Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru – Ardaloedd Adnoddau Strategol Barn Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a Barn Sgrinio Asesiad Parth Cadwraeth Morol

Mae Gweinidogion Cymru, fel yr awdurdod cynllunio morol ar gyfer ardal forol y glannau a’r môr mawr yng Nghymru, yn cyhoeddi Hysbysiad Cynllunio Morol i gyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol ac i roi ar waith, mewn perthynas â’r Ardaloedd Adnoddau Strategol hynny, bolisi diogelu SAF_02 Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (y ‘Cynllun Morol’) ar gyfer adnoddau Ynni Ffrwd Lanw. 

Mae Llywodraeth Cymru, fel yr awdurdod cymwys ar gyfer y Cynllun Morol a chyhoeddi’r Hysbysiad Cynllunio Morol, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol penderfynu a fydd angen ‘asesiad priodol’ ar Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardal Adnoddau Strategol ar gyfer Ynni Ffrwd Lanw yn unol â Rheoliad 63 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) a Rheoliad 28 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol y Môr Mawr 2017 (‘Rheoliadau Cynefinoedd y Môr Mawr’) (h.y. ystyrir Hysbysiad Cynllunio Morol yn ‘gynllun’ o fewn cwmpas y Rheoliadau). 

Nid yw Hysbysiadau Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gynlluniau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli unrhyw safleoedd Ewropeaidd penodol, nac yn angenrheidiol i reoli safleoedd o’r fath, ac felly nid yw’r eithriadau yn Rheoliad 63(1)(b) a Rheoliad 28(2)(c) yn berthnasol i Hysbysiadau Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol. 

Serch hynny, ar ôl adolygu pob elfen o’r Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardal Adnoddau Strategol ar gyfer Ynni Ffrwd Lanw, gan gynnwys y polisïau cysylltiedig yn y Cynllun Morol (yn benodol SAF_02), daethpwyd i’r casgliad nad oes angen asesiadau pellach ar yr Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardal Adnoddau Strategol, gan na allai gael unrhyw effaith mewn egwyddor ar safle Ewropeaidd. Mae’r casgliad hwn wedi’i seilio ar nodweddion sylfaenol canlynol yr Hysbysiad Cynllunio Morol a’r polisïau cysylltiedig yn y Cynllun Morol:

  • bydd yr Hysbysiad Cynllunio Morol yn gwbl atodol i’r Cynllun Morol ac yn amodol ar hwnnw, ac ni fydd yn cyflwyno unrhyw bolisïau newydd, ac ni allai wrthdaro a pholisïau’r Cynllun Morol
  • bydd yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gweithredu gyda SAF_02 i ddiogelu adnoddau rhag cael eu sterileiddio’n amhriodol a hwyluso deialog ragweithiol rhwng sectorau wrth gynllunio gweithgareddau’r dyfodol; nid ydynt yn diogelu adnoddau ar gyfer datblygu, nac yn hyrwyddo unrhyw ddatblygu neu weithgareddau arall
  • rhaid i’r holl gynigion sy’n cael eu cyflwyno mewn Ardal Adnoddau Strategol ddilyn y gweithdrefnau awdurdodi a chydsynio arferol, ynghyd â’r polisïau diogelu cyffredinol yn y Cynllun Morol. Ni fydd yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn dylanwadu ar ba mor dderbyniol yn y pen draw (neu beidio) yw datblygiadau penodol; ni fyddant chwaith yn rhoi hawliau, cefnogaeth, manteision o ran penderfyniadau cynllunio (ac ati) ar gyfer datblygu gan sector penodol; ni fyddant chwaith yn awgrymu unrhyw faint neu raddfa ar gyfer datblygu neu ddefnyddio adnoddau
  • na fydd yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn arwain at effeithiau anuniongyrchol nac eilaidd ar safleoedd Ewropeaidd drwy fecanweithiau eraill, megis drwy roi’r argraff o gefnogaeth, drwy symud gweithgareddau’n anfwriadol, drwy rwystro camau cadwraeth, neu drwy roi cefnogaeth anuniongyrchol i ddatblygiad a allai effeithio’n niweidiol ar safle Ewropeaidd

Darperir tystiolaeth ategol yn :

Mae Llywodraeth Cymru, fel yr awdurdod cymwys ar gyfer y Cynllun Morol a chyhoeddi'r Hysbysiad Cynllunio Morol, hefyd o'r farn ei bod yn angenrheidiol pennu a fydd yr Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer adnoddau Ynni Ffrwd Lanw angen asesiad 'adran 126' sy'n ymwneud â risgiau sylweddol o rwystro'r amcanion cadwraeth a nodir ar gyfer Parthau Cadwraeth Morol yn unol â Rhan 5 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Mae'r mecanweithiau lle gallai Hysbysiad Cynllunio Morol sy'n cyflwyno Ardal Adnoddau Strategol effeithio ar Barth Cadwraeth Morol yr un fath ag ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n ddarostyngedig i Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Felly, er gwaethaf y gwahanol gamau o fewn 'asesiad priodol' ac asesiad 'adran 126', mae casgliadau sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r rhesymeg sylfaenol hefyd yn berthnasol i Barthau Cadwraeth Morol, gan nad yw Ardaloedd Adnoddau Strategol yn cyflwyno unrhyw fecanweithiau lle byddai effeithiau sylweddol ar unrhyw Barth Cadwraeth Morol yn debygol, ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad, oherwydd y nodweddion sylfaenol a fydd yn gyffredin i Hysbysiadau Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol ar draws pob sector.

Darperir tystiolaeth ategol yn :

Ni fydd yr Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardal Adnoddau Strategol gan hynny’n cael unrhyw effaith sylweddol, ar ei ben eu hunan nac ar y cyd, ar unrhyw safleoedd Ewropeaidd neu Barthau Cadwraeth Morol.