Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi croesawu penodiad arweinydd clinigol newydd ar gyfer iechyd menywod a fydd yn helpu i annog gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd menywod ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Dr Helen Munro, ymgynghorydd gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn ymgymryd â'r rôl arweinydd clinigol ar gyfer iechyd menywod – y rôl gyntaf o'i math yng Nghymru. Ar y cyd ag Alex Hicks, rheolwr newydd y rhwydwaith strategol, bydd Dr Munro yn arwain y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod i ddatblygu'r Cynllun Iechyd Menywod i Gymru.

Bydd datblygu’r cynllun yn cael ei ategu gan ganlyniadau arolwg eang o bron i 4,000 o fenywod a merched a rannodd eu profiadau iechyd.

Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi cyhoeddi cyllid gwerth £750,000 i gomisiynu ymchwil, o fis Ebrill 2025 ymlaen, a fydd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar iechyd menywod.

Dywedodd Eluned Morgan:

Dw i'n falch iawn o gyhoeddi cyllid ar gyfer ymchwil i iechyd menywod. Yn aml, nid yw ymchwil i iechyd menywod wedi cael digon o sylw na chyllid, a dydyn ni ddim yn gwybod digon am lawer o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod a merched bob dydd, sy'n aml yn gyflyrau ag effeithiau difrifol.

Bydd yr ymchwil hon wedi'i seilio ar ymarfer blaenoriaethu fydd yn gofyn am farn y rhai sydd â phrofiad bywyd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae ychydig dros hanner (51%) o fenywod wedi nodi bod ganddynt salwch hirdymor, ac mae 40% o fenywod wedi dweud bod y cyflyrau hyn yn cyfyngu arnynt. Mae hyn o’i gymharu â 45% o ddynion sy'n nodi bod ganddynt salwch hirdymor, a 30% sy’n dweud eu bod yn teimlo bod y cyflyrau hyn yn cyfyngu arnynt.

Mae gwaith i wella gwasanaethau iechyd wedi cynnwys cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched a’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, sydd wedi bod yn ymwneud â materion megis iechyd y pelfis, defnyddio rhwyll, endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol. Mae cydlynwyr iechyd y pelfis a nyrsys endometriosis pwrpasol bellach yn gweithio ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mae cynnydd i'w weld ledled ym mhob bwrdd iechyd. Er enghraifft, mae Canolfan Iechyd Menywod wedi’i sefydlu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ddod â'r holl wasanaethau gynaecoleg ynghyd mewn un lle.

Yn ogystal, mae hyfforddiant ar gyfer staff y GIG ar faterion iechyd menywod wedi'i gyflwyno ochr yn ochr â chynnwys addysg lles mislif yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm newydd.

Ychwanegodd Ms Morgan:

Menywod a merched yw ychydig dros hanner y boblogaeth, ond rydyn ni'n dal i glywed straeon am leisiau a phryderon menywod am gyflyrau yn cael eu diystyru.

Dw i wedi nodi'n glir fy ymrwymiad i wella gwasanaethau iechyd menywod, gwella canlyniadau i fenywod a merched, a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yn ein system iechyd.

Dw i'n falch bod iechyd menywod yn dechrau cael y sylw angenrheidiol a dw i'n disgwyl i'r rhwydwaith iechyd menywod a'r arweinydd clinigol newydd ddod â rhagor o leisiau menywod o'r Gwasanaeth Iechyd a thu hwnt at ei gilydd i greu cynllun sy'n addas i'r diben.