Mae’r llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru yn adroddiad annibynnol ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Mae'n asesu ansawdd, diogelwch, tegwch a chysondeb y gofal.
Dogfennau
Y llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru: Asesiad sicrwydd cenedlaethol o ofal a gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
Y llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru: atodiadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 32 MB
Manylion
Comisiynwyd yr adroddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mai 2025 yn dilyn pryderon sylweddol a godwyd mewn adolygiadau diweddar, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r adolygiadau hyn yn tynnu sylw at brofiadau annerbyniol, materion diwylliannol, risgiau diogelwch, ac amrywiaeth mewn gofal.
Bu panel arbenigol annibynnol yn goruchwylio'r gwaith ac yn arwain dull system gyfan, aml-ddull ledled Cymru. Cyfarfu'r panel rhwng Medi 2025 a Ionawr 2026.
