Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2022.

Pa ddata sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn?

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data o dair ffynhonnell:

  1. Arolwg Deiliadaeth Llety Cymru a gynhaliwyd gan Strategic Research and Insight, cwmni ymchwil a leolir yng Nghymru. (Casglwyd data Awst i Rhagfyr, 2022)
  2. CoStar Ltd, cwmni systemau rheoli eiddo sy'n darparu data ar westai â gwasanaeth (Casglwyd data Ionawr i Rhagfyr, 2022)
  3. Transparent, cwmni gwe-grafu sy'n darparu data ar Osodiadau Tymor Byr (Casglwyd data Ionawr i Rhagfyr, 2022)

Sector llety â gwasanaeth

  • Ar anterth y tymor twristiaeth ym mis Awst, cyrhaeddodd y sector llety â gwasanaeth 79% o ddeiliadaeth ystafelloedd / 70% defnydd gwelyau

STR Global: data gwestai

  • Mae data STR yn dangos bod gwestai mwy (yn fwyaf tebygol o fod yn westai cadwyn) yn adennill eu lefelau deiliadaeth o 2021 gyda'r rhai â 51 i 100 o ystafelloedd yn dangos y lefelau deiliadaeth uchaf (80%).

Sector hunanddarpar

  • Cyrhaeddodd deiliadaeth unedau hunanddarpar 78% ym mis Awst, yn llai nag Awst 2019 (88%)
  • Ond roedd deiliadaeth mis Medi (73%) yn uwch na chyn COVID-19 (68%)
  • Roedd busnesau gyda mwy na deg gwely (ar draws un neu fwy o unedau) yn llawer llawnach rhwng mis Awst a mis Rhagfyr

Transparent Intelligence: data gosodiadau tymor byr

  • Gellir gweld lefelau deiliadaeth uwch yn 2021 o gymharu â 2022 ar draws pob rhanbarth

Sector carafanau a gwersylla

  • Cyrhaeddodd deiliadaeth lleiniau uchafbwynt o 71% ym mis Awst
  • Ymwelwyr domestig sy’n dominyddu’r sector, daeth 95% o’r ymwelwyr o’r DU

Sector hosteli

  • Cyrhaeddodd defnydd gwelyau 69% ym mis Awst, o gymharu â 75% ym mis Awst 2019

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.