Neidio i'r prif gynnwy

Oherwydd newid yn y fethodoleg bwysoli, mae data ar gyfer gwestai, Llety â gwasanaeth, Gwely a Brecwast wedi'i ddiwygio. (15 Gorffennaf 2021)

Oherwydd bod data ychwanegol ar gael i'w ymgorffori yn y gyfradd defnydd cyfanredol, mae ffigurau ar gyfer defnydd carafannau sefydlog ym mis Gorffennaf ac Awst 2020 wedi'u diwygio yn y cyhoeddiad hwn. (20 Hydref 2021)

Gyda Chaerdydd ac Abertawe yn dal i fod dan glo o 25 Medi, cychwynnodd mwy o gyfnodau clo lleol ar 1 Hydref yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam ac yna ym Mangor ar y 10 Hydref. Ar draws Cymru gyfan, cychwynnwyd ar gyfnod atal byr ar 23 Hydref i 9 Tachwedd. Daethpwyd â chyfyngiadau newydd i rym am hanner nos ar 19 Rhagfyr (Rhybudd Lefel 4) a oedd yn cynnwys cau pob busnes llety heblaw am ddefnydd hanfodol a theithio wedi'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Felly, gall maint y samplau yn ystod y cyfnodau hyn ar draws pob sector amrywio a dylid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli'r canlyniadau hyn.

Prif bwyntiau

  • Adroddodd y gwestai a ymatebodd lefelau defnydd sylweddol is o ran defnydd ystafell yn chwarter olaf 2020 ar draws 3 mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr (gyda chyfraddau defnydd o 26, 37 a 25% yn y drefn honno). Roedd lefelau defnydd gwelyau yn dilyn patrwm tebyg.
  • Yn y sector Hunanddarpar, arhosodd Hydref a Thachwedd yn weddol gyson â lefelau defnydd unedau 2018 a 2019. Fe wnaethant ostwng 3 phwynt canran ym mis Hydref ac aros yn yr unfan ym mis Tachwedd o'i gymharu â 2019. Ym mis Rhagfyr gwelwyd cyfraddau defnydd i lawr 10 pwynt canran ar yr un mis yn 2019.
  • Gostyngodd lefelau defnydd yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau yn ystod mis Hydref gan 13 a 15 pwynt canran yr un ym mis Hydref 2018 a 2019. Gyda busnesau ar gau o 23 Hydref am 17 diwrnod yn ystod y cyfnod atal byr, caeodd llawer o fusnesau am y flwyddyn heb unrhyw ddata ar gael ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr 2020.
  • Gostyngodd ddefnydd lleiniau ar draws y parciau carafanau teithiol a gwersylla yn sylweddol yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd o'u cymharu â'r un misoedd yn 2019.
  • Roedd natur y sector hostel wedi'i gwneud hi'n anodd ailagor yn llawn gyda chyfyngiadau  COVID-19 ar nifer y gwesteion trwy gydol 2020. Gwelodd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr i gyd gwymp sylweddol yn lefelau defnydd gwlâu gyda mis Hydref i lawr 45 pwynt canran, Tachwedd i lawr 33 a Rhagfyr i lawr 44 pwynt canran o gymharu â'r un misoedd yn 2019.

