Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Gorffennaf 2021.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar y fframwaith Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Hirdymor mewn Oedolion.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ynghylch sut i fwrw ymlaen â’r fframwaith drafft hwn. Mae hyn yn cynnwys cymorth a thriniaeth i'r rhai sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn.
Nod y fframwaith yw:
- cryfhau gwasanaethau o fewn byrddau iechyd i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol
- darparu gwybodaeth benodol am y cyflwr i glinigwyr
- rhoi camau gweithredu i fyrddau iechyd allu mesur eu gwasanaethau yn unol â hwy
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
