Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Amgylcheddol Strategol: Sgrinio Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol: atodiad

Mae'r atodiad hwn yn diweddaru casgliadau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: Proses Sgrinio’r Asesiad Amgylcheddol Strategol o Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol (15 Awst 2022), a dylid ei ddarllen ochr yn ochr ag ef. Roedd casgliadau proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol 2022 yn seiliedig ar set o nodweddion sylfaenol yr Hysbysiad Cynllunio Morol a pholisïau cysylltiedig y cynllun morol. Mae'r atodiad hwn wedi'i gynhyrchu i bennu a yw nodweddion Hysbysiadau Cynllunio Morol a pholisïau cysylltiedig wedi newid nawr bod yr Hysbysiad Cynllunio Morol drafft wedi'i gwblhau ac, os felly, a yw'r casgliadau'n dal i fod yn gywir ai peidio.

Cefndir

Yn unol â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen i nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl a gweithredu polisi SAF_02 Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru i ddiogelu ardaloedd adnoddau y mae sector yn dibynnu arnynt rhag effeithiau andwyol sylweddol o ganlyniad i unrhyw gynigion newydd sy'n cael eu hystyried gan sectorau eraill yn yr ardaloedd hyn. Mae Ardaloedd Adnoddau Strategol ac SAF_02 yn cael eu gweithredu drwy Hysbysiadau Cynllunio Morol.

Fel y nodir ym mhroses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol 2022 (gan gyfeirio at ddogfennau ategol Ardaloedd Adnoddau Strategol), bwriedir i Ardaloedd Adnoddau Strategol ddiogelu adnoddau a hwyluso deialog ragweithiol rhwng sectorau wrth gynllunio gweithgareddau i'r dyfodol. Bwriad Ardaloedd Adnoddau Strategol yw gweithredu gyda pholisi SAF_02 Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru er mwyn nodi ardaloedd adnoddau penodol i sector er mwyn diogelu at ddefnydd posibl yn y dyfodol heb unrhyw gasgliad ynghylch derbynioldeb neu annerbynioldeb datblygiadau penodol, felly: 

  • nid ydynt yn rhoi hawliau defnyddio neu ddatblygu gan unrhyw sector. 
  • ni fyddant yn darparu unrhyw gymorth uniongyrchol na budd cynllunio ar gyfer datblygu (e.e. ni fydd cynnig 'ffrwd lanw' yn cael ei ystyried yn fwy derbyniol neu'n fwy tebygol o gael ei ganiatáu oherwydd ei fod mewn Ardal Adnoddau strategol ffrwd lanw). 
  • nid ydynt yn atal defnydd o ardal gan sectorau eraill (felly, er enghraifft, byddai angen i gynnig agregau mewn Ardal Adnoddau Strategol 'ffrwd lanw' ddangos (inter alia) y gellir sicrhau cydnawsedd derbyniol gyda'r potensial i ddatblygiadau ffrwd lanw cynaliadwy gael eu cyflawni yn yr ardal honno). 
  • nid ydynt yn awgrymu unrhyw raddfa neu gyfradd benodol o ddatblygu neu ddefnyddio adnoddau.

Allbynnau barn sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol

Ar 15 Awst 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Proses Sgrinio’r Asesiad Amgylcheddol o hysbysiad cynllunio morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol a Hysbysiadau Cynllunio Morol (Wood Group UK Limited, 2022) yn seiliedig ar ddibenion ac egwyddorion Ardaloedd Adnoddau Strategol. Y casgliadau allweddol o'r ymarfer sgrinio hwn yw:

  • er bod Hysbysiad Cynllunio Morol Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gymwys fel cynllun neu raglen berthnasol (Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Erthygl 2a / Rheoliad Asesiad Amgylcheddol Strategol 2(1)(a)) a'i fod o fewn sector priodol (Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Erthygl 3.2a / Rheoliad Asesiad Amgylcheddol Strategol 5(2)(a)): 
    • nid yw'n gosod y fframwaith ar gyfer cydsyniad datblygu yn y dyfodol (Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Erthygl 3.2a ac Erthygl 3.4 / Rheoliad Asesiad Amgylcheddol Strategol 5(2)(b)); ac 
    • nid yw'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd sy'n gofyn am asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd (Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Erthygl 3.2b/ Rheoliad Asesiad Amgylcheddol Strategol 5(3)).
  • o ganlyniad, ni fodlonir y gofynion ar gyfer Asesiad Amgylcheddol Strategol o dan y rheoliadau perthnasol.
  • mae'r Hysbysiad Cynllunio Morol wedi cael ei ystyried yn erbyn gofynion Erthygl 6 neu 7 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (a adlewyrchir drwy gymhwyso Rheoliadau 63 (ac o bosibl 64) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017).
  • daeth proses sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol i'r casgliad nad yw'n cyflwyno unrhyw fecanweithiau lle byddai effeithiau sylweddol ar unrhyw safleoedd Ewropeaidd (neu'r Parth Cadwraeth Morol (MCZ)) yn debygol, ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad, oherwydd y nodweddion sylfaenol a fydd yn gyffredin i Hysbysiadau Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol ar draws pob sector.
  • mae'r gofyniad i gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd (SA) o Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol hefyd wedi'i ystyried ... mae wedi dod i'r casgliad ... nad oes angen ymgymryd ag Arfarniad Cynaliadwyedd o Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol.
  • efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i fod eisiau defnyddio dulliau asesu strategol wrth ddatblygu Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol; fodd bynnag, byddai penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru.

