Dyma adroddiad terfynol astudiaeth arhydol a archwiliodd bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’n darparu asesiad o berfformiad llywodraeth leol yn ystod cyfnod trydydd tymor Llywodraeth Cymru (h.y. 2006/2007 hyd at 2010/2011). Mae hefyd yn archwilio datblygiad, gweithrediad ac effaith y tair egwyddor arweiniol a oedd yn sail i Ddatganiad Polisi Llywodraeth Leol 2007.
Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ddadansoddiad manwl o ddata a oedd eisoes yn bodoli a llawer iawn o dystiolaeth newydd a gasglwyd gennym yn ystod yr astudiaeth.
Mae’r data’n cynnwys:
- dogfennau polisi, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, adroddiadau arolygu, a chanlyniadau’r arolwg Byw yng Nghymru
- dau arolwg cynhwysfawr o uwch swyddogion a chynghorwyr awdurdodau lleol o bob un o’r 22 awdurdod unedol
- cyfweliadau â 24 o uwch weision sifil a swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r prif wasanaethau llywodraeth leol
- wyth astudiaeth achos o effaith y tair thema a oedd yn sail i bolisïau’r Llywodraeth ar gyfer llywodraeth leol ar feysydd polisi allweddol.
