Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.

Rydym wedi diweddaru'r adroddiad hwn oherwydd mân wallau a nodwyd gan IFF Research yn y dadansoddiad ac adrodd. Nid yw'r cywiriadau hyn yn effeithio ar y canfyddiadau neu'r casgliadau cyffredinol. Mae'r diwygiadau yn mynd i'r afael â materion ystadegol a methodolegol ac yn gwella'r eglurder ac yn sicrhau dehongliad cytbwys o newidiadau bach neu ddim ystadegol arwyddocaol.

Comisiynwyd yr adroddiad hwn o dan lywodraeth flaenorol. Efallai na fydd y cyfeiriad polisi a'r blaenoriaethau a ddisgrifir yn yr adroddiad yn adlewyrchu rhai y llywodraeth bresennol.

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 yw'r seithfed mewn cyfres o arolygon a gynhaliwyd ar raddfa fawr o sefyllfa cyflogwyr ledled y DU, ac roedd yn cynnwys 5,605 o gyflogwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd gwaith yr arolwg rhwng Mehefin 2024 a Ionawr 2025.

Y prif ganfyddiadau

Yn 2024 yng Nghymru, gwelwyd lleddfu ar y pwysau mewnol o ran sgiliau, a llai o fwrlwm yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn parhau i wynebu mwy o anawsterau recriwtio o safbwynt sgiliau nag a wnaethant yng nghanol y 2010au, sy'n adlewyrchu patrwm a welir ledled y DU.

  • Yn galonogol, mae'r bylchau yn sgiliau'r gweithlu presennol yng Nghymru wedi lleihau ers yr arolwg diwethaf yn 2022, ac maent bellach ar y lefelau isaf a gofnodwyd yn y gyfres o Arolygon Sgiliau Cyflogwyr. 
  • Ar ôl y cynnydd sydyn mewn swyddi gwag yn 2022, gostyngodd eu nifer i'r lefelau a welwyd yn 2015 a 2017. 
  • Gostyngodd cyfran y swyddi gwag y mae cyflogwyr yn eu disgrifio fel rhai anodd eu llenwi oherwydd diffyg sgiliau, profiad neu gymwysterau (swyddi gwag lle mae prinder sgiliau ) o'r lefel uchaf erioed yn 2022, ond arhosodd yn uwch nag yn y cyfnod rhwng 2011 a 2017. 

Bu gostyngiad cyffredinol yn y tymor hirach yn lefelau ymgysylltu cyflogwyr â hyfforddiant, ac yn y lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant yng Nghymru, yn unol â phatrymau'r DU. 

  • Bu gostyngiad graddol yng nghyfran y cyflogwyr yng Nghymru a oedd yn darparu hyfforddiant yn 2024, o'i gymharu â'r cyfnod rhwng 2015 a 2019. 
  • Mae'r buddsoddiad ariannol cyffredinol mewn hyfforddiant wedi gostwng mewn termau real o'i gymharu â 2022. 
  • Ar yr un pryd, arhosodd cyfran y gweithlu a hyfforddwyd ar lefelau tebyg, a chynyddodd cyfanswm nifer y staff a hyfforddwyd o'i gymharu â 2015, sy'n golygu bod cyflogwyr bellach yn gwario llai ar hyfforddiant fesul cyflogai a fesul hyfforddai. 

Mae Cymru yn parhau i gymharu'n ffafriol â gwledydd eraill y DU o ran cyfran y cyflogeion sydd wedi'u hyfforddi a nifer y diwrnodau hyfforddi a ddarperir i staff.

Mae'r arolwg hefyd yn darparu data ar feysydd fel prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith, anghenion sgiliau'r dyfodol, deallusrwydd artiffisial (AI), a Sero Net a manylion ar lefel sector, galwedigaeth, maint cyflogwr a lefel ranbarthol.

Nodyn ar ddiwygiadau

Mae diwygiadau'n cywiro materion ystadegol a methodolegol gan gynnwys: 

  • profion arwyddocâd anghywir
  • gwallau talgrynnu
  • meintiau bôn anghywir neu anghyson 

Maent hefyd yn diweddaru'r naratif i: 

  • sicrhau dehongliad cytbwys o newidiadau bach neu nad ydynt yn arwyddocaol
  • gwella eglurder, cywirdeb a chysondeb wrth gyflwyno a labelu canfyddiadau.

Mae mwy o fanylion ar gael ar gais.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Pecyn sleidiau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 983 KB

PDF
983 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tablau data , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB

ODS
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cyflogadwyedd a Sgiliau

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.