O dan yr ystyriaethau hyn, daeth y broses sgrinio i'r casgliad nad oes gofyniad ffurfiol i gwblhau Asesiad Amgylcheddol Strategol.

Mae'r casgliad hwn yn cyd-fynd â chasgliadau Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (Grŵp Wood, 2019) sef:

  • “… WNMP policies are likely to make a significant positive contribution to the achievement of the seven well-being goals for Wales, supporting the objective for SMNR [Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy].”
  • “Development and use of the marine area will unavoidably require the use of natural resources and could result in some adverse environmental effects … However, the general cross-cutting policies of the … WNMP seek to avoid, minimise or mitigate significant adverse effects associated with new development or activity and will help to ensure the sustainable management of natural resources.”

Mae'r casgliad hwn hefyd yn cyd-fynd â chasgliadau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (Grŵp Wood, 2019) sef:

  • “… there will be no adverse effect on the integrity of any European sites, alone or in combination, as a result of the plan’s implementation”
  • “All future project-level proposals will be subject to a project-level HRA as part of the consenting procedure, and the general cross-cutting protective policies within the plan will reinforce existing safeguards for European sites.”

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r casgliadau dros dro yn rheolaidd er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau unwaith y bydd gwybodaeth bellach am gynnwys Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol wedi'i chwblhau. 

Atodiad barn sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol

Mae'r atodiad hwn i broses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol o Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol (Wood Group UK Limited, 2022) yn ail-werthuso casgliadau proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol 2022 yn seiliedig ar yr Hysbysiad Cynllunio Morol drafft sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ac y mae proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol y mae’n ymwneud ag. 

Mae natur a rôl yr Ardaloedd Adnoddau Strategol arfaethedig a polisi SAF_02 yn dal i fod yr un fath. Felly, yn hyn o beth, nid yw casgliadau proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol wedi newid, ac maent yn dal i fod yn gwbl berthnasol.

Dyma'r ardaloedd lle bu rhywfaint o fireinio'r dull gweithredu:

  • mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol ar Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer Ynni Ffrwd Lanw, er mwynllywio unrhyw benderfyniadauynghylch a ddylidcynnig rhagor o Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer sectorau eraill.  Fodd bynnag, nid yw hyn yn newid nac yn effeithio ar natur a rôl sylfaenol Ardaloedd Adnoddau Strategol neu bolisi SAF_02, ac nid yw'n gwyro o unrhyw un o'r ymatebion i gwestiynau proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae hyn hefyd yn gydnaws â dewis arall a gynigiwyd yn yr Arfarniad Cynaliadwyedd ar gyfer Hysbysiadau Cynllunio Morol ar gyfer Ardaloedd Adnoddau Strategol (gweler https://www.llyw.cymru/ardaloedd-adnoddau-strategol-ar-gyfer-cynllunio-morol). Felly, mae'r farn sgrinio yn aros yr un fath.
  • mae'r ymateb i gwestiwn 8 o broses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cyfeirio, ymysg pethau eraill, at ystyried cyfyngiadau meddal a diwygio Ardal Adnoddau Strategol bosibl fel y bo'n briodol.  Fodd bynnag, mae hyn yn dod yn sgil y casgliad na fydd gweithredu Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn cael unrhyw effeithiau sylweddol uniongyrchol tebygol ar yr amgylchedd oherwydd, o ystyried natur a rôl Ardaloedd Adnoddau Strategol a pholisi SAF_02, nid oes unrhyw fecanweithiau lle gallai effeithiau o'r fath ddigwydd.  Yn ddiweddarach cytunwyd gyda rhanddeiliaid, o ystyried diben Ardaloedd Adnoddau Strategol, na fyddai'n briodol mireinio ffiniau yn seiliedig ar gyfyngiadau meddal; yn hytrach, dylid cymhwyso cyfyngiadau meddal fel ystyriaethau lefel prosiect wrth gydsynio a gwneud penderfyniadau. Daw'r Arfarniad Cynaliadwyedd i'r casgliad y bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith 'niwtral' ar gynaliadwyedd. Gan gymhwyso'r un rhesymeg i'r meini prawf a aseswyd ym mhroses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol, nid yw'r penderfyniad i beidio â defnyddio cyfyngiadau meddal i fireinio ffiniau Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gwyro o unrhyw un o'r ymatebion i gwestiynau proses sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae cymhwyso cyfyngiadau meddal fel ystyriaeth lefel prosiect, yn hytrach na'u defnyddio i fireinio ffiniau Ardaloedd Adnoddau Strategol, yn cefnogi'r casgliadau hyn, felly nid yw barn sgrinio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol wedi newid.