Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2020.

Prif bwyntiau

Cafodd y diwydiant gwestai ei effeithio'n ddifrifol gan bandemig COVID-19.  Yn gyffredinol, roedd defnydd ystafelloedd ar gyfer gwestai a oedd yn adrodd yn 2020 yn 45% yn unig, a defnydd gwelyau yn 31%. Cyn y pandemig, roedd gwestai yng Nghymru yn sicrhau defnydd ystafelloedd cyson o tua 65%, a defnydd gwelyau yn agos at 50%. 

Effeithiwyd yn ddifrifol hefyd ar y sector tai llety/gwely a brecwast.  Yn 2020, roedd y defnydd o ystafelloedd a gwelyau yn 36% a 30% yn y drefn honno. 

Ar y cyfan gwnaeth y sector hunanddarpar yn llawer gwell na'r sector â gwasanaeth.  Roedd defnydd unedau yn 52% yn 2020, sef cwymp o 5 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol.

Fel yn achos y sector hunanddarpar, fe wnaeth carafannau statig a chartrefi gwyliau a charafannau teithio a meysydd gwersylla adfer yn dda ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i ben ym mis Gorffennaf.  Gwnaeth carafannau statig hunangynhwysol a chartrefi gwyliau yn well, gyda defnydd cyfartalog tymhorol rhwng Mai a mis Hydref yn debyg i flynyddoedd blaenorol yn 89%, tra bod carafannau teithio a meysydd gwersylla wedi gweld defnydd lleiniau tymhorol o 32%, ychydig yn is na'r blynyddoedd blaenorol.

Cafodd Hosteli a Thai Bync anawsterau yn 2020, gan adrodd ar gyfartaledd 25% o ddefnydd gwelyau yn unig, gan fod cyfyngiadau ar nifer y gwesteion o wahanol aelwydydd a oedd yn cael aros mewn ystafelloedd gwely ar gyfer nifer o bobl yn ei gwneud yn anodd iddynt ailagor yn llawn. 

Nodyn adolygu

Yn sgil gwall prosesu mae’r data ynghylch gwestai sydd â rhwng 51 a 100 o ystafelloedd ar gyfer 2018, 2019 a 2020 wedi’u diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru, 2020 (diwygiedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB

PDF
6 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jen Velu

Rhif ffôn: 0300 025 0459

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.