Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019: hysbysiad preifatrwydd
Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan yr Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Beaufort Research i gynnal arolwg o ymwelwyr Cymru yn 2019. Nod yr arolwg hwn yw ceisio darganfod gwybodaeth berthnasol ynglŷn ag ymwelwyr Cymru, eu profiadau o Gymru a'u hagweddau tuag at Gymru, a'r gweithgareddau a wnaethpwyd a'r cyfleusterau a ddefnyddiwyd yn ystod eu hymweliad â Chymru, yn ogystal â'r ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd wrth iddynt drefnu eu hymweliad.
Fel rhan o'r arolwg hwn, bydd Beaufort Research yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb trwy gydol gwanwyn/haf/hydref 2019 mewn safleoedd twristiaeth a thrwy gyfweliadau dros y ffôn ar ôl hynny.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Beaufort Research yn cael gwared ar unrhyw ddata personol a ddarperir trwy gydol yr arolwg, a sicrhau bod unrhyw ddata amrwd yn ddienw, cyn eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru a chyhoeddiadau eraill o bosibl gan Beaufort Research a Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y pwynt cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Beaufort Research yw:
Fiona McAllister
E-bost: fiona@beaufortresearch.co.uk
Rhif ffôn: 029 2037 8565
Pa fanylion personol sydd gennym ac o ble'r ydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn benodol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod'.
Byddech wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019 gan ymchwilydd o Beaufort Research pan ymwelsoch ag atyniad twristiaeth yng Nghymru rhwng Ebrill a Hydref 2019. Pan gymeroch ran yn Arolwg Ymwelwyr Croeso Cymru, gwnaethoch hefyd gytuno i rywun gysylltu â chi am arolwg pellach dros y ffôn wedi i'ch arhosiad yng Nghymru ddod i ben.
Fel rhan o'r ymchwil hwn byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol:
- enw
- rhif ffôn llinell tir
- rhif ffôn symudol
- gwlad (os ydych o dramor)
- grŵp ethnig
Bydd Beaufort Research yn defnyddio eich rhif ffôn at ddibenion yr arolwg hwn yn unig.
Pe ddewiswch ddarparu rhagor o ddata personol fel rhan o'r ymchwil, ceisiwn beidio â'ch adnabod chi o'r ymatebion a ddarparwch, nac eich cysylltu chi â'r rheiny. Os ydych yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon yr ymholiad ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn ei ddileu o'r data ymchwil ar ôl hynny.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae peth o'r data a gasglwn yn 'ddata categori arbennig' (grŵp ethnig yn yr achos hwn) a'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil megis hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth gyfreithiadwy ynglŷn â'i gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn i:
- benderfynu lle sydd angen buddsoddiad a gwella'r cyfleusterau sy'n ymwneud â thwristiaeth
- penderfynu a ddylid cefnogi datblygiad ac isadeiledd twristiaeth newydd
- penderfynu lle dylid canolbwyntio arno i farchnata Cymru fel cyrchfan dwristiaeth
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Beaufort Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Nifer fechan o ymchwilwyr sy'n gweithio ar yr astudiaeth hon yn unig fydd yn gallu defnyddio'r data. Bydd Beaufort Research yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae Beaufort Research yn meddu ar ardystiad Hanfodion Seiber.
Wrth wneud arolygon, defnyddia Beaufort raglen feddalwedd arolwg o'r enw SNAP. Rydym wedi sicrhau bod SNAP yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd (e.e. bydd SNAP yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â Fframwaith Amddiffyn Preifatrwydd UE-UDA). Ar gyfer yr arolwg dros y ffôn, bydd Beaufort yn defnyddio'r rhaglen arolwg NIPO a bydd yr holl ddata yn cael ei gadw ar weinyddion Beaufort yn y DU.
Mae gan Beaufort Research weithdrefnau yn eu lle i ddelio ag unrhyw achosion a dybir sy'n torri diogelwch data. Os ceir achos o'r fath, bydd Beaufort Research yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo gofyn cyfreithiol arnom i wneud hynny.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hwn yn cael ei gofnodi ar ffurf nad oes modd adnabod unigolion. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy a roddir mewn atebion agored yn cael eu dileu. Bydd Beaufort Research yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydym ni'n cadw eich data personol?
Bydd Beaufort Research yn cadw data personol yn ystod y cyfnod cytundeb, a bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei dileu gan Beaufort Research dri mis wedi i'r cytundeb ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Beaufort Research yn darparu fersiwn ddi-enw o'r data i Lywodraeth Cymru, na fydd yn cynnwys gwybodaeth a ellir ei defnyddio i'ch adnabod chi.
Hawliau unigol
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn, mae gennych yr hawl i:
- gael gweld copi o'ch data eich hun
- gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan amgylchiadau penodol) mynnu bod eich data yn cael ei 'ddileu’
- cofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynglŷn â sut fydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno ymarfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Birgitte Magnussen
E-bost: birgitte.magnussen@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 062 5296
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru