafwyd 3,011,763 o ymwelwyr â'r amgueddfeydd yng Nghymru a gwblhaodd yr arolwg. Mae hyn i'w gymharu â 4,333,520 o ymweliadau yn 2019. Mae lefelau ymwelwyr amgueddfeydd wedi adfer i 69% o lefelau cyn Covid-19. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfeydd annibynnol a phrifysgol ar dros 80% o adferiad.

Trosolwg ariannol

Dengys cyllidebau gweithredu cyfartalog ar gyfer amgueddfeydd yn yr arolwg gyllidebau stond ar y cyfan rhwng 2018 a 2021 ar gyfer amgueddfeydd annibynnol ac awdurdod lleol. Mae eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dangos cwymp ar gyfer y cyfnod hwn, ond gallai hyn fod yn gysylltiedig â gweithgareddau penodol i safle. Mae amgueddfeydd prifysgol hefyd yn dangos cwymp mewn cyllidebau gweithredu cyfartalog.

Mae saith deg pump y cant o'r amgueddfeydd a gwblhaodd Sbotolau 2022 yn erbyn cefnogaeth gan eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth refeniw uniongyrchol ar gyfer amgueddfeydd a redir fel gwasanaeth awdurdod lleol, cefnogaeth ariannol trwy ryddhad ardrethi ac ariannu refeniw rheolaidd. Gallai'r gefnogaeth fod mewn nwyddau hefyd trwy feddiannaeth adeiladau am ddim neu am gost isel, gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau a chefnogaeth fentora o dan delerau y cynllun achredu [troednodyn 2]. O'r rheiny oedd yn derbyn cymorth, adroddodd 15% gynnydd mewn lefelau cymorth, gwelodd 33% ostyngiad mewn cymorth a dywedodd 52% fod y lefelau cymorth wedi aros yr un fath.

Mae dros 70% o amgueddfeydd a ymatebodd i'r arolwg wedi dod ag ariannu grant yn llwyddiannus i'w safleoedd o ffynonellau gan gynnwys llywodraeth, cyllidwyr sector, cyrff dosbarthu grantiau mawr ac elusennau arbenigol.

Adroddodd saith deg y cant o amgueddfeydd yn yr arolwg am godi tâl am arddangosfeydd neu wasanaethau penodol y tu hwnt i godi tâl mynediad cyffredinol. Adroddwyd am hyn gan amgueddfeydd o bob math o lywodraethu gan gynnwys y rheiny sy'n codi tâl a'r rhai nad ydynt yn codi tâl am fynediad. Roedd enghreifftiau eraill o ffynonellau incwm yn cynnwys llogi ystafell, teithiau a gweithdai, trwyddedu delweddau, ffilmio, ymchwilio i wrthrychau ac addysgu ffurfiol.

Gweithlu amgueddfa

Yn 2022, roedd y 77 amgueddfa yng Nghymru a gwblhaodd yr arolwg yn cyflogi 1,414 o staff (893 staff cyfwerth ag amser llawn).

O'r 893 o staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd mae 60% (538 cyfwerth ag amser llawn) yn cael eu cyflogi ar safleoedd cenedlaethol a 25% (226 cyfwerth ag amser llawn) mewn amgueddfeydd awdurdod lleol ac annibynnol.

Mae staffio Cyfwerth ag Amser Llawn ar draws y sector amgueddfa yn parhau yn weddol sefydlog yn gyffredinol er bod amgueddfeydd annibynnol a phrifysgol wedi gweld cynnydd o 19 a 32 pwynt canran yn y drefn honno mewn staffio rhwng arolygon Sbotolau 2019 a 2022.

Yn 2022 roedd 1,893 o wirfoddolwyr yn cyfrannu 180,137 awr o gefnogaeth gwirfoddol. Mae cwymp wedi bod yn nifer cyffredinol y gwirfoddolwyr yn sector amgueddfeydd Cymru ers arolwg 2019 o'i gymharu â staff cyflogedig. Dangosir hyn yng nghanran y gwirfoddolwyr sy'n rhan o'r sector ar draws y ddau arolwg, gyda chwymp cyffredinol o 32 pwynt canran rhwng arolygon 2019 a 2022. Dim ond amgueddfeydd prifysgol sydd wedi cynyddu eu niferoedd gwirfoddolwyr.

Casgliadau

Mae gan amgueddfeydd a ymatebodd i Sbotolau 2022 dros 6,300,000 o wrthrychau yn eu casgliadau. Mae ymron i 80% ohonynt yn cael eu cadw mewn amgueddfeydd cenedlaethol.

