Neidio i'r prif gynnwy

Roedd cyfyngiadau rhybudd Lefel 4 yn dal i fod ar waith yn ystod mis Ionawr i fis Mawrth 2021 a oedd yn cynnwys cau pob busnes llety heblaw am ddefnydd hanfodol, tra bod teithio wedi'i gyfyngu i ardaloedd lleol tan 27 Mawrth pan godwyd cyfyngiadau ar symud “aros yn lleol” ledled Cymru. Gan hynny, nid oes data ar gael ar gyfer chwarter cyntaf 2021 ar gyfer tai llety/Gwely a Brecwast, carafanau statig a theithiol a hosteli.

Prif bwyntiau

Gyda chyfyngiadau rhybudd lefel 4 COVID-19 yn dal i fod ar waith ar gyfer mwyafrif yn chwarter cyntaf 2021, roedd defnydd ystafelloedd yn chwarter cyntaf 2021 yn sylweddol is mewn gwestai a ymatebodd.

Yn y sector hunanddarpar, ym mis Ionawr a mis Chwefror gwelwyd llai na hanner lefelau defnydd yr uned o'r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd mis Ionawr 19 pwynt canran a mis Chwefror 22 pwynt canran. Gyda llacio cyfyngiadau o 27 Mawrth ar deithio ledled Cymru ac ailagor unedau hunanddarpar hunangynhwysol, arhosodd lefelau defnydd ym mis Mawrth 2021 yn statig ar 48%, o'i gymharu â'r lefelau a gyflawnwyd yn yr un mis yn 2020.  Fodd bynnag, dylid nodi bod nifer yr eiddo hunanddarpar a ymatebodd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau hyn.

Newid mewn pwysiad

Yn ystod sawl mis yn 2020 a thri mis cyntaf 2021, nid oedd nifer sylweddol o westai, tai llety/Gwely a Brecwast ar agor oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn cyfyngu llety â gwasanaeth yn arwain at ddim ond nifer fach o westai a thai llety/gwely a brecwast yn darparu data, a effeithiodd ar y pwysiadau. Mae pwysoli data defnydd wedi'i gynllunio i addasu ar gyfer gwahanol lefelau ymateb ar draws rhanbarthau a bandiau maint ond pan fydd maint y sampl yn fach gellir gorliwio effaith y pwysiad ar gyfer rhai rhanbarthau neu fandiau maint. Yn ystod misoedd clo mawr COVID-19 pan oedd maint samplau mewn rhai rhanbarthau mewn ffigurau sengl, byddai wedi cael yr effaith o wneud i sefydliadau unigol ddominyddu'r canlyniadau. Felly, mae'r data yn 2020 a 2021 yn cael ei gyflwyno heb ei bwysoli a dim ond yn adlewyrchu lefelau defnydd gwestai a thai llety/gwely a brecwast a oedd ar agor yn y mis perthnasol. Oherwydd hyn, dylid nodi na ellir dehongli bod data defnydd gwestai a thai llety/Gwely a Brecwast a ddangosir yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2020 a 2021 yn cynrychioli'r farchnad llety â gwasanaeth yn ei chyfanrwydd, ac o ystyried y gwahaniaethau methodolegol, nid oes modd ei gymharu â data 2019 a ddangosir yn adrannau gwestai a thai llety/gwely a brecwast yr adroddiad hwn.

Gwestai

Image
Gyda mesurau cyfnod clo yn dal i fod ar waith, roedd dau fis cyntaf 2021 yn sylweddol is o’u cymharu â 2020.  Roedd defnydd ystafelloedd Mawrth 2021 yn debyg i’r un mis yn 2020.

Gyda chyfyngiadau rhybudd lefel 4 COVID-19 yn dal i fod ar waith ar gyfer mwyafrif chwarter cyntaf 2021, roedd defnydd ystafelloedd yn chwarter cyntaf 2021 yn sylweddol is mewn gwestai a oedd ar agor yn ystod y cyfnod hwn.

Image
 Yn 2018 a 2019, roedd defnydd ystafelloedd yn weddol gyson yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ond roedd 2021 llawer yn is oherwydd roedd cyfyngiadau cyfnod clo yn dal i fod ar waith tan ddiwedd mis Mawrth.

Effeithiwyd ar ddefnydd ystafelloedd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn, gyda gwestai a ymatebodd yn adrodd mai dim ond 36% oedd lefelau defnydd ar gyfartaledd ym mis Ionawr i fis Mawrth.

Image
Gyda chyfyngiadau yn dal i fod ar waith, roedd refeniw fesul ystafell sydd ar gael (RevPAR) yn sylweddol is yn ystod dau fis cyntaf y flwyddyn o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2020.

Gyda chyfyngiadau ar waith ledled Cymru yn ystod 3 mis cyntaf 2021, a dim ond nifer fach o westai a oedd ar agor i weithwyr allweddol yn ystod y cyfnod hwn, cofnododd y gwestai a oedd ar agor a ymatebodd refeniw llawer is fesul ystafell a oedd ar gael yn ystod y cyfnod hwn.

Tai llety a gwely a brecwast

Nid oedd y mwyafrif o dai llety/gwely a brecwast yn cynnig llety i weithwyr allweddol gyda mwyafrif y sefydliadau ar gau yn llwyr yn ystod 3 mis cyntaf 2021. Felly, ni chasglwyd data yn ystod y cyfnod hwn.

Hunanddarpar

Image
Gyda chyfyngiadau’n cael eu codi ar ddiwedd Mawrth 2021, cododd defnydd uned i’r un lefelau a gwelwyd ym Mawrth 2020.

Yn y sector hunanddarpar, ym mis Ionawr a mis Chwefror gwelwyd llai na hanner lefelau defnydd yr uned o'r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd mis Ionawr 19 pwynt canran a mis Chwefror 22 pwynt canran. Gyda llacio cyfyngiadau o 27 Mawrth ar deithio ledled Cymru ac ailagor unedau hunanddarpar hunangynhwysol, dychwelodd lefelau defnydd ym mis Mawrth 2021 i lefelau a gyflawnwyd yn yr un mis yn 2020. Roedd nifer y sefydliadau hunanddarpar a agorodd ym mis Ionawr a mis Chwefror yn fach iawn ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau hyn.

Image
Gyda’r cau dros dro o sawl uned hunanddarpar, roedd chwarter cyntaf y flwyddyn ar ei isaf o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019 a 2020.

Gyda chau llawer o unedau hunanddarpar, gostyngodd defnydd yr unedau chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 13 pwynt canran o 43% i 30% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2020.

Cartrefi gwyliau carafanau statig

Oherwydd y pandemig COVID-19, roedd cau dros dro ar waith am 3 mis cyntaf 2021, ac felly nid yw'r ffigurau ar gyfer y chwarter cyntaf ar gael ar gyfer y cyfnod hwn.

Parciau gwersylla a charafan teithio

Oherwydd y pandemig COVID-19, roedd cau dros dro ar waith am 3 mis cyntaf 2021, ac felly nid yw'r ffigurau ar gyfer y chwarter cyntaf ar gael ar gyfer y cyfnod hwn.

Hosteli

Roedd natur y sector wedi'i gwneud hi'n anodd i fusnesau ailagor yn llawn gyda chyfyngiadau COVID-19 ar nifer y gwesteion yn aros mewn hosteli. Gyda chyfyngiadau yn dal i fod ar waith yn ystod 3 mis cyntaf 2021, nid oes data ar gyfer llety hostel ar gael yn ystod y cyfnod hwn.

Cyd-destun

Cyn i'r cyfnod clo cenedlaethol yn y DU ddechrau ar 23 Mawrth 2020, roedd lefelau defnydd ar draws yr holl sectorau a gwmpesir yn yr adroddiad cryno hwn yn weddol gyson â'r flwyddyn flaenorol yn 2019.

Yn ystod y cyfnod clo rhwng 23 Mawrth a chanol mis Gorffennaf, roedd llawer o fusnesau wedi cau dros dro oherwydd pandemig COVID-19. Roedd y sampl fach yr adroddwyd arni yn ystod y cyfnod hwn yn y sector gwestai mewn perthynas â gwestai a oedd yn darparu llety angenrheidiol i weithwyr allweddol, grwpiau bregus a'r rhai a oedd wedi bod yn sownd yn eu llety oherwydd y cyfnod clo a'r cyfyngiadau ar deithio.

Ar 6 Gorffennaf, cododd Gymru ei chyfyngiadau 'Aros yn Lleol', a alluogodd bobl i ymweld ag ardaloedd eraill o'r wlad ac ymhellach i ffwrdd. Ar 11 Gorffennaf, codwyd cyfyngiadau clo ar ddefnyddio llety, er y mabwysiadwyd dull graddol yn ystod mis Gorffennaf. Gallai llety a oedd yn gwbl hunangynhwysol fel bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol modern a chartrefi modur a rhywfaint o lety glampio ailagor. Roedd hyn hefyd yn cynnwys gwestai a llety â gwasanaeth arall (Gwely a Brecwast, hosteli ac ati) a oedd yn darparu ystafelloedd en-suite a phrydau bwyd ystafell. Ni ail-agorodd llety a oedd yn cynnig cyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla a charafanau a hosteli tan 25 Gorffennaf.

Fodd bynnag, ni ail-agorodd pob busnes ar unwaith ac roedd rhai wedi gohirio ailagor i sicrhau bod eu hadeiladau yn ddiogel o ran COVID-19 a bod asesiadau risg ar waith, ac nid oedd eraill a oedd yn rhedeg busnesau teuluol bach o'r farn ei bod yn ariannol hyfyw agor o gwbl gyda chyfyngiadau ar waith. Roedd y risg i rai perchnogion busnes a oedd wedi bod yn cysgodi hefyd yn ffactor yn eu penderfyniad i beidio ag ailagor pan godwyd cyfyngiadau clo.

Gyda busnesau yn derbyn ymwelwyr yn ystod rhan olaf Gorffennaf, Awst a Medi, gwelwyd arwyddion o adferiad yn y lefelau defnydd ar draws rhai sectorau.

Gyda Chaerdydd ac Abertawe yn dal i fod dan glo o 25 Medi, cychwynnodd mwy o gyfnodau clo lleol ar 1 Hydref yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam ac yna Bangor ar 10 Hydref. Ar draws Cymru gyfan, cychwynnwyd ar gyfnod atal byr ar 23 Hydref i 9 Tachwedd. Daethpwyd â chyfyngiadau newydd i rym am hanner nos ar 19 Rhagfyr (Lefel Rhybudd 4) a oedd yn cynnwys cau pob busnes llety heblaw am ddefnydd hanfodol a theithio wedi'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Cafodd y rheolau eu llacio'n fyr ar gyfer Dydd Nadolig cyn i'r cyfnod clo (Lefel Rhybudd 4) ddechrau eto ar 26 Rhagfyr.

Ar ddechrau 2021, roedd y broses clo mawr (Lefel Rhybudd 4) yn dal i fod ar waith ac yn parhau trwy gydol mis Ionawr, Chwefror, tan 27 Mawrth pan ddaeth Cymru y genedl gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i'r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, fel bythynnod a rhai gwestai, ailagor.

Prif linellau amser yn 2020 a 2021

  • Cyfnod Clo Cenedlaethol y DU o 23 Mawrth 2020.
  • 6 Gorffennaf 2020 Cymru yn codi ei chyfyngiadau teithio 'Aros yn Lleol' a chaniatawyd i atyniadau awyr agored ailagor.
  • Daeth y cyfnod clo i ben 11 Gorffennaf 2020 ar gyfer busnesau llety heb gyfleusterau a rennir.
  • Llwyddodd llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla i ailagor o 25 Gorffennaf 2020 ond arhosodd unrhyw gyfleusterau a rennir ar y safle ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cawodydd a rennir a blociau toiledau.
  • Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan (3 i 31 Awst 2020)
  • 23 Hydref i 9 Tachwedd 2020 Cyfnod atal byr 17 diwrnod yng Nghymru.
  • 19 Rhagfyr 2020 Rheolau swigen Nadolig yn newid i ganiatáu i ddau deulu ddod at ei gilydd ar ddydd Nadolig yn unig.
  • 19 Rhagfyr 2020 Cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno o hanner nos (lefel rhybudd 4): manwerthu nad yw'n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden, lletygarwch a llety i gau ar ddiwedd masnachu. Cyfyngiad aros gartref i ddod i rym am hanner nos.
  • 26 Rhagfyr 2020 Cymru yn mynd i gyfnod clo (lefel rhybudd 4) ar ôl i'r rheolau gael eu llacio'n fyr dros Ddydd Nadolig.
  • Mae cyfyngiadau clo (rhybudd lefel 4) yn parhau ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021.
  • 27 Mawrth 2021 Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i'r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, fel bythynnod a rhai gwestai, ailagor.

Maint sampl

Cychwynnodd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 ar 19 Rhagfyr a oedd unwaith eto yn cynnwys cau pob busnes llety heblaw am ddefnydd hanfodol a theithio wedi'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Gyda'r rheolau'n cael eu llacio'n fyr ar gyfer Dydd Nadolig, cychwynnodd y cyfnod clo (Lefel Rhybudd 4) eto ar 26 Rhagfyr. Parhaodd y cyfyngiadau hyn yn ystod 3 mis cyntaf 2021 gyda chyfyngiadau teithio o fewn ffiniau Cymru wedi eu codi o 27 Mawrth a oedd yn caniatáu i lety hunangynhwysol (gan gynnwys llety hunanddarpar a rhai gwestai) ailagor i ymwelwyr. 

Yr holl feintiau samplau misol yn ôl sector a ddangosir isod yw'r busnesau hynny a oedd ar agor ac a ddarparodd ddata am y mis hwnnw.

Tabl 1: Maint sampl misol yn ôl sector, Ionawr i Fawrth 2021
  Gwestai:
ar agor
Gwestai:
ar gau
Tŷ llety a,
Gwely a brecwast:
ar agor
Tŷ llety a,
Gwely a brecwast:
ar gau
Hunan-
ddarpar:
ar agor
Hunan-
ddarpar:
ar gau
Ionawr 50 131 3 25 69 533
Chwefror 59 124 3 25 34 568
Mawrth 68 115 4 24 230 326
Tabl 1: Maint sampl misol yn ôl sector, Ionawr i Fawrth 2021 (parhau)
  Carafanau statig:
ar agor
Carafanau statig:
ar gau
Carafanau teithiol:
ar agor
Carafanau teithiol:
ar gau
Hosteli:
ar agor
Hosteli:
ar gau
Ionawr 0 19 0 25 0 22
Chwefror 0 19 0 25 0 21
Mawrth 0 19 0 25 2 20

Manylion cyswllt

Jen Velu
Ffôn: 0300 025 0459
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 50/2021
ISBN digidol 978-1-80195-583-6

Image
GSR logo