Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer wythnosau 5 i 8.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth (proffil Cymru)
Newidiadau allweddol o’u cymharu ag ymchwil wythnosau 1 i 4
Mae lefelau cyfforddusrwydd gyda gweithgaredd hamdden 'bob dydd' wedi cynyddu'n sylweddol, yn arbennig o ran 'siopa yn eich canolfan siopa leol’.
Mae'r hyder i gymryd gwyliau yn y DU neu wyliau byr ym mis Gorffennaf, Awst a Medi yn uwch nag yn wythnosau 1 i 4 ymhlith preswylwyr y DU a phreswylwyr Cymru.
Bellach pryderon ynghylch dal COVID-19 a chyfleoedd i fwyta/yfed allan yw'r prif resymau dros ddiffyg hyder ynghylch cymryd gwyliau neu wyliau byr yn y DU ymhlith preswylwyr y Deyrnas Unedig, gan ddisodli 'cyfyngiadau'r llywodraeth’.
Mae preswylwyr y DU yn dal i fod yn debygol o gymryd llai o wyliau neu wyliau byr byr yn y DU nag arfer, ond yn llai felly nag yn wythnosau 1 i 4. Mae hyn amlycach ymhlith preswylwyr y DU na phreswylwyr Cymru, er bod mwy o preswylwyr Cymru bellach 'yn y farchnad' ar ôl newid o 'ddim yn gwybod' i 'byddaf yn cymryd tua'r un faint o dripiau yn y DU’.
Mae cyfran preswylwyr y DU sy'n bwriadu mynd ar wyliau domestig yn ystod yr haf eleni yn sylweddol uwch nag yn wythnosau 1 i 4, ac ychydig yn uwch ymhlith preswylwyr Cymru.
Mae archebion gwyliau ymhlith bwriadwyr wedi cynyddu'n sylweddol, ond mae mwyafrif eto i’w harchebu.
Mae'r gyfran o 'annibynwyr hŷn' sy'n bwriadu mynd ar drip i Gymru yr haf hwn wedi cynyddu, a chyn-nythwyr yn gostwng.
Mae cyfran sylweddol uwch o fwriadwyr y gaeaf o'r DU yn nodi bod ganddynt lai o incwm, a’u hanner yn perthyn i raddau cymdeithasol AB.
Mae'r bwriad i ymweld â 'thref arfordirol/glan môr draddodiadol' ar drip haf i Gymru yn sylweddol uwch nag yn wythnosau 1 i 4 (yn codi o 26% i 45%), ond mae tripiau dinas neu dref fawr yn is. Mae'r newidiadau, yn rhannol, yn adlewyrchu'r symudiadau o ran cynrychiolaeth cyfnodau bywyd.
Mae gan bartïon sydd â 'phlant, wyrion neu wyresau neu oedolion ifanc gyda rhieni' gynrychiolaeth uwch mewn tripiau haf i Gymru nag yn wythnosau 1 i 4.
Bu cynnydd mawr o ran y bwriadwyr haf sy’n cynllunio 'llety carafanau/gwersylla'.
Adroddiadau
Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): 15 Mehefin i 10 Gorffennaf 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
David Stephens
Rhif ffôn: 0300 025 5236
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.