Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer tonnau 37 i 39.

Bwriadau tripiau sydd ar ddod

  • Mae 31% o breswylwyr y DU yn bwriadu mynd ar drip dros nos rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, ychydig yn is ymhlith preswylwyr o Gymru (ar 29%).
  • Mae teithio dramor yn annhebygol o fygwth tripiau yn y DU - pe bai cyfyngiadau teithio dramor yn cael eu codi, mae'r mwyafrif llethol yn nodi y byddent yn mynd ar eu trip dros nos y DU fel y cynlluniwyd.
  • Mae pob cam bywyd yn debygol o archebu eu trip dros nos yn agosach at y dyddiad nag arfer, er y bydd tua hanner yn archebu yn unol ag ymddygiad nodweddiadol.

Bwriadau hamdden cyffredinol a thripiau dydd

  • Mae 7 o bob 10 o breswylwyr y DU a Chymru yn bwriadu mynd ar drip dydd erbyn yr hydref neu'n hwyrach. Mae bwriadau ar eu huchaf ar gyfer ardaloedd cyrchfan llai poblog fel ‘tref arfordirol/glan môr traddodiadol’ a ‘chefn gwlad neu bentref’, ac yn is ar gyfer dinasoedd mawr.
  • Yn unol â lefelau cyfforddusrwydd cynyddol, mae ymgysylltiad y cyhoedd yn y DU mewn gweithgareddau hamdden wedi cynyddu gyda phob mis yn olynol ers i gyfyngiadau gael eu codi yn gynharach eleni – mis Awst gyda’r adroddiad uchaf.
  • Mae bwriadau hamdden yn parhau i fod yn gryfach ar gyfer atyniadau a gweithgareddau awyr agored.

Tripiau a gymerwyd ers mis Ebrill

  • Cymerodd 40% o breswylwyr o'r DU a 45% o breswylwyr o Gymru wyliau domestig dros nos neu wyliau byr rhwng mis Ebrill a mis Awst.
  • Yn unol â'r bwriadau, cynhyrchodd De-orllewin Lloegr y gyfran uchaf o'r holl dripiau ers mis Ebrill, gyda Chymru yn y 6ed safle ar y cyd.
  • ‘Cefn Gwlad neu bentref’ a ‘thref arfordirol/glan môr traddodiadol’ oedd y ddau brif fath o gyrchfan ar gyfer trip dros nos i Gymru rhwng mis Ebrill a mis Awst, y ddau ohonynt yn mynegeio’n sylweddol uwch na holl dripiau i’r DU.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 2021 (proffil Cymru): tonnau 37 i 39 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 9 MB

PDF
9 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Stephens

Rhif ffôn: 0300 025 5236

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.