Mae data Sbotolau 2022 yn cadarnhau bod ymron i 90% o amgueddfeydd yng Nghymru yn debygol o fod â storfeydd gorlawn mewn llai na 5 mlynedd. Adroddodd wyth deg wyth y cant o ymatebwyr amgueddfa eu bod eisoes yn orlawn neu fe fyddant mewn llai na 5 mlynedd. Mae'r ffigwr yn union yr un fath (88%) i ganlyniadau Sbotolau 2019, er bod y dadansoddiad ychydig yn wahanol (61% eisoes yn orlawn yn 2019 yn erbyn 57% yn 2023).

Mae ymron i bob amgueddfa yn cynnig rhyw fynediad ar-lein i'w casgliadau. Mae dros hanner amgueddfeydd yn defnyddio gwefan Casgliad y Bobl Cymru [troednodyn 3] i ddarparu mynediad digidol.

Dysgu

Yn 2022 croesawodd amgueddfeydd a oedd yn llenwi'r arolwg 319,664 o gyfranogwyr dysgu. Roedd 5,463 o sesiynau dysgu ffurfiol gyda 160,123 o gyfranogwyr a 2,165 o sesiynau dysgu anffurfiol gyda 159,541 o gyfranogwyr. Nid yw cynulleidfaoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol wedi adfer i'w lefelau cyn-bandemig hyd yma. Mae adfer yn mynd rhagddo ond nid yw wedi'i gwblhau eto.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rhoddodd saith deg naw y cant o amgueddfeydd ddarpariaeth wedi'i thargedu rhwng 2019 a 2022 i gynulleidfaoedd gyda nodweddion gwarchodedig. Roedd gan 26% ddarpariaeth wedi'i thargedu yn ymwneud ag anabledd, 25% ar gyfeiriadedd rhywiol a 23% ar hil ac ethnigrwydd. Yn ychwanegol, rhoddodd 43% o amgueddfeydd ddarpariaeth wedi'i thargedu ar gyfer pobl â dementia. Dywedodd un ar bymtheg o'r 77 amgueddfa a ymatebodd nad oeddent wedi darparu unrhyw arddangosfeydd, digwyddiadau na gweithgareddau oedd yn targedu cymunedau penodol ers arolwg 2019.

Mae dau ar bymtheg y cant o'r amgueddfeydd a gwblhaodd yr arolwg wedi ymgysylltu â phob un o'r pum gweithgaredd blaenoriaeth a restrir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol.

Mae tri deg pedwar y cant o staff amgueddfeydd yn siaradwyr Cymraeg ochr yn ochr â phedwar ar bymtheg y cant o ymddiriedolwyr a deunaw y cant o wirfoddolwyr.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Mae'r ymatebion yn awgrymu bod 13% o amgueddfeydd mewn risg ganolig neu'n uwch o lifogydd o afonydd, tra bod bron i 17% mewn risg ganolig neu'n uwch o lifogydd o ddŵr wyneb neu gyrsiau dŵr bach.

Ni adroddodd unrhyw ymatebwyr eu bod wedi defnyddio offeryn cyfrifiannell carbon Julie Bicycle.

Adfer wedi COVID-19

Adroddodd traean o'r amgueddfeydd a ymatebodd i'r arolwg am aflonyddu yn y patrymau agor yn ystod 2022. Mae'r niferoedd ymwelwyr, ffigurau ymgysylltu mewn dysgu ffurfiol, ac ymatebion i 'Beth ydych chi'n ei weld fel yr heriau mwyaf i'ch amgueddfa yn ystod y ddwy flynedd nesaf?' yn awgrymu bod adferiad i'r sefydliadau ar ôl y pandemig ymhell o fod yn gyflawn nac yn ddiogel.

Partneriaethau

Mae chwe deg pedwar y cant o amgueddfeydd nad ydynt yn rhai cenedlaethol wedi defnyddio gwasanaethau a ddarparwyd gan Amgueddfa Cymru, gyda dros hanner o'r rheiny wedi defnyddio mwy nac un gwasanaeth. Benthyg gwrthrych, cyngor cadwraeth a chyngor casgliadau yw'r gwasanaethau a ddefnyddir yn fwyaf rheolaidd.

Adroddodd un ar hugain y cant o amgueddfeydd a lenwodd yr arolwg eu bod wedi cael gwahoddiad i gyflenwi data fel rhan o adrodd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys 9 amgueddfa Awdurdod Lleol (36%) a 7 o safleoedd amgueddfa genedlaethol (100%).

Troednodiadau

Manylion cyswllt

Awduron: Emma Chaplin, Jane Henderson, Phil Parkes

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Emma Sullivan
Ebost:cymral@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 83/2023
ISBN digidol 978-1-83504-654-8

Image
GSR logo