Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn Technegol Ardaloedd Adnoddau Strategol a Hysbysiadau Cynllunio Morol: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) - Atodiad

Mae'r atodiad hwn yn diweddaru casgliadau Nodyn Technegol Ardaloedd Adnoddau Strategol a Hysbysiadau Cynllunio Morol: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (15 Awst 2022) a dylid darllen y ddwy ddogfen ochr yn ochr. Roedd casgliadau’r Nodyn Technegol 2022 yn seiliedig ar set o nodweddion sylfaenol yn yr Hysbysiad Cynllunio Morol a pholisïau cysylltiedig y cynllun morol. Mae'r atodiad hwn wedi'i gynhyrchu i bennu a yw casgliadau’r proses sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yr un mor berthnasol i Barthau Cadwraeth Morol.

Cefndir

Yn unol â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen i nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl a gweithredu polisi SAF_02 Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.  Mae'r polisi yn diogelu ardaloedd adnoddau rhag effeithiau andwyol sylweddol o ganlyniad i unrhyw gynigion newydd sy'n cael eu hystyried gan sectorau eraill yn yr ardaloedd hyn. Bydd Ardaloedd Adnoddau Strategol yn cael effaith drwy gyhoeddi Hysbysiadau Cynllunio Morol.

Fel y nodir yn Nodyn Technegol proses sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd 2022, nod Ardaloedd Adnoddau Strategol yw diogelu adnoddau a hwyluso deialog ragweithiol rhwng sectorau wrth gynllunio gweithgareddau i'r dyfodol. Bwriad Ardaloedd Adnoddau Strategol yw gweithredu gyda pholisi SAF_02 Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru er mwyn nodi ardaloedd adnoddau penodol i sector i’w diogelu at ddefnydd posibl yn y dyfodol heb unrhyw gasgliad ynghylch derbynioldeb neu annerbynioldeb datblygiadau penodol, felly: 

  • nid ydynt yn rhoi hawliau defnyddio neu ddatblygu ar gyfer unrhyw sector
  • ni fyddant yn darparu unrhyw gymorth uniongyrchol na budd cynllunio ar gyfer datblygu (e.e. ni fydd cynnig 'ffrwd lanw' yn cael ei ystyried yn fwy derbyniol neu'n fwy tebygol o gael ei ganiatáu oherwydd ei fod mewn Ardal Adnoddau Strategol ffrwd lanw)
  • nid ydynt yn atal defnydd o ardal gan sectorau eraill (felly, er enghraifft, byddai angen i gynnig agregau mewn Ardal Adnoddau Strategol 'ffrwd lanw' ddangos (inter alia) y gellir sicrhau cydnawsedd derbyniol gyda'r potensial i ddatblygiadau ffrwd lanw cynaliadwy gael eu cyflawni yn yr ardal honno)
  • nid ydynt yn awgrymu unrhyw raddfa neu gyfradd benodol o ddatblygu neu ddefnyddio adnoddau

Casgliadau barn sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Ar 15 Awst 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Ardaloedd Adnoddau Strategol a Hysbysiadau Cynllunio Morol (Wood Group UK Limited, 2022) yn seiliedig ar nodweddion sylfaenol yr Hysbysiad Cynllunio Morol a pholisïau cysylltiedig y cynllun morol. Dyma’r casgliadau allweddol a ddaeth o'r ymarfer sgrinio hwn:

  • mae'r Hysbysiad Cynllunio Morol wedi cael ei ystyried yn erbyn gofynion Erthygl 6 a 7 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (a adlewyrchir drwy gymhwyso Rheoliadau 63 (ac o bosibl 64) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017)
  • nid yw Ardaloedd Adnoddau Strategol yn arwain datblygiad i ardal nac oddi yno, nac yn rhoi neu'n awgrymu addasrwydd datblygu; nid ydynt chwaith yn darparu cymorth neu fudd polisi cynllunio ar gyfer datblygu nac yn sterileiddio ardal rhag datblygu gan weithgareddau eraill
  • rhaid i'r holl gynigion a wneir o fewn Ardal Adnoddau Strategol ddilyn gweithdrefnau awdurdodi a chydsynio arferol. Bydd angen cymhwyso’n llawn bob rheoliad amgylcheddol (a pholisïau o fewn Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru) ar gyfer unrhyw ddatblygiad a wneir o fewn unrhyw Ardal Adnoddau Strategol (yr un fath â phob lleoliad arall). Efallai na fydd gweithgarwch dynol penodol yn briodol mewn Ardal Adnoddau Strategol oherwydd y gofyniad i amddiffyn nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig neu am resymau eraill
  • ni fydd Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gwrthdaro â dynodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig na chwblhau cyfraniad Cymru at rwydwaith ecolegol cydlynol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Byddai cynnal a chadw neu gyflawni 'statws cadwraeth ffafriol' ar gyfer safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd Morol Gwarchodedig a safleoedd daearol) o fewn neu'r tu allan i'r Ardaloedd Adnoddau Strategol yn rheswm clir ac argyhoeddiadol dros fwrw ymlaen â chynigion cadwraeth natur a allai fel arall fod yn anghydnaws â dynodiad Ardal Adnoddau Strategol
  • nid yw'r diogelu a ddarperir gan SAF_02 yn cael blaenoriaeth dros yr amddiffyniad a ddarperir gan y Rheoliadau Cynefinoedd; ni ellir dibynnu ar anghydnawsedd ag Ardal Adnoddau Strategol am ddadl "dim dewisiadau amgen," a byddai osgoi effeithiau andwyol ar safle Ewropeaidd bob amser yn rheswm "clir ac argyhoeddiadol" dros gynigion 'anghydnaws' i ddigwydd o fewn Ardal Adnoddau Strategol serch hynny
  • mae proses sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol wedi dod i'r casgliad nad yw'n cyflwyno unrhyw fecanweithiau lle byddai effeithiau sylweddol ar unrhyw safleoedd Ewropeaidd yn debygol, ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad, oherwydd y nodweddion sylfaenol a fydd yn gyffredin i Hysbysiadau Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol ar draws pob sector
  • nid yw'n debygol y bydd Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn cael effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd sy'n gofyn am asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd (Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Erthygl 3.2b/ Rheoliad Asesiad Amgylcheddol Strategol 5(3))

