Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolwg hon yn adrodd ar dâl prentisiaid, eu henillion ac os derbyniwyd y cyflog isafswm ai peidio.

Prif amcan yr ymchwil oedd darparu darlun manwl cywir, cyfoes o dâl y boblogaeth prentisiaid, dros Brydain ac o fewn Lloegr, yr Alban a Chymru, er mwyn cynorthwyo datblygiad a monitro polisi Prentisiaeth ac Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Er enghraifft, mae tystiolaeth o’r Arolwg Tâl Prentisiaethau yn cyfrannu at argymhellion y Comisiwn Cyflogau Isel i Lywodraeth ar gyfer y gyfradd isafswm cyflog Prentisiaethau.

Cynhaliwyd 9,422 cyfweliad ffôn gyda phrentisiaid rhwng Mehefin 9, 2016 a Gorffennaf 25, 2016; cynhaliwyd 1,793 cyfweliad gyda phrentisiaid Lefel 2 a Lefel 3 yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda phrentisiaid Lefel 4 (103 cyfweliad) a Lefel 5 (83 cyfweliad) yng Nghymru.

Cyhoeddwyd yr adroddiad gan BEIS ar wefan Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2017 ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Adroddiadau