Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023.

Mae'r adroddiad hwn am Ddeiliadaeth Llety yn rhoi gwybodaeth am lefelau deiliadaeth llety â gwasanaeth a llety hunanddarpar, yn ogystal â hosteli a safleoedd gwersylla/carafanio er nad oes data ar gael ar gyfer y sector gwersylla a charafanau yn yr adroddiad hwn gan fod y categori hwn yn amrywio yn ôl tymor. Ceir data trydydd parti hefyd gan Transparent (gosodiadau tymor byr), ac STR Global (cadwyni gwestai mawr).

Sector â gwasanaeth

  • Cododd y ddeiliadaeth yn gyson yn ystod Chwarter 1. , a 59% oedd y ddeiliadaeth yn gyffredinol ym mis Mawrth. Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru ar y blaen o ran deiliadaeth ystafelloedd.
  • Mae deiliadaeth uwch mewn eiddo mwy, ac mae gwestai yn gwneud yn llawer gwell na thai gwestai / gwely a brecwast
  • Mae data trydydd parti STR yn dangos mai gwestai 50 - 100 ystafell sy'n gwneud  orau o ran deiliadaeth.
  • Mae data STR yn dangos cynnydd cyson mewn deiliadaeth, ac mae cymariaethau â 2022 hefyd yn dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer pob mis.
  • Cyrhaeddodd Cyfradd Ddyddiol Cyfartalog yn uwch flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer Ionawr a Chwefror, ond gostyngodd yn is na lefelau 2022 ym mis Mawrth. Mae RevPAR yn dangos patrwm tebyg.

Sector hunanddarpar

  • Cododd y ddeiliadaeth fesul uned yn gyson bob mis (55% ym mis Mawrth) ond gostyngodd nifer y gwelyau ryw ychydig (roedd ar ei uchaf ym mis Chwefror ar 45%, a gostyngodd i 40% ym mis Mawrth). Yn rhanbarthol, roedd deiliadaeth yn Ne-orllewin Cymru ymhell ar y blaen i Ogledd, Canolbarth a De-ddwyrain Cymru.
  • Llwyddodd busnesau sy'n rhan o asiantaeth neu grŵp i lenwi 64% o'u hystafelloedd - sy'n sylweddol uwch na busnesau annibynnol (27%).
  • Mae data trydydd parti Transparent yn dangos bod deiliadaeth mewn mannau gosod tymor byr yn amrywio ryw ychydig o fis i fis a'i bod yn gyson is na lefelau 2022 am yr un cyfnod ar draws pob rhanbarth.

Sector hosteli

  • Dangosodd y sector hosteli gynnydd o fis i fis o ran deiliadaeth (41% ym mis Mawrth) a nodwyd yma lefelau ychydig yn is, ond tebyg i sectorau eraill.

Sector gwersylla a charafanau

  • Gan eu bod ar gau ar adegau penodol, ni ofynnwyd i safleoedd gwersylla a charafanau am deiliadaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru, Ionawr i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 873 KB

PDF
Saesneg yn unig
873 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.