Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a nodau'r ymchwil

Comisiynodd Isadran Diwylliant Llywodraeth Cymru Emma Chaplin Gwasanaethau Treftadaeth ac Amgueddfeydd i ymgymryd â'r Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd 2024. Mae'n arolwg cynhwysfawr o amgueddfeydd yng Nghymru sy'n casglu data i roi darlun cyfredol o sector amgueddfeydd Cymru. Mae canfyddiadau o Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd yn helpu i gyfrannu at amcangyfrifon o effaith gymdeithasol ac economaidd amgueddfeydd yng Nghymru. Cynhaliwyd yr arolwg yn 2006, 2011, 2015 (adroddwyd yn Adolygiad o wasanaethau amgueddfeydd, cyllid ac uchafbwyntiau 2015), 2020 (adroddwyd yn Sbotolau ar amgueddfeydd 2020) a 2022(adroddwyd yn Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd: 2022).

Rhannwyd y nodau ymchwil yn ddau gyfnod o waith penodol. Roedd y cam cyntaf yn gofyn i'r ymchwilwyr gynnal Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd 2024 a darparu cymorth i'r sector amgueddfeydd cyn ac yn ystod prif gamau'r gwaith maes i uchafu ar y gyfradd ymateb. Roedd y cam cyntaf hefyd yn gofyn bod yr ymchwilwyr yn cynhyrchu adroddiad Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth dwyieithog a chynhyrchu isafswm o bum ffeithlen ar thema sy'n ddeniadol yn weledol yn manylu ar ganfyddiadau allweddol yr arolwg fel y gall arweinwyr amgueddfeydd a rhanddeiliaid y sector ledled Cymru gael mynediad hawdd atynt. Nododd yr ail gam y dylai'r ymchwilwyr gyflwyno uchafswm o ddau weithdy dwyieithog rhithwir mewn partneriaeth â chydweithwyr polisi yn Isadran Diwylliant Llywodraeth Cymru a mynychu cyfarfodydd sectoraidd gyda rhanddeiliaid y sector amgueddfeydd i rannu'r canfyddiadau allweddol.

Methodoleg

Arolwg cyfrifiad yw'r modd ymchwilio. Darparodd Llywodraeth Cymru rhestr o gysylltiadau dynodedig ar gyfer 107 o amgueddfeydd sy'n cymryd rhan yn y cynllun achredu. Testun yr arolwg oedd amgueddfeydd o fewn y cynllun achrededig ar ddechrau'r cyfnod arolwg. Pennwyd y rhestr arolwg gan y cleient ac mae'n cynnwys y rheini sy'n gweithio tuag at achrediad, y rheini sydd â statws achrededig llawn a'r rheini sy'n meddu ar achrediad dros dro. Rhoddodd hyn gyfanswm maint sampl posib o 107 o amgueddfeydd. Derbyniodd pob cyswllt holiadur llawn, gwybodaeth arweiniad a chopi o'u hymateb i Sbotolau 2022, os oedd un wedi'i gyflwyno. O'r 107 arolwg a anfonwyd, derbyniwyd 84 ymateb, sef cyfradd dychwelyd o 79%.

Cyflwynwyd dau weithdy cymorth dwyieithog rhithiol yn ystod cyfnod yr arolwg. Rhoddwyd cymorth ychwanegol trwy flwchpost e-bost pwrpasol. Agorodd yr arolwg ar 16 Mehefin 2025 ac fe gaeodd yn swyddogol am hanner nos ar 31 Gorffennaf 2025. Trwy gytundeb, caniatawyd estyniadau o hyd at bythefnos i nifer gyfyngedig o ymatebwyr a chaewyd yr arolwg o'r diwedd ar 17 Awst 2025.

Canfyddiadau

Mae'r holl ganfyddiadau yn perthyn i'r ymatebion gan y 84 amgueddfa a gwblhaodd yr arolwg Sbotolau 2024.

