Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer wythnosau 9 i 13.

Tripiau a gymerwyd yng Nghymru yn ystod haf 2020

O ganol mis Awst, roedd 1 o bob 6 (16%) o breswylwyr DU wedi cymryd gwyliau  domestig dros nos neu wyliau byr, ychydig yn uwch na'r 15% a fwriadai eu cymryd ym mis Gorffennaf/Awst cyn i'r cyfyngiadau gael eu codi. Mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn tripiau a gymerwyd o’u gymharu â'r rhai arfaethedig wedi'i ysgogi gan 'VFR' (ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau), a thros draean y tripiau yn perthyn i'r categori hwn, o’u cymharu â llai na 1 o bob 4 o dripiau arfaethedig.

Ymddengys mai teuluoedd sydd wedi gyrru’r tripiau a wnaed i Gymru, a bron hanner yr holl bobl a aeth ar dripiau yng Nghymru ym mis Gorffennaf/Awst yn perthyn i'r cyfnod bywyd hwn, sy'n uwch o lawer na'r 1 o bob 3 o'r rhai a aeth ar dripiau. Mae'n fwy tebygol i COVID-19 gael effaith ariannol ar y rhai sy'n cymryd tripiau yng Nghymru na'r rhai sy’n bwriadu mynd ar drip, gan awgrymu bod y rhai sy'n ceisio gwerth da am arian yn fwy tebygol o adael eu penderfyniad ynghylch trip i'r funud olaf.

Y teimlad cyffredinol ym marchnad gwyliau byr a gwyliau’r DU

Adeg yr arolwg rhwng canol Gorffennaf a chanol Awst, mae pobl yn parhau’n ofalus ynghylch cynnal gweithgarwch hamdden ymhlith preswylwyr o’r DU a Chymru. Fodd bynnag, mae lefelau cyfforddusrwydd wedi cynyddu ers canol mis Mehefin a chanol mis Gorffennaf, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau megis 'bwyta mewn bwyty', efallai yn sgil y cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan. Er gwaethaf lefelau cysur cynyddol ynghylch gweithgareddau bob dydd, mae hyder yn y gallu i gymryd gwyliau byr neu wyliau o fis Medi ymlaen naill ai wedi gwastatáu neu wedi gostwng. 

Proffiliau Ymwelwyr a Thripiau Cymru ar gyfer yr hydref/gaeaf

Ymhlith preswylwyr y DU sy'n cynllunio gwyliau domestig yr hydref hwn (rhwng mis Medi a mis Hydref), Cymru yw cyrchfan rhif pedwar – De-orllewin Lloegr, yr Alban a Gogledd-orllewin Lloegr yw’r tair uchaf. Yn debyg i fwriadau'r haf, mae preswylwyr o Gymru, gorllewin Canolbarth Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr yn fwyaf tebygol o fwriadu cymryd gwyliau byr neu wyliau yng Nghymru yn yr hydref eleni. 

Mae bwriadwyr i Gymru bob amser yn fwyaf tebygol o berthyn i'r segment agwedd 'mae bywyd yn mynd ymlaen' sy'n awgrymu y bydd pobl yn agored i gynnal amrywiaeth o weithgareddau ar eu trip. Fodd bynnag, mae misoedd yr hydref a'r gaeaf yn fwy tebygol na misoedd yr haf o ddenu ymwelwyr gofalus oherwydd COVID. Mae gan Gymru gynrychiolaeth uwch o segment gofalus oherwydd COVID, gan awgrymu unwaith ei bod yn cael ei hystyried yn gyrchfan 'risg isel'.

Llety, archebu a theithio

'Hunanarlwyo masnachol' yw'r math o lety rhif un ymhlith bwriadwyr hydref a gaeaf Cymru, sy'n llawer mwy ffafriol na misoedd yr haf. Mae gan ymwelwyr fwriadau uwch i aros mewn llety â gwasanaethau yn ystod eu tripiau i Gymru yn yr hydref a'r gaeaf o’u cymharu â'r defnydd is na'r arfer o lety â gwasanaethau ar dripiau a gymerwyd yn ystod cyfnod yr haf.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): 13 Gorffennaf i 14 Awst 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Stephens

Rhif ffôn: 0300 025 5236

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.