Rydym yn ceisio’ch barn ar ddiogelu plant ac oedolion yng nghymru a’r cod ymarfer diogelu.
Cynnwys
Diben yr arolwg
Hoffem gasglu barn ar ‘y rhai dan fandad i roi adroddiad’ a’r cod ymarfer diogelu.
‘Y rhai dan fandad i roi adroddiad’ oedd un o argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae'r argymhelliad fel a ganlyn:
Mae’r Ymchwiliad yn argymell bod llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n gosod dyletswydd statudol ar rai unigolion – ‘y rhai dan fandad i roi adroddiad’ – i roi gwybod am gam-drin plant yn rhywiol pan fyddant:
- yn cael datgeliad o gam-drin plant yn rhywiol gan blentyn neu gamdriniwr
- yn gweld plentyn yn cael ei gam-drin yn rhywiol
- yn arsylwi ar ddangosyddion cydnabyddedig cam-drin plant yn rhywiol
Dylid dynodi’r bobl ganlynol yn ‘rhai dan fandad i roi adroddiad’:
- unrhyw berson sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir mewn perthynas â phlant (o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, fel y’i diwygiwyd)
- unrhyw berson sy’n gweithio mewn swydd o ymddiriedaeth (fel y’i diffinnir o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, fel y’i diwygiwyd)
- swyddogion yr heddlu
Rydym hefyd yn ceisio'ch barn ar y cod ymarfer diogelu, a gyhoeddwyd yn rhan o Diogelu yng Nghymru.
Bydd cwestiynau’r arolwg yn ein helpu ni i wneud y canlynol:
- nodi meysydd i fynd i'r afael â nhw a’u datblygu
- sicrhau bod mesurau diogelu, cyn belled ag y bo modd, yn amddiffyn plant ac oedolion ledled Cymru
Cwblhau'r arolwg
Cafodd y arolygiad ei chau ar ddydd Llun 16 Mehefin 2025.
Hysbysiad preifatrwydd
Mae hysbysiad preifatrwydd ar gael i’w ddarllen ar gyfer yr arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch diogelu yng Nghymru.
Cysylltwch â ni
Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i safeguardingandadvocacy@llyw.cymru.