Ymwelwyr â'r amgueddfeydd

Yn 2024 roedd 3,743,804 ymweliad â'r amgueddfeydd a gwblhaodd yr arolwg, sef cynnydd o 4.3% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gan ystyried yr amgueddfeydd a ymatebodd i'r arolygon Sbotolau 2022 a 2024, cynhaliwyd asesiad o niferoedd ymwelwyr o'u cymharu â lefelau cyn Covid. Defnyddiwyd data o ffigurau ymwelwyr 2019 fel y data gwaelodlin cyn Covid.

Yn 2024 adrodda amgueddfeydd prifysgol (123%) ac amgueddfeydd awdurdod lleol (101%) ffigurau ymwelwyr sy'n rhagori ar waelodlin cyn Covid. Mae adferiad ffigurau ymwelwyr mewn amgueddfeydd cenedlaethol wedi cyrraedd 76% o'r waelodlin cyn Covid ac mae amgueddfeydd annibynnol bellach ar 80% o'r ffigurau cyn Covid. Mae'r ddau fath o lywodraethu yn dangos adferiad o un flwyddyn i'r llall gyda chynnydd o 2021 i 2024.

Trosolwg ariannol

Mae cyllidebau gweithredu cyfartalog amgueddfeydd blynyddol gwirioneddol yn dangos cynnydd gwylaidd o 2023 i 2024 ar gyfer amgueddfeydd annibynnol (5.9%) ac awdurdodau lleol (5%). Mae amgueddfeydd cenedlaethol yn adrodd cynnydd mewn cyllidebau gweithredu o 11%. Mae cyllidebau gweithredu amgueddfeydd prifysgol wedi gostwng rhwng 2022 a 2024 gan 20%.

Derbyniodd wythdeg chwech y cant (n72) o ymatebwyr i Sbotolau 2024 gefnogaeth gan eu hawdurdod lleol. O'r rheini sy'n derbyn cefnogaeth, adroddodd 51% bod lefelau cefnogaeth wedi aros yr un peth ers i arolwg Sbotolau 2022 gael ei gwblhau, dywedodd 29% ei fod wedi disgyn a 19% wedi adrodd cynnydd mewn cefnogaeth.

Adrodda trideg pedwar y cant o ymatebwyr Sbotolau 2024 eu bod yn codi tâl mynediad tra nad yw 65% yn codi tâl. Adroddodd saith deg y cant o amgueddfeydd (n59) yn yr arolwg eu bod yn codi tâl am arddangosfeydd neu wasanaethau penodol y tu hwnt i dâl mynediad. Y gwasanaethau mwyaf cyffredinol y codwyd tâl amdanynt yw sgyrsiau, digwyddiadau ac ymweliadau addysg ffurfiol.

Gweithlu amgueddfa

Yn 2024 roedd 1,623 o staff, 999 Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) yn cael eu cyflogi yn y 84 amgueddfa a gwblhaodd yr arolwg Sbotolau. Mae dros hanner (57.4%) y staff yn cael eu cyflogi mewn amgueddfeydd cenedlaethol, 22.1% mewn amgueddfeydd awdurdod lleol, 11.2% mewn safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 8.3% mewn amgueddfeydd annibynnol ac 1% mewn amgueddfeydd prifysgol.

Yn 2024, cyfrannodd 3,000 o wirfoddolwyr 326,528 o oriau i'r amgueddfeydd a ymatebodd i'r arolwg.  O'r rhain, mae 2,709 o wirfoddolwyr yn cefnogi gweithrediad o ddydd i ddydd amgueddfeydd, ac mae gan 291 gwirfoddolwr rôl ymddiriedolwr. Mae ymddiriedolwyr yn goruchwylio llywodraethu a chyfeiriad strategol eu hamgueddfeydd ac yn cyfrannu cyfartaledd o 229 awr y flwyddyn. Mae gwirfoddolwyr yn ffurfio dros 80% o weithlu amgueddfeydd prifysgol, annibynnol ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Casgliadau

Cofnododd amgueddfeydd a oedd yn cymryd rhan eu bod yn cadw 6,782,461 gwrthrych yn eu casgliadau. Mae dros hanner (51.2%) o storfeydd amgueddfeydd Cymru eisoes yn orlawn. Erbyn 2030 bydd gan y rhan fwyaf o amgueddfeydd (88.9%) storfeydd gorlawn.