Gan ystyried hyn oll, daeth y nodyn technegol i'r casgliad nad oes gofyniad ffurfiol i gwblhau 'Asesiad Priodol' yn unol â Rheoliad 63 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Rheoliad 28 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017.

Mae'r casgliad hwn yn cyd-fynd â chasgliadau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (Grŵp Wood, 2019) sef:

  • “… there will be no adverse effect on the integrity of any European sites, alone or in combination, as a result of the plan’s implementation”
  • “All future project-level proposals will be subject to a project-level HRA as part of the consenting procedure, and the general cross-cutting protective policies within the plan will reinforce existing safeguards for European sites.”

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu proses sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r casgliadau dros dro yn rheolaidd er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau unwaith y bydd gwybodaeth bellach am gynnwys Hysbysiad Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol wedi'i chwblhau. 

Atodiad barn sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Asesiad Parth Cadwraeth Morol

Mae Rhan 5 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn darparu ar gyfer dynodi Parthau Cadwraeth Morol. Mae Adran 125 yn gosod dyletswyddau cyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i arfer eu swyddogaethau mewn modd sy'n hyrwyddo'r amcanion cadwraeth a nodir ar gyfer y Parth Cadwraeth Morol neu, pan nad yw hyn yn bosibl, eu harfer mewn modd y mae'r awdurdod yn ystyried ei fod yn rhwystro cyflawni'r amcanion hynny i'r graddau lleiaf. Os byddai unrhyw swyddogaethau o'r fath yn rhwystro cyflawni amcanion cadwraeth y Parth Cadwraeth Morol yn sylweddol, rhaid hysbysu'r corff cadwraeth statudol priodol. 

Mae adran 126 yn darparu ar gyfer sefyllfaoedd lle nad yw'r person sy'n ceisio'r awdurdodiad yn gallu bodloni'r awdurdod nad oes risg sylweddol o'r gweithgaredd rhwystro cyflawni'r amcanion cadwraeth a nodir ar gyfer y Parth Cadwraeth Morol. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae angen i'r person fodloni'r awdurdod:

  1. nad oes unrhyw ffordd arall o fwrw ymlaen â'r gweithgaredd a fyddai'n creu risg sylweddol is o rwystro cyflawni'r amcanion hynny, 
  2. bod y budd i'r cyhoedd o fwrw ymlaen â'r gweithgaredd yn amlwg yn gorbwyso'r risg o niwed i'r amgylchedd a fydd yn cael ei greu drwy fwrw ymlaen â'r gweithgaredd, ac 
  3. y bydd y person sy'n ceisio'r awdurdodiad yn ymgymryd â mesurau, neu'n gwneud trefniadau ar gyfer ymgymryd â mesurau, sydd o fudd amgylcheddol cyfatebol i'r niwed y bydd y gweithgaredd yn ei wneud neu'n debygol o'i wneud i'r Parth Cadwraeth Morol.

Mae Adran 127 yn ymwneud â chyngor ac arweiniad gan gyrff cadwraeth ar faterion o'r fath.

Mae'r mecanweithiau lle gallai Hysbysiad Cynllunio Morol sy'n cyflwyno Ardal Adnoddau Strategol effeithio ar Barth Cadwraeth Morol yr un fath ag ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n ddarostyngedig i Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. O'r herwydd, er gwaethaf y gwahanol gamau o fewn 'asesiad priodol' ac asesiad 'adran 126', mae casgliadau proses sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, y rhesymeg sylfaenol a'r canfyddiadau a nodir yn yr atodiad hwn hefyd yn berthnasol i Barthau Cadwraeth Morol.  Nid yw Hysbysiadau Cynllunio Morol sy'n cyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol yn cyflwyno unrhyw fecanweithiau sy’n golygu y byddai effeithiau sylweddol ar unrhyw Barth Cadwraeth Morol yn debygol, ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad, oherwydd y nodweddion sylfaenol a fydd yn gyffredin i Hysbysiadau Cynllunio Morol yr Ardaloedd Adnoddau Strategol ar draws pob sector. 

Casgliad