Newid mewn pwysau

Yn ystod sawl mis yn 2020, nid oedd nifer sylweddol o westai, a thai llety/Gwely a Brecwast ar agor oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn cyfyngu ar weithredu llety â gwasanaeth gan arwain at ddim ond nifer fach o westai a thai llety/gwely a brecwast yn darparu data, a effeithiodd ar y pwysiadau. Mae pwysoli data defnydd wedi'i gynllunio i addasu ar gyfer gwahanol lefelau ymateb ar draws rhanbarthau a bandiau maint ond pan fydd maint y sampl yn fach gellir gorliwio effaith y pwysiad ar gyfer rhai rhanbarthau neu fandiau maint. Yn ystod misoedd clo mawr COVID-19 pan oedd maint samplau mewn rhai rhanbarthau mewn ffigurau sengl, byddai wedi cael yr effaith o wneud i sefydliadau unigol ddominyddu'r canlyniadau. Felly, mae'r data yn 2020 yn cael ei gyflwyno heb ei bwysoli a dim ond yn adlewyrchu lefelau defnydd gwestai a thai llety/gwely a brecwast a oedd ar agor yn y mis perthnasol.  Oherwydd hyn, dylid nodi na ellir dehongli bod data defnydd gwestai a thai llety/Gwely a Brecwast a ddangosir yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2020 yn cynrychioli'r farchnad llety â gwasanaeth yn ei chyfanrwydd, ac o ystyried y gwahaniaethau methodolegol, nid oes modd ei gymharu â data 2018 a 2019 a ddangosir yn adrannau gwestai a thai llety/gwely a brecwast yr adroddiad hwn.

Gwestai

Image
Yn 2018 a 2019, roedd defnydd gwestai’n weddol gyson ar draws y flwyddyn gyfan.  Yn ystod 2020, perfformiodd Ionawr a Chwefror yn dda, yn ogystal ag Awst a Medi.  Roedd misoedd y gwanwyn a’r gaeaf ar eu hisaf oherwydd pandemig COVID-19.

Gwelodd y defnydd [troednodyn 1] ystafelloedd ar gyfer chwarter olaf 2020 gwestai yn adrodd lefelau defnydd sylweddol is ar draws pob un o'r 3 mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr.  Roedd lefelau defnydd gwelyau yn dilyn patrwm tebyg. Ar 1 Hydref, gosodwyd cyfnodau clo lleol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac yna Bangor ar 10 Hydref. Roedd cyfnod atal byr ar draws Cymru o 23 Hydref i 9 Tachwedd. Dechreuodd gyfyngiadau newydd o ganol nos ar 19 Rhagfyr (Lefel Rhybudd 4) a oedd yn cyfyngu ar symud pobl ac yn gweld cau busnesau llety ac eithrio'r rhai at ddefnydd hanfodol.

Fel y soniwyd yn flaenorol, gyda nifer sylweddol o westai ar gau oherwydd cyfyngiadau COVID-19 gan arwain at ddim ond nifer fach o westai yn darparu data ar draws sawl mis, gostyngodd cyfartaledd blynyddol defnydd gwestai ar draws y flwyddyn gyfan. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gwahanol gyfnodau a effeithiwyd arnynt gan y cyfnod clo o 23 Mawrth i 11 Gorffennaf, pan dim ond gwesteion hanfodol oedd yn defnyddio’r nifer fach o westai oedd ar agor. Ym mis Awst a mis Medi, cynyddodd nifer y sefydliadau ar agor er y gallai capasiti fod wedi lleihau o hyd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Gwelodd cyfraddau defnydd gwlâu patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.

[1] Mae’n bosib y bydd rhai cyfraddau defnydd ar gyfer gwestai unigol ychydig yn uwch nag y byddent mewn blwyddyn arferol oherwydd ei bod yn bosib nad yw rhai ystafelloedd/unedau yn gweithredu oherwydd yr angen am bellter cymdeithasol. Mae'r data yr adroddwyd arnynt yn ystod mis Hydref - Rhagfyr yn seiliedig ar ddeiliadaeth net sy'n cyfeirio at y busnesau hynny a oedd ar agor yn unig ac a ddarparodd ddata yn ystod y cyfnod hwn.

Image
Yn 2018 a 2019, roedd cyfraddau defnydd ystafell chwarterol yn weddol gyson ar draws y tri chwarter cyntaf, yn ogystal ag Ionawr i Fawrth 2020.  Roedd chwarter cynnar gwanwyn/haf Ebrill i Fehefin 2020 a chwarter olaf y flwyddyn o Hydref i Ragfyr yn isel iawn.  Fodd bynnag, perfformiodd Gorffennaf i Fedi 2020 yn well.