Yn 2024, adroddwyd bod 1,366 o wrthrychau wedi'u hadrodd yn gadael casgliadau amgueddfeydd trwy rodd, gwerthu neu ddinistrio. Mae hyn yn dangos y potensial ar gyfer arweinyddiaeth o fewn Cymru yn ymwneud â rhesymoli casgliadau, ond nad yw rhesymoli casgliadau gweithredol eto wedi'u gwreiddio'n eang yn arfer rheoli casgliadau mewn amgueddfeydd achrededig ar draws Cymru, er gwaethaf problemau storfa orlawn a adroddir.

Dysgu

Ymgysylltodd bron i 4,000 (3,994) ysgol a sefydliad dysgu ffurfiol ag amgueddfeydd yng Nghymru yn 2024.

Darparodd amgueddfeydd Cymru tua 7,248 o sesiynau dysgu ffurfiol wyneb yn wyneb i 223,554 o gyfranogwyr yn 2024. Darparodd amgueddfeydd cenedlaethol sesiynau dysgu ffurfiol i fwy na 150,000 o gyfranogwyr. Cynigiodd amgueddfeydd annibynnol ac awdurdod lleol mwy na 2,000 o weithgareddau i dros 69,000 o gyfranogwyr.

Darparodd amgueddfeydd a oedd yn ymateb i Sbotolau tua 4,899 o sesiynau dysgu ffurfiol digidol i 11,767 o gyfranogwyr yn 2024. Darparodd amgueddfeydd cenedlaethol sesiynau dysgu ffurfiol i 8,781 o gyfranogwyr ar-lein. Cynigiodd amgueddfeydd prifysgol mwy na 141 o weithgareddau i 1,446 o gyfranogwyr.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae amrywiaeth eang o ddarpariaeth wedi'i thargedu ar draws ymatebwyr yr arolwg ar gyfer cynulleidfaoedd â nodweddion gwarchodedig. Digwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar oedran (pobl ifanc a phobl hŷn), siaradwyr Cymraeg a phobl sy'n byw gyda dementia yw'r mwyaf cyffredin. Y meysydd a gafodd eu targedu'n llai cyson yn y rhaglennu oedd cymunedau Sipsi/Roma, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas ac ailbennu rhywedd.

Er bod llawer o amgueddfeydd yn adrodd ar weithgaredd i ddatblygu cynllun neu i gynnwys gwaith yn nogfennau cynllunio ehangach yr amgueddfa, awgryma data y byddai angen ffocws ar amgueddfeydd annibynnol ac awdurdod lleol i ddatblygu gweithgareddau a chynlluniau gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a all ddangos rhaglen weithredu gyson.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Gofynnwyd i amgueddfeydd adrodd ar gyfrifianellau carbon a ddefnyddiwyd a'u canlyniadau. Dim ond tri ymatebydd oedd yn gallu nodi cyfanswm nifer y tunelli o allyriadau carbon o'u gweithgareddau.

Partneriaethau

Mae saith deg un y cant o amgueddfeydd nad ydynt yn rhai cenedlaethol wedi defnyddio gwasanaethau a ddarparwyd gan Amgueddfa Cymru, gyda hanner o'r rheini wedi defnyddio mwy nac un gwasanaeth. Benthyg gwrthrych, cyngor ar gadwraeth a chyngor ar gasgliadau yw'r gwasanaethau a ddefnyddir yn fwyaf rheolaidd. Mae dros 75% o amgueddfeydd awdurdod lleol a 67% o amgueddfeydd annibynnol wedi defnyddio'r gwasanaethau gyda llawer yn defnyddio gwasanaethau lluosog.

Manylion cyswllt

Awduron: Emma Chaplin, Jane Henderson, Phil Parkes a Esther Roberts

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Yr Is-adran Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: diwylliant@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 21/2026
ISBN digidol 978-1-83715-968-0

Image
GSR logo