Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Disgynnodd nifer y bobl sy'n aros mwy na 2 flynedd am driniaeth i'r lefel isaf ers mis Mawrth 2021 ym mis Mehefin, yn ôl ffigurau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd ychydig dros 7,400 o lwybrau yn aros mwy na 2 flynedd, bron i 90% yn is na phan oedd y niferoedd ar eu huchaf, a gostyngiad o 27.4% ar fis Mai.

Mae'r ffigurau hefyd yn dangos gostyngiad o fwy na 2,000 ar y rhestr aros gyffredinol.

Am y tro cyntaf heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data amseroedd aros dros dro ar gyfer y mis canlynol i ddarparu gwybodaeth fwy cyfredol i bobl. Mae'r data dros dro ar gyfer mis Gorffennaf yn nodi cynnydd bach mewn arosiadau hir ond mae'r duedd gyffredinol yn parhau am i lawr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Mae'n galonogol gweld bod nifer y bobl sy'n aros mwy na 2 flynedd ar ei isaf ers mwy na 4 blynedd.

Ac rwy'n falch o weld gostyngiad yn y rhestr aros gyffredinol hefyd.

Rydyn ni'n disgwyl gweld rhai amrywiadau yn nifer yr arosiadau hir o fis i fis - mae hynny'n adlewyrchu'n rhannol yr amrywiad yn y niferoedd a ddaeth ar y rhestr 2 flynedd yn ôl. Ond rwy'n hyderus y bydd gostyngiadau pellach sylweddol erbyn diwedd y chwarter nesaf ym mis Medi, gan ein cadw ar y trywydd iawn gyda'n cynllun i ostwng yr arosiadau hiraf.

Rwy'n gwybod bod y byrddau iechyd yn gweithio'n galed iawn i leihau amseroedd aros ac rwy'n gallu gweld effaith hyn yn niferoedd y triniaethau ychwanegol sy'n cael eu cynnal. Mae angen inni wneud yn siŵr bod hyn yn parhau dros y misoedd i ddod.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r byrddau iechyd gyda chynllun gwerth £120 miliwn ar gyfer lleihau'r rhestr aros gyffredinol gan 200,000, dileu arosiadau 2 flynedd ac adfer y targed aros diagnostig 8 wythnos erbyn mis Mawrth 2026. Mae'r byrddau iechyd hefyd wedi cyflwyno cyfres o fesurau i wella cynhyrchiant a gweithgarwch craidd.

Mae ffigurau perfformiad y GIG heddiw hefyd yn dangos bod gwasanaethau brys y GIG yn parhau i ymateb i lefelau uchel iawn o alw. Ym mis Gorffennaf, roedd ychydig yn llai na 101,900 o dderbyniadau i bob adran achosion brys yng Nghymru, cyfartaledd o 3,287 y dydd. Dyma oedd y nifer uchaf ar gofnod.

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn ymweld ag uned mân anafiadau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot heddiw (dydd Iau 21 Awst) lle bydd yn annog pobl i geisio'r gofal cywir gan y gwasanaeth cywir.

Gall unedau mân anafiadau drin pobl a chanddynt broblemau nad ydynt yn peryglu bywyd, fel ysigiadau a mân losgiadau. Gallant ddarparu gofal cyflym a phriodol, gan helpu i ryddhau meddygon a nyrsys adrannau achosion brys i ganolbwyntio ar achosion mwy difrifol.

Mae'r data diweddaraf a ryddhawyd heddiw hefyd yn dangos bod llai o oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys mewn adrannau achosion brys ym mhob bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf o gymharu â mis Mehefin 2025 a blwyddyn yn ôl.

Ym mis Gorffennaf, bu gostyngiad o 18% yn yr amser y mae'n ei gymryd i'r gwasanaeth ambiwlans drosglwyddo cleifion i ofal adran achosion brys o gymharu â'r mis blaenorol, a gostyngiad o 36.1% o gymharu â mis Mehefin 2024. Mae amseroedd trosglwyddo ar eu hisaf ers mis Gorffennaf 2021.

Cafodd mwy na hanner y bobl (59.7%) eu trosglwyddo i ofal staff adran achosion brys mewn llai na 45 munud ym mis Gorffennaf, cynnydd o 6.1% o gymharu â'r mis blaenorol.

Bydd y tasglu cenedlaethol, a sefydlwyd i leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, yn ceisio sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu cynnal.

Mis Gorffennaf oedd y mis cyntaf y cyflwynwyd y categorïau porffor a choch newydd gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ac argyfyngau sy'n peryglu bywyd i bobl sydd mewn perygl difrifol o ataliad y galon neu ataliad anadlol, yn y drefn honno.

Roedd 814 o alwadau porffor, ychydig dros 2% o'r holl alwadau, a 4,449 o alwadau coch, a oedd yn cyfrif am 12.6% o'r holl alwadau.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Rwy'n falch o weld gwelliannau parhaus yn yr amseroedd trosglwyddo o ambiwlansys ac, er bod gostyngiad mewn perfformiad ym maes gofal canser, dyma'r pumed mis yn olynol y mae wedi bod yn uwch na 60%.

Bydd sicrhau bod pobl yn ceisio'r gofal cywir gan y gwasanaeth cywir yn helpu i gefnogi ein GIG pan fydd dan bwysau. Mae adrannau achosion brys ar agor 24/7 i bobl ag argyfyngau sy'n peryglu bywyd. Mae unedau mân anafiadau yn darparu gofal diogel ac effeithiol, a thriniaeth gyflymach yn aml, i bobl a chanddynt anafiadau llai difrifol.

Rwy'n annog pawb i feddwl am y gofal sydd ei angen arnynt - nid adran achosion brys yw'r ateb i bopeth. Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch, gallwch ffonio 111 neu fynd i wefan 111.

Hoffwn ddiolch i'r holl staff sy'n gweithio yn y GIG am barhau i ddarparu'r gofal gorau posibl i bawb sydd ei angen.