Effeithiwyd ar ddefnydd ystafelloedd a gwlâu ar draws pob un o bedwar chwarter y flwyddyn, gyda chyfartaledd chwarterol Hydref i Ragfyr ar 29 pwynt canran.

Image
Oherwydd newid yn y fethodoleg yn ystod 2020, ni ellir cymharu'r data gwestai a ddangosir yn yr adroddiad hwn â blynyddoedd blaenorol. Roedd refeniw fesul ystafell sydd ar gael (RevPAR) ar ei uchaf yn ystod dau fis cyntaf y flwyddyn ac ar ei isaf ym misoedd y gwanwyn/haf a’r gaeaf.  Roedd cynnydd yng nghyfraddau refeniw ym misoedd hwyr yr haf/cynnar yr hydref Awst a Medi.

Gyda chyfyngiadau lleol ar waith yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Bangor, dim ond nifer fach o westai oedd ar agor i weithwyr allweddol yn ystod y cyfnod atal byr gorfodol am 17 diwrnod o 23 Hydref. O gymharu â dau fis cyntaf y flwyddyn, roedd data RevPAR yn sylweddol is yn ystod chwarter olaf 2020.

Tŷ llety a, gwely a brecwast

Image
Yn 2018 a 2019 mae cyfraddau defnydd ystafell misol ar gyfer tai llety/gwely a brecwast yn uwch yn ystod misoedd brig yr haf ac yn is yn ystod misoedd y gaeaf. Yn 2020 mae cyfraddau defnydd ystafell misol ar eu huchaf yn y trydydd chwarter ac yn Ionawr a Chwefror. Nid oedd data ar gyfer Ebrill i Fehefin ar gael oherwydd pandemig COVID-19.

Ni chynigiodd mwyafrif o dai llety/Gwely a Brecwast lety i weithwyr allweddol ac felly caewyd mwyafrif y sefydliadau yn llwyr yn ystod y cyfnod atal byr rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd ac felly ni chasglwyd data yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, mae maint y sampl ar gyfer y sector hwn yn hanesyddol isel iawn a dylid ei ddehongli'n ofalus. Yn yr un modd â'r sector gwestai, mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gwahanol gyfnodau a effeithiwyd gan y cyfnod clo o 23 Mawrth i 11 Gorffennaf, pan dim ond nifer fach iawn o dai llety/Gwely a Brecwast oedd ar agor. Yn ystod misoedd Awst a Medi yr haf, gwelodd busnesau cynydd yn nifer y sefydliadau ar agor er y gallai capasiti fod wedi lleihau o hyd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Gwelodd cyfraddau defnydd gwlâu patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.

Image
 Yn 2018 a 2019, roedd defnydd ystafelloedd yn weddol gyson ar draws tri allan o bedwar chwarter y flwyddyn.  Yn 2020, roedd defnydd ystafelloedd tai llety/gwely a brecwast ar ei uchaf yn y trydydd chwarter Gorffennaf i Fedi a Hydref i Ragfyr. Nid oedd data ar gael ar gyfer Ebrill i Fehefin.

Effeithiwyd ar ddefnydd ystafelloedd a gwlâu ar draws y tri chwarter o’r flwyddyn y mae ffigurau ar eu cyfer, gyda chyfartaledd defnydd chwarter olaf Hydref i Ragfyr yn 23%.

Hunanddarpar

Image
Siart 6: Defnydd uned misol a blynyddol are gyfartaledd, hunanddarpar, 2018 i 2020

Yn y sector Hunanddarpar, arhosodd Hydref a Thachwedd yn gyson â lefelau defnydd unedau 2018 a 2019. Fe wnaethant ostwng 3 phwynt canran ym mis Hydref ac aros yn yr unfan ym mis Tachwedd o'i gymharu â 2019. Ym mis Rhagfyr gwelwyd cyfraddau defnydd i lawr 10 pwynt canran ar yr un mis yn 2019.

