Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi nodweddion demograffig cynghorwyr etholedig ac ymgeiswyr sydd heb eu hethol, gan ganolbwyntio'n benodol ar amrywiaeth ar gyfer 2022.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Data Cymru, arolwg o ymgeiswyr etholiad llywodraeth leol ar gyfer etholiadau Mai 2022.

Roedd yr arolwg yn cynnwys Cynghorwyr ac ymgeiswyr Sir a Thref a Chymuned fel ei gilydd a gofyn set benodedig o gwestiynau a oedd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gwestiynau am ryw a hunaniaeth rhywedd; cyfeiriadedd rhywiol; iaith; ethnigrwydd; oedran; anabledd; crefydd neu gred; iechyd; addysg a chymwysterau; cyflogaeth; a gwaith fel Cynghorydd. Y bwriad yw ailadrodd yr arolwg yn ystod pob etholiad arferol er mwyn olrhain newidiadau yn nodweddion Cynghorwyr ac ymgeiswyr dros amser.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd mwy nag un o bob tri (39%) o'r 1,077 ymgeisydd a ymatebodd i'r arolwg wedi sefyll am etholiad fel Cynghorydd Sir yn y gorffennol; roedd 26% wedi eu hethol o'r blaen.
  • Roedd bron hanner yr ymgeiswyr a ymatebodd i'r arolwg wedi sefyll am etholiad i gyngor Cymuned yn y gorffennol (46%); roedd 42% wedi eu hethol o'r blaen.
  • O'r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd I'r arolwg roedd 40% yn fenyw a 60% yn wryw.
  • Roedd tua hanner o'r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd i'r arolwg (50%) yn 60 oed neu drosodd, roedd tua dau allan o bump (38%) rhwn 40 a 59 blwydd oed, treian (10%) rhwng 25 a 39 blwydd oed a'r 2% a oedd yn weddil rhwng 18 a 24 blwydd oed.
  • Ar y cyfan adroddodd 96% or 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd I'r arolwg eu bod o grŵp ethnig Gwyn.
  • Roedd 88% o'r ymgeiswyr a ymatebodd i'r arolwg yn ystyried eu hun yn heterorywiol neu strêt, 6% fel lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol ac 1% fel unrhyw gyfeiriadedd rhywiol arall.

Adroddiadau

Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol: 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.