Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy’n cyflwyno amcangyfrifon gweithwyr a chyflogaeth yn ôl daearyddiaeth a diwydiant manwl ar gyfer 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn 2022, roedd 1.286 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, sydd 2.2% yn uwch na’r ffigur o 1.259 miliwn yn 2021.
  • O ran y DU yn gyfan, gwelwyd gynnydd o 2.2% rhwng 2021 a 2022.
  • Cafwyd cynnydd yn 11 o’r 12 gwlad y DU neu rhanbarthau Lloegr rhwng 2021 a 2022. Yng Nghymru cafwyd y pumed cynnydd mwyaf (2.2%).
  • Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2021 a 2022 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Trafnidiaeth a Storio (i fyny 11,600) ac yna’r sector Gwasanaeth Llety a Bwyd (i fyny 11,000). Roedd y cwymp mwyaf yn y sector Gwasanaethau  Gweinyddiaeth Busnes a Cymorth (i lawr 10,100).
  • Yn 2022, y sector Iechyd oedd y diwydiant mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 15.3% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 10.8% yn y sector Gweithgynhyrchu, 9.0% yn y sector Addysg a 8.9% yn y sector Manwerthu.
  • Yn 2022, roedd 312,600 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 973,600 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru. Felly roedd 24.3% yn y sector cyhoeddus a 75.7% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer y DU oedd 18.0% yn y sector cyhoeddus a 82.0% yn y sector preifat).

Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Joe Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.