Ac eithrio'r cyfnod clo cyntaf o 23 Mawrth i 11 Gorffennaf, mae'r sector hunanarlwyo wedi gwneud yn well na'r sector â gwasanaeth yn ystod 2020. Gwelodd cyfartaledd Ionawr i Ragfyr 2020 hyd yma, ar 52%, cwymp o 5 pwynt canran ar 2019 a 3 phwynt canran ar 2018.

Image
Siart 7: Defnydd uned chwarterol hunanddarpar, 2018 i 2020

Gostyngodd ddefnydd yr unedau chwarterol ar gyfer mis Hydref i Ragfyr 5 pwynt canran o 45% i 40% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019 ond roedd ar lefelau tebyg i'r hyn a welwyd yn 2018.

Ac eithrio'r chwarter Ebrill-Mehefin yn 2020, roedd defnydd unedau ym mis Ionawr i Fawrth wedi gweld dirywiad bach yn lefelau defnydd tra bod Gorffennaf i Fedi 2020 wedi gweld defnydd unedau yn cynyddu o gymharu â 2018 a 2019.

Cartrefi gwyliau carafanau statig

Image
Roedd cyfraddau defnydd y sectorau carafanau statig a chartrefi gwyliau yn 2020 yn is na’r disgwyl ym misoedd Gorffennaf. haf ond ar eu huchaf ym mis Awst, pan oedd defnydd lleiniau’n uwch na Awst 2018 a 2019. Yn Ebrill i Fehefin 2019 roedd defnydd lleiniau ar ei uchaf o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ond nid oedd data ar gyfer y cyfnod hwn ar gael yn ystod 2020 oherwydd pandemig COVID-19.

Gostyngodd lefelau defnydd yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau yn ystod mis Hydref o 73% yn 2019 i 63% yn 2020, cwymp o 13 a 15 pwynt canran yr un ar fis Hydref 2018 a 2019. Gyda chyfnodau clo lleol ar waith yn gynnar ym mis Hydref ac yna'r clo atal byr 17 diwrnod o 23 Hydref, roedd llawer o fusnesau wedi cau am y flwyddyn heb unrhyw ddata ar gael ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020.

Cofnododd y cyfartaledd Mai i Hydref a chyfartaledd blynyddol lefelau tebyg i flynyddoedd blaenorol gyda defnydd uned Mai i Hydref 2020 yn 89% o'i gymharu ag 88% yn 2018 a 90% yn 2019. Cyrhaeddodd y cyfartaledd blynyddol yn 2020 83%, cwymp o 2 bwynt canran yn erbyn 2019 ar 85%, ond yn uwch na 2018 a gofnododd ddefnydd uned o 77%. Fodd bynnag, dylid nodi bod y cyfartaleddau blynyddol a thymhorol yn seiliedig ar y sefydliadau hynny a oedd ar agor yn ystod y cyfnodau hyn.

Parciau carafanau teithio a gwersylla

Image
Siart 9: Defnydd llain teithio misol, tymhorol a blynyddol are gyfartaledd, 2018 i 2020

Gostyngodd ddefnydd lleiniau ar draws y parciau carafanau teithiol a gwersylla yn sylweddol yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd o'i gymharu â'r un misoedd yn 2019. Unwaith eto, yn y cyfnodau clo lleol a'r cyfnod atal byr gwelwyd busnesau'n cau a pheidio ag ailagor eu safleoedd am weddill y flwyddyn. Yn y prif gyfnod o 6 mis i'r sector o fis Mai i Hydref gwelwyd dirywiad yn nefnydd lleiniau o 14 ac 11 pwynt canran ar 2018 a 2019 yn y drefn honno.

