Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 yw'r chweched mewn cyfres o arolygon cyflogwyr ar raddfa fawr ledled y DU sy'n darparu ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y farchnad lafur ar yr heriau sgiliau sy'n wynebu cyflogwyr a lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a datblygiad.
Cynhaliwyd Arolwg 2022 ar ôl pandemig COVID-19. Yn y cyfnod hwn, mae Cymru, y DU, a'r economi fyd-eang wedi wynebu heriau economaidd digynsail. Mae'r data hwn yn werthfawr o ran deall sefyllfa ddiweddar y farchnad lafur i gyflogwyr a dangos sut mae pethau wedi newid dros amser. Fe wnaeth 4,825 o gyflogwyr yng Nghymru gymryd rhan yn Arolwg 2022 (gyda 72,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg ledled y DU). Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng Mehefin 2022 a Mawrth 2023.
Mae'r datganiad hwn yn darparu adroddiadau cryno rhanbarthol a thablau data, gan ganolbwyntio ar y pynciau isod:
- recriwtio a heriau allanol
- yr her sgiliau mewnol
- hyfforddiant a datblygiad y gweithlu
- Prentisiaethau
- arferion Gwaith Perfformiad Uchel
Adroddiadau

Adroddiad canolbarth a de orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 242 KB

Adroddiad canolbarth Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 249 KB

Adroddiad gogledd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 243 KB

Adroddiad de ddwyrain Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 243 KB

Adroddiad de orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 245 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tablau data canolbarth a de orllewin Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB

Tablau data canolbarth Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 2 MB

Tablau data gogledd Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 2 MB

Tablau data de ddwyrain Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB

Tablau data de orllewin Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
James Carey
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.