Neidio i'r prif gynnwy

Mae swydd genedlaethol newydd yn cael ei chreu i fynd i'r afael â briwiau pwysedd y gellir eu hosgoi ymysg preswylwyr cartrefi gofal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd uwch-arbenigwr gwella ansawdd yn gweithio gyda Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru i gyflwyno system newydd ar gyfer cofnodi a chyhoeddi achosion o niwed oherwydd pwysedd y gellid bod wedi'u hosgoi mewn cartrefi preswyl. Bydd hefyd yn cydweithio â darparwyr cartrefi gofal i wella dulliau atal briwiau pwysedd.  

Mae hyn yn rhoi sylw i un o argymhellion adroddiad annibynnol Dr Margaret Flynn ar ddigwyddiadau mewn cartrefi gofal yn y De-ddwyrain yn dilyn Ymgyrch Jasmine, a oedd yn ymchwilio i esgeulustod mewn cartrefi gofal yn y De-ddwyrain.  

Dywedodd Rebecca Evans:

"Bydd system adrodd newydd yn monitro gwelliant ac yn cynnig tryloywder i'r cyhoedd ac i deuluoedd, i'r cyrff sy'n arolygu cartrefi gofal ac i'r bobl sy'n comisiynu gwasanaethau cartrefi gofal.  

"Bydd yr uwch-arweinydd newydd yn cydweithio â darparwyr a rheoleiddwyr cartrefi gofal ledled Cymru i leihau'r achosion o friwiau pwysedd y gellir eu hosgoi. Mae atal briwiau pwysedd yn golygu sicrhau bod newid yn digwydd ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd ac ym mhob cartref gofal. Mae'n swyddogaeth gymhleth sy'n gofyn am arweinyddiaeth lefel uwch. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i barhau i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu i bobl hŷn, eiddil yng Nghymru.”