Ar draws y flwyddyn gyfan, roedd lefelau defnydd lleiniau wedi gostwng 9 pwynt canran, i lawr o 40% yn 2019 i 31% eleni.

Hosteli

Image
Siart 10: Defnydd gwely misol a blynyddol ar gyfartaledd, hosteli,  2018 i 2020

Roedd natur y sector hostel wedi'i gwneud hi'n anodd i fusnesau ailagor yn llawn gyda chyfyngiadau  COVID-19 ar nifer y gwesteion yn aros mewn hosteli. Gwelodd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr i gyd gwymp sylweddol yn lefelau defnydd gwlâu gyda mis Hydref i lawr 45 pwynt canran, Tachwedd i lawr 33 a Rhagfyr i lawr 44 pwynt canran o gymharu â'r un chwarter yn 2019.

Ar draws y flwyddyn gyfan, roedd defnydd gwlâu hostel wedi gostwng 44 pwynt canran yn y cyfnod rhwng Ionawr a Rhagfyr 2020.

Image
Siart 11: Defnydd gwely chwarterol, hosteli, 2018 i 2020

Gostyngodd y lefelau defnydd ar gyfer chwarter olaf 2020 37 pwynt canran o gymharu â'r un cyfnod yn 2020. Fel y soniwyd yn flaenorol, roedd natur y llety hostel a byncws yn ffactor allweddol yn y dirywiad yn lefelau defnydd, gyda chyfyngiadau ar y niferoedd sy'n aros yn yr ystafelloedd amlfeddiannaeth.

Cyd-destun

Cyn i'r cyfnod clo cenedlaethol yn y DU ddechrau ar 23 Mawrth 2020, roedd lefelau defnydd ar draws yr holl sectorau a gwmpesir yn yr adroddiad cryno hwn yn weddol gyson â blynyddoedd blaenorol yn 2018 a 2019.

Yn ystod y cyfnod clo rhwng 23 Mawrth a chanol mis Gorffennaf, roedd llawer o fusnesau wedi cau dros dro oherwydd pandemig  COVID-19. Roedd y sampl fach yr adroddwyd arni yn ystod y cyfnod hwn yn y sector gwestai, mewn perthynas â gwestai a oedd yn darparu llety angenrheidiol i weithwyr allweddol, grwpiau bregus a'r rhai a oedd wedi bod yn sownd yn eu llety oherwydd y cyfnod clo a'r cyfyngiadau ar deithio.

Ar 6 Gorffennaf, cododd Cymru ei chyfyngiadau “Aros yn Lleol”, a alluogodd bobl i ymweld ag ardaloedd eraill o'r wlad ac ymhellach i ffwrdd. Ar 11 Gorffennaf, codwyd cyfyngiadau clo ar ddefnyddio llety, er y mabwysiadwyd dull graddol yn ystod mis Gorffennaf. Gallai llety a oedd yn gwbl hunangynhwysol fel bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol modern a chychod modur a rhywfaint o lety glampio ailagor. Roedd hyn hefyd yn cynnwys gwestai a llety â gwasanaeth arall (Gwely a Brecwast, hosteli ac ati) a oedd yn darparu ystafelloedd en-suite a phrydau bwyd ystafell. Ni ail-agorodd llety a oedd yn cynnig cyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla a charafanau a hosteli tan 25 Gorffennaf.

Fodd bynnag, ni ail-agorodd pob busnes ar unwaith ac roedd rhai wedi gohirio eu hailagor i sicrhau bod eu hadeiladau yn  COVID-19 ddiogel a bod asesiadau risg ar waith, ac nid oedd eraill a oedd yn rhedeg busnesau teuluol bach o'r farn ei bod yn ariannol hyfyw agor o gwbl gyda chyfyngiadau ar waith. Roedd y risg i rai perchnogion busnes a oedd wedi bod yn cysgodi hefyd yn ffactor yn eu penderfyniad i beidio ag ailagor pan godwyd cyfyngiadau clo.

