Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfle cyffrous a diddorol wedi codi i weithio gydag Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (IEPAW).

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ochr yn ochr â'r Asesydd Interim, bydd y Dirprwy Asesydd Interim yn gyfrifol am roi trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim ar waith yng Nghymru. Bