Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl ifanc yng Ngheredigion yn gwneud newidiadau gwirioneddol i urddas mislif, gan greu datrysiadau ymarferol sy'n gwella bywydau ar draws eu hysgol a thu hwnt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel aelodau gweithgar o'u cyngor ieuenctid lleol a'r Senedd Ieuenctid, mae myfyrwyr ledled Ceredigion wedi helpu i ddatblygu canllawiau newydd ar gyfer ysgolion yn seiliedig ar brofiadau byw, gan ganolbwyntio ar wneud nwyddau yn fwy hygyrch a lleihau stigma. Mae eu gwaith yn cynnwys gwasanaethau addysgol ar gyfer disgyblion iau, gan sicrhau bod pawb, gan gynnwys bechgyn, yn deall mislif, gan helpu i chwalu rhwystrau i sgwrs agored.

Mae cronfa gwerth £3.2 miliwn Urddas Mislif Llywodraeth Cymru wedi gwella mynediad at nwyddau mislif hanfodol sydd bellach ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob ysgol a choleg ledled Cymru.

Diolch i'r cyllid hwn, gellir cael nwyddau hefyd mewn cannoedd o leoliadau cymunedol gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, banciau bwyd, clybiau chwaraeon a hybiau ieuenctid ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddileu tlodi mislif yn llwyr erbyn 2027, gan sicrhau nad oes neb yn colli addysg, gwaith neu weithgareddau cymdeithasol oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio neu gael mynediad at nwyddau mislif.

Mae myfyrwyr yn Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan wedi sefydlu stondin 'pick & mix' syml ond effeithiol sy'n cynnig nwyddau mislif am ddim.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol â'r ysgol yr wythnos hon i weld eu gwaith yn uniongyrchol.

Dywedodd Casey, myfyriwr yn Ysgol Bro Pedr ac aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion: 

Mae'r stondinau pick and mix wedi bod yma ers tua dwy flynedd bellach, ac maen nhw'n cynnwys llawer o nwyddau mislif rhai nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli cyn i mi eu gweld, fel y padiau y gellir eu hailddefnyddio. Maen nhw wrth y drws, felly gall unrhyw un ddod i mewn a mynd â nhw, waeth pwy sydd yno, oherwydd does dim angen i chi ddweud wrth neb. Felly maen nhw’n hygyrch i bawb, pryd bynnag y mae eu angen arnynt.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: 

Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylent fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd eu hangen. Y math o waith pwysig sy'n cael ei wneud gan y bobl ifanc hyn yn Ysgol Bro Pedr yw'r union fath o fenter rydyn ni’n falch o'i gefnogi. Trwy fynd i'r afael â stigma mislif a chreu datrysiadau ymarferol dan arweiniad pobl ifanc eu hunain, rydyn ni’n adeiladu Cymru lle mae urddas mislif yn realiti i bawb. Rydw i wedi fy wir ysbrydoli gan yr hyn rydw i wedi'i weld yr wythnos hon.