Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio rhaglen Dechrau'n Deg a'i rhesymeg, sut y gellir ei gwerthuso a beth allai fod angen ei newid er mwyn cynnal gwerthusiadau mwy cadarn a dibynadwy.

Ar hyn o bryd, mae'r hyn a all fod yn hysbys, neu sydd eisoes yn hysbys, am y rhaglen yn seiliedig ar:

  • y gwahaniaethau rhwng ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg o ran rhai o'r canlyniadau a fwriadwyd
  • y newidiadau o ran rhai o ganlyniadau a fwriadwyd ar gyfer ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg ar ôl i’r ymyrraeth fod ar waitham sawl blwyddyn  
  • canfyddiadau rhieni a rhanddeiliaid o'r rhaglen, ei hawliau penodol a'u rhwystrau canfyddedig i gymryd rhan ynddi.

Er bod y meysydd hyn o ddiddordeb, ac yn gallu darparu gwybodaeth ddefnyddiol, nid ydynt yn rhoi digon o wybodaeth i gynnal asesiad llawn o effeithiau'r rhaglen ar deuluoedd, rhieni a phlant.

Cynhaliwyd sawl gwerthusiad o'r rhaglen ers 2009 gan ddefnyddio amrywiaeth o fethodolegau, ond hyd yn hyn ni chafwyd asesiad cydlynol o werthusadwyedd y rhaglen.

Adroddiadau

Asesiad o werthusadwyedd Dechrau'n Deg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1003 KB

PDF
1003 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.