Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer tonnau 40 i 42.

Bwriadau tripiau sydd ar ddod

  • Gan adlewyrchu lefelau uwch o hyder a chyfforddusrwydd, mae preswylwyr o'r DU ac o Gymru yn rhagweld y byddant yn cymryd llawer mwy o dripiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf nag yn y 12 mis blaenorol.
  • Mae hyder cymharol gryf y byddai tripiau’n mynd rhagddynt yn golygu, o gymharu â 2021, bod cyfran uwch o breswylwyr o’r DU yn rhagweld trip dros nos yn y Gaeaf, y Gwanwyn a’r Haf; er enghraifft, mae 37% yn rhagweld trip haf yn y DU yn 2022, o gymharu â 27% yn rhagweld un yn 2021.
  • Mae tripiau dros nos yn y DU yn parhau i gael eu ffafrio mwy na thripiau tramor, gyda bwlch mawr o ran bwriad y trip a hyder yn y trip. 
  • Cymru yw'r 8fed cyrchfan a ffefrir fwyaf ar gyfer trip dros nos yn y Gaeaf/Gwanwyn (er bod diddordeb yn codi i ran olaf y cyfnod hwn), a'r 3ydd safle a ffefrir fwyaf yn yr haf.
  • Cymru yw prif gyrchfan preswylwyr o Gymru o hyd, er bod mwyafrif y bwriadwyr yn dod o fannau eraill yn y DU.
  • Yn gyson â 2021, Eryri yw prif gyrchfan trip dros nos yng Nghymru ar draws y ddau gyfnod amser, ac yna Llandudno a Bae Colwyn a Sir Benfro.

Bwriadau tripiau undydd

  • Mae preswylwyr o Gymru yn fwy tebygol na phreswylwyr o bob rhan o’r DU o fod yn cynllunio trip undydd i bob math o gyrchfan erbyn mis Mehefin eleni.
  • Mae cyfnod bywyd ymgymerwyr tripiau undydd yn amrywio yn dibynnu ar y math o gyrchfan, cyfnodau bywyd hŷn yn fwy cyffredin ymhlith ‘ymgymerwyr tripiau undydd arfordir gwledig’ a chyfnodau bywyd iau yn fwy amlwg mewn ‘dinasoedd mawr’ a ‘dinasoedd neu drefi llai’.

Teithio at ddibenion busnes

  • Dim ond 16% o oedolion y DU sydd mewn cyflogaeth sy’n bwriadu mynd ar drip busnes dros nos yn y tri mis nesaf, gan ostwng ychydig i 12% o breswylwyr o Gymru. ‘Adeiladu tîm’ yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros drip dros nos, a ddewisir gan dros draean (34%).

Tripiau a gymerwyd ers mis Ebrill 2021

  • Aeth 53% o breswylwyr o’r DU a 46% o breswylwyr o Gymru ar drip dros nos i’r DU ers mis Ebrill 2021.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): tonnau 40 i 42 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB

PDF
8 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jen Velu

Rhif ffôn: 0300 025 0459

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.