Neidio i'r prif gynnwy

Ymgymryd ag ymchwil gyda sylfaenwyr ac arweinwyr busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n allforio er mwyn deall eu llwybrau a rhwystrau i dwf.

Diben yr ymchwil archwiliol hon oedd datblygu ac asesu defnyddioldeb dull o ganfod cwmnïau twf uchel yng Nghymru a darparu data ansoddol dangosol ynghylch eu llwybrau, ffactorau galluogol a rhwystrau i dwf.

Prif ganfyddiadau

  • Mae cymhwyso diffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o dwf uchel i busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi dangos bod y rhan fwyaf o gwmnïau sy’n profi twf yn methu â bodloni’r mesur o ran twf blynyddol cyfartalog o 20% dros dair blynedd.
  • Mae cyfnodau o dwf a thwf uchel yn aml yn gylchol ac yn ysbeidiol a gallant ddigwydd mewn busnes o unrhyw oed.
  • Nid oedd data ar gael i ganfod unrhyw berthynas achosol rhwng arloesi, arbrofi a thwf.
  • Mae’r ymchwil hon wedi helpu i adnabod ystod o ffynonellau data gwahanol a’r wybodaeth a ddelir ganddynt.
  • Mae angen data gwell ynghylch busnesau newydd i ddeall eu llwybrau tuag at dwf.

Adroddiadau

Asesu twf a’r potensial ar gyfer twf uchel mewn busnesau bach a chanolig: astudiaeth beilot o argaeledd ac ansawdd data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB

PDF
6 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesu twf a’r potensial ar gyfer twf uchel mewn busnesau bach a chanolig: astudiaeth beilot o argaeledd ac ansawdd data (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 371 KB

PDF
371 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nina Prosser

Rhif ffôn: 0300 025 5866

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.