Gyda busnesau yn derbyn ymwelwyr yn ystod rhan olaf Gorffennaf, Awst a Medi, gwelwyd arwyddion o adferiad yn y lefelau defnydd ar draws rhai sectorau.

Gyda Chaerdydd ac Abertawe yn dal i fod dan glo o 25 Medi, cychwynnodd mwy o gyfnodau clo lleol ar 1 Hydref yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam ac yna Bangor ar y 10 Hydref. Ar draws Cymru gyfan, cychwynnwyd ar gyfnod atal byr ar 23 Hydref i 9 Tachwedd. Daethpwyd â chyfyngiadau newydd i rym am hanner nos ar 19 Rhagfyr (Rhybudd Lefel 4) a oedd yn cynnwys cau pob busnes llety heblaw am ddefnydd hanfodol a theithio wedi'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Cafodd y rheolau eu llacio'n fyr ar gyfer Dydd Nadolig cyn i'r cyfnod clo (Rhybudd Lefel 4) ddechrau eto ar 26 Rhagfyr.

Prif linellau amser yn 2020

  • Clo Cenedlaethol y DU o 23 Mawrth 2020.
  • 6 Gorffennaf Cymru yn codi ei chyfyngiadau teithio “Aros yn Lleol” a chaniatawyd i atyniadau awyr agored ailagor.
  • Daeth y clo i ben 11 Gorffennaf 2020 ar gyfer busnesau llety heb gyfleusterau a rennir.
  • 13 Gorffennaf ailagor atyniadau ymwelwyr dan do ond heb gynnwys unrhyw ran o atyniad i ymwelwyr sydd o dan y ddaear.
  • Llwyddodd llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla i ailagor o 25 Gorffennaf ond arhosodd cyfleusterau a rennir ar y safle ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cawodydd a blociau toiledau a rennir.
  • 27 Gorffennaf caniatáu i amgueddfeydd ac orielau ailagor.
  • Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan (3 i 31 Awst 2020).
  • 7 Medi preswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili yn amodol ar glo lleol cyntaf yng Nghymru, a ddaw i rym o 6pm ar 8 Medi. 17 Medi Rhondda Cynon Taf yn amodol ar gyfyngiadau clo lleol
  • 21 Medi cyhoeddi cyfyngiadau cyfnod clo ar gyfer Merthyr TudfulPen-y-bont ar OgwrBlaenau Gwent a Chasnewydd a oedd yn dod i rym o 6pm ar 22 Medi.
  • 26 Medi daw’r cyfnod clo un dref cyntaf Cymru i rym yn Llanelli.
  • 27 Medi cloeon lleol yng Nghaerdydd ac Abertawe
  • 28 Medi mesurau cyfnod clo yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Castell-nedd Port  TalbotTorfaen a Bro Morgannwg, yn golygu bod dau draean o boblogaeth Cymru yn amodol ar fesurau cyfnod clo.
  • 1 Hydref Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn mynd i gyfnod clo.
  • 10 Hydref cyhoeddi cyfyngiadau clo ar gyfer Bangor.
  • 23 Hydref Cymru yn cychwyn cyfnod atal byr 17 diwrnod.
  • 9 Tachwedd cyfnod atal byr yn dod i ben yng Nghymru.
  • 19 Rhagfyr rheolau swigen Nadolig yn newid i ganiatáu i ddau deulu ddod at ei gilydd ddydd Nadolig yn unig
  • 19 Rhagfyr cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno o hanner nos (lefel rhybudd 4): manwerthu nad yw'n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden, lletygarwch a llety i gau ar ddiwedd y masnachu. Cyfyngiad aros gartref i ddod i rym am hanner nos.
  • 26 Rhagfyr Cymru yn mynd i gyfnod clo (lefel rhybudd 4) ar ôl i'r rheolau gael eu llacio'n fyr dros Ddydd Nadolig.

Maint sampl

Pan ddechreuodd y cyfnod clo cenedlaethol ar 23 Mawrth, caeodd bron pob busnes llety ledled Cymru dros dro ac eithrio nifer fach o westai mawr ac arhosodd ar agor i ddarparu llety dros dro i weithwyr allweddol a grwpiau eraill yr oedd y pandemig yn effeithio arnynt. Er i'r clo ddod i ben ar 11 Gorffennaf, a dechreuodd maint y samplau gynyddu, ni ail-agorodd pob busnes ar unwaith. Erbyn mis Medi, roedd maint samplau yn dechrau dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn ystod misoedd cynnar 2020, ond roedd ansicrwydd ar draws y sectorau yn dal i fod yn amlwg. Mae'n werth nodi nad yw'r sampl hunanddarpar is ym mis Medi yn gysylltiedig â phandemig  COVID-19 ond y newid ym mherchnogaeth un o'r asiantaethau mawr sy'n cyflenwi data defnydd ac felly nid oedd data ar gael yn ystod y mis hwn.

Gyda chyfyngiadau lleol yn dal i fod ar waith ar draws sawl tref a chyfnod atal byr cenedlaethol o 23 Hydref i 9 Tachwedd penderfynodd rhai busnesau yn y sector llety â gwasanaeth beidio ag ailagor eu drysau ar yr adeg hon, er bod y gwestai mwy yn dal ar agor yn ystod y cyfnod hwn a adlewyrchir ym maint y sampl yn ystod tri mis olaf y flwyddyn. Cychwynnodd cyfyngiadau Lefel 4 ar 19 Rhagfyr a oedd unwaith eto yn cynnwys cau pob busnes llety heblaw am ddefnydd hanfodol a theithio wedi'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Gyda'r rheolau'n cael eu llacio'n fyr ar gyfer Dydd Nadolig cyn i'r cyfnod clo (Rhybudd Lefel 4) ddechrau eto ar 26 Rhagfyr. Yr holl feintiau samplau misol yn ôl sector a ddangosir isod yw'r busnesau hynny a oedd ar agor ac a ddarparodd ddata yn eu ffurflen am y mis hwnnw.

Tabl 1: Maint sampl misol yn ôl sector, 2020
  Gwestai Tŷ llety a,
Gwely a brecwast
Hunan-ddarpar
  Ar agor Ar gau Ar agor Ar gau Ar agor Ar gau
Ionawr 175 6 20 7 856 84
Chwefror 170 4 20 6 627 89
Mawrth 163 18 18 10 759 104
Ebrill 19 162 1 27 3 736
Mai 20 161 2 26 0 739
Mehefin 22 164 1 27 0 740
Gorffennaf 126 56 13 12 950 17
Awst 162 16 17 6 945 19
Medi 162 13 18 7 653 17
Hydref 163 19 16 10 533 22
Tachwedd 126 28 13 11 326 113
Rhagfyr 125 52 9 16 404 26
Tabl 1: Maint sampl misol yn ôl sector, 2020 (parhau)
  Carafanau statig Carafanau teithiol Hosteli
  Ar agor Ar gau Ar agor Ar gau Ar agor Ar gau
Ionawr 2 20 2 32 21 0
Chwefror 2 20 2 32 18 1
Mawrth 11 11 6 28 18 2
Ebrill 0 22 0 34 0 20
Mai 0 22 0 33 0 21
Mehefin 0 22 0 33 0 21
Gorffennaf 18 1 18 7 20 1
Awst 18 1 18 6 20 1
Medi 17 2 16 6 21 0
Hydref 17 3 19 6 20 1
Tachwedd 1 13 1 17 19 2
Rhagfyr 1 13 0 16 19 2

Manylion cyswllt

Birgitte Magnussen
Ffôn: 0300 062 5296
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 36/2021
ISBN digidol 978-1-80195-167-8

Image removed.