Neidio i'r prif gynnwy

Aros, Atal, Amddiffyn: dyna'r neges gan Lesley Griffiths wrth iddi ymweld â chanolfan ailgartrefu'r Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog yno er mwyn tynnu sylw at ymgyrch Llywodraeth Cymru sef #ArosAtalAmddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n cael ei hyrwyddo dros gyfnod y Nadolig.  Mae'r ymgyrch yn ceisio atgoffa pawb sy'n ystyried prynu anifail anwes ynglŷn â phwysigrwydd prynu mewn modd cyfrifol.

Mae #ArosAtalAmddiffyn yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn prynu anifail anwes. Mae'n eu cynghori i ymchwilio i'r wybodaeth o ran y costau a'r ymrwymiad amser; ystyried addasrwydd yr anifail anwes i'w hamgylchedd gartref; a sicrhau eu bod yn cael yr anifail o ffynhonnell gyfreithiol a dibynadwy. 

Mae safleoedd bridio cŵn trwyddedig yn cael eu harchwilio a'u cymeradwyo gan awdurdodau lleol ond mae'n bwysig nad yw'r prynwr newydd yn cefnogi'r "fasnach ffermio cŵn bach" anghyfreithlon neu unrhyw ddulliau amheus eraill lle y gallai iechyd neu les y cŵn bach gael eu peryglu.

Yn ystod ei hymweliad, dywedodd y Gweinidog: 

Mae gofalu am unrhyw anifail yn ymrwymiad hirdymor. Dylai pobl wneud yn siŵr eu bod wedi meddwl yn ofalus am yr ymrwymiad y maen nhw'n ei wneud, yn enwedig o ran amser, gofod ac arian. 

Mae angen i bob darpar berchennog wybod o ble mae'r anifail anwes newydd wedi dod. Gofynnwch i'w weld gyda'i fam. Peidiwch â derbyn unrhyw esgusodion pam na all hynny ddigwydd. Os ydych yn prynu ci bach, gwneud yn siŵr fod ganddo ficrosglodyn - dyna'r gyfraith.

Os nad ydych chi'n gwybod hanes yr anifail, ni allwch fod yn sicr ei fod wedi cael gofal neu a yw wedi arfer â bod yng nghwmni pobl. Gallai hyn arwain at broblemau ymddygiad yn y dyfodol a biliau milfeddygol drud.

Cofiwch y gallai anifail anwes weithiau gael ei hysbysebu mewn ffordd sy'n camarwain y prynwr am hanes, brîd neu bedigri'r anifail. Peidiwch â phrynu ar funud wan. Gwnewch eich gwaith ymchwil. 

Byddwch yn ofalus iawn wrth brynu unrhyw anifail a hysbysebwyd ar y we, drwy gyfryngau lleol neu'r cyfryngau cymdeithasol.  Os darganfyddir bod anifail anwes newydd wedi'i fewnforio'n anghyfreithlon a heb gydymffurfio â'r rheolau rheoli clefydau, gallai'r perchennog wynebu biliau cwarantîn a milfeddygol drudfawr”.

Os oes angen cyngor arnoch, mae amrywiaeth o sefydliadau lles anifeiliaid ardderchog ar gael megis y Dogs Trust, yr wyf i'n falch i fod gyda nhw heddiw, y Kennel Club, Cats Protection a'r RSPCA. Os oes gennych unrhyw amheuon neu bryderon am anifail, peidiwch â theimlo o dan bwysau, gallwch gerdded i ffwrdd a siarad â'ch milfeddyg cyn cytuno i'w brynu.

Dim ond rhai o'r negeseuon rydym yn eu hyrwyddo fel rhan o'n hymgyrch #ArosAtalAmddiffyn yw’r rhain. Os oes unrhyw un yn ystyried prynu anifail anwes y Nadolig hwn, edrychwch ar yr hashnod a gwnewch yn siŵr eich bod yn hyderus fod gennych yr holl wybodaeth rydych ei hangen er mwyn prynu mewn modd cyfrifol".