Disgrifiad o arolygwyr adeiladu, eu rôl a sut i gofrestru.
Cynnwys
Mae arolygwyr adeiladu yn rhan hanfodol o'r diwydiant adeiladu. Maent yn sicrhau diogelwch drwy gadarnhau bod gwaith wedi'i gwblhau'n gywir ac yn unol â rheoliadau adeiladu.
Rôl arolygydd adeiladu
Mae arolygwyr adeiladu'n gweithio i awdurdodau lleol neu gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu (RBCAs). Maent yn gyfrifol am gyflawni gweithgareddau rheoli adeiladu a reoleiddir fel:
- Asesu cynlluniau
- Archwiliadau
- Rhoi cyngor i gyrff rheoli adeiladu sy'n cyflawni swyddogaethau a reoleiddir.
O fis Ebrill 2024 rhaid i arolygwyr adeiladu fod wedi cofrestru gyda'r awdurdod rheoleiddio er mwyn ymgymryd â gweithgareddau rheoli adeiladu a reoleiddir yng Nghymru.
Cymhwysedd Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu
Ni fydd y gofyniad i arolygwyr adeiladu gael eu cofrestru yn newid y dyletswyddau y maent yn eu cyflawni o ddydd i ddydd, ond bydd yn sefydlu lefel sylfaenol o gymhwysedd ar draws y diwydiant ac yn sicrhau bod gwell diogelwch ledled y wlad.
Mae pedwar dosbarth o gymhwysedd ar gael:
Dosbarth 1
Ni fydd angen asesiad cymhwysedd ar gyfer RBIs Dosbarth 1. Dim ond dan oruchwyliaeth y caiff Dosbarth 1 weithio. Mae'r dosbarth hwn yn addas ar gyfer y rhai sy'n newydd i'r proffesiwn, neu'n cael hyfforddiant.
Dosbarth 2
Mae Dosbarth 2 yn dynodi lefel benodol o gymhwysedd fel yr asesir gan gynllun cymeradwy. Gall RBIs sydd wedi'u hachredu ar y lefel hon weithio heb oruchwyliaeth ar gategorïau adeiladu y maent wedi'u cofrestru i weithio arnynt, a allai gynnwys:
- Categori A, tŷ preswyl ar gyfer un aelwyd, llai na 7.5m o uchder
- Categori B, fflatiau preswyl a thai annedd, llai nag 11m o uchder
- Categori C, fflatiau preswyl a thai annedd, 11m neu fwy ond llai na 18m o uchder
- Categori D, pob math o adeilad a defnydd, llai na 7.5m o uchder
- Categori E, pob math o adeilad, 7.5m neu fwy ond llai nag 11m o uchder
- Categori F, pob math o adeilad, 11m neu fwy ond llai na 18m o uchder
Dosbarth 3
Mae cymhwysedd Dosbarth 3 yn dynodi gallu uwch. Gall yr RBIsydd wedi dangos tystiolaeth o allu ar y lefel hon weithio heb oruchwyliaeth ar gategorïau adeiladu y maent wedi'u cofrestru i weithio arnynt, a allai gynnwys:
- Adeiladau Categori A i F
- Categori G, pob math o adeiladau, gan gynnwys safonol ac ansafonol ond heb gynnwys risg uchel, heb unrhyw derfyn uchder
- Categori H, pob math o adeilad, gan gynnwys risg uchel
Dosbarth 4 Rheolwr technegol
Mae'r dosbarth hwn o gymhwysedd wedi'i fwriadu ar gyfer y rhai sydd mewn swyddi rheoli neu oruchwylio. Mae'n ychwanegiad at gymhwyster Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3. Rhaid i rywun sy'n gweithredu gyda'r dosbarthiad hwn beidio â chyflawni gweithgareddau heb oruchwyliaeth sydd wedi'u graddio uwchlaw eu dosbarthiad cynradd – er enghraifft, rhaid i reolwr technegol Dosbarth 4 sydd wedi cael ei asesu fel un cymwys i ddelio â gweithgareddau Dosbarth 2 beidio â chyflawni unrhyw weithgareddau Dosbarth 3 heb oruchwyliaeth.
Gallwch reoli tîm rheoli adeiladu yn weinyddol heb gael eich cofrestru fel arolygydd adeiladu, ond ni allwch reoli gweithwyr proffesiynol rheoli adeiladu ar faterion technegol oni bai eich bod wedi cofrestru.
Asesiad cymhwysedd
I gofrestru fel arolygydd adeiladu Dosbarth 2, 3 neu 4, bydd angen i chi gwblhau asesiad cymhwysedd annibynnol. Mae tri chynllun cymeradwy:
- Y Sefydliad Cymhwysedd Diogelwch Adeiladau
- Cymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE) – www.cbuilde.com
- Total Training Development Ltd
Bydd y cynlluniau hyn yn asesu eich cymhwysedd trwy bortffolio o'ch gwaith yn ogystal ag arholiad neu gyfweliad. Mae'r asesiad yn gwerthuso eich sgiliau, gwybodaeth, profiad ac ymddygiad yn erbyn fframwaith cymhwysedd arolygydd adeiladu. Bydd cwblhau asesiad yn llwyddiannus yn eich galluogi i hawlio tystysgrif sy'n profi eich cymhwysedd a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'ch cais cofrestru. Mae'n rhaid i chi gael eich ailasesu o leiaf bob 4 blynedd.
Cofrestru person fel arolygydd adeiladu
Gallwch wneud cais i gofrestru fel arolygydd adeiladu ar-lein.
Bydd ceisiadau fel arfer yn ddilys am 4 blynedd.
Ar ôl i chi gofrestru
Ar ôl cofrestru, rhaid i chi gynnal a datblygu eich cymhwysedd fel arolygydd adeiladu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:
- Cydymffurfio â'r cod ymddygiad
- parhau i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth, gellir dangos tystiolaeth o hyn drwy gynnal portffolio cyfredol o waith
- cwblhau asesiad cymhwysedd annibynnol o leiaf bob pedair blynedd
- cael eich goruchwylio os ydych yn gwneud gwaith y tu allan i'ch dosbarth cofrestru neu gymhwysedd presennol
Camu ymlaen
Os ydych am ehangu'r ystod o waith rydych wedi'i gofrestru i'w wneud, gallwch wneud hynny drwy:
- datblygu eich cymhwysedd yn eich dosbarth, i weithio ar draws mwy o gategorïau adeiladu
- pasio asesiad cymhwysedd annibynnol i newid eich dosbarth cofrestru
Goruchwylio
Er mwyn cael profiad o weithio ar dasgau y tu allan i'ch dosbarth neu gymhwysedd presennol, gallwch wneud y gwaith, ond rhaid i chi gael eich goruchwylio. Mae'n rhaid i chi gael eich goruchwylio gan arolygydd adeiladu sydd wedi'i gofrestru i ddosbarth a chymhwysedd priodol y gwaith rydych yn ei wneud.
Rheolir goruchwyliaeth gan eich cyflogwr. Os ydych yn hunangyflogedig, dylech gysylltu â'r corff rheoli adeiladu yr ydych yn gweithio iddo a threfnu goruchwyliaeth gan arolygydd adeiladau cofrestredig addas.
Mae'r gwaith a wnewch dan oruchwyliaeth yn cael ei asesu gan eich goruchwyliwr ac maent yn atebol am eich gwaith. Rhaid i gyflogwyr ddefnyddio system i sicrhau bod yr holl waith dan oruchwyliaeth yn cyrraedd y safon.
Rhaid cofnodi gwaith dan oruchwyliaeth yn ffeiliau'r prosiect, a dylech gadw tystiolaeth o'ch gwaith yn eich portffolio.
Cofrestr gyhoeddus
Bydd eich manylion yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus o arolygwyr adeiladu a gynhelir gan y BSR. Mae'r gofrestr yn caniatáu i bobl wirio pwy sy'n arolygydd adeiladu cofrestredig a'r gwaith y maent wedi'i gofrestru i'w wneud.
Mae'r gofrestr yn dangos:
- eich enw
- os ydych wedi eich cyflogi gan gorff rheoli adeiladu, enw a chyfeiriad eich cyflogwr
- os ydych yn hunangyflogedig, y cyfeiriad busnes a gyflwynwyd gennych yn eich cais
- eich dosbarth cofrestru
- pa gategorïau o adeiladau rydych wedi cofrestru i weithio arnynt
- dyddiad dechrau a gorffen y rhaglen
- manylion unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'ch cofrestriad, megis cyfyngiadau ar y math o waith y gallwch ei wneud
Tynnu oddi ar y gofrestr
Gellir tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr os:
- ydych yn gofyn am gael eich tynnu i ffwrdd oherwydd nad ydych am weithio fel arolygydd adeiladu mwyach
- na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad cyn iddo ddod i ben
- ydych yn tramgwyddo o ran eich cyfrifoldebau a'ch cofrestriad yn cael ei atal neu ei ganslo
Os caiff eich manylion eu tynnu oddi ar y gofrestr, bydd y BSR yn parhau i gadw'ch manylion yn unol â'n polisi cadw data.
Os ydych am gymryd seibiant gyrfa o weithio fel arolygydd adeiladu cofrestredig, gallwch ofyn i'ch manylion beidio â bod ar gael i'r cyhoedd ar y gofrestr.
I ofyn am gael eich tynnu oddi ar y gofrestr, ffoniwch y BSR ar 0300 790 6787
Gwneud newidiadau i'ch cofrestriad
Mae'n rhaid i chi hysbysu'r BSR o fewn 28 diwrnod o unrhyw newidiadau sy'n berthnasol i'ch cofrestriad, fel:
- eich enw
- eich cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt
- eich manylion cyswllt
- eich cyflogwr a manylion eich cyflogwr
- os ydych am newid eich dosbarth cofrestru neu gategorïau gwaith
- unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol
- os ydych yn cael eich cosbi gan gorff proffesiynol
- os ydych yn cael eich datgan yn fethdalwr, neu'n destun camau eraill fel y nodir yn y Cod Ymddygiad ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig
- os nad ydych am fod ar y gofrestr mwyach
Gallwch ddarllen mwy am reolau cofrestru yn atodiad 3 y Cod Ymddygiad ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig (hse.gov.uk).
I ddiweddaru eich cofrestriad, ffoniwch y BSR ar 0300 790 6787
Camymddwyn proffesiynol a chwynion
Os byddwch yn euog o gamymddwyn proffesiynol, gallech wynebu sancsiynau. Gellir defnyddio torri'r cod ymddygiad fel tystiolaeth o gamymddwyn proffesiynol.
Rydych yn cyflawni trosedd a gallech gael eich erlyn os ydych
- yn gwneud gwaith nad ydych wedi cofrestru i'w wneud heb oruchwyliaeth
- yn gweithio fel arolygydd adeiladu ar ôl mis Ebrill 2024 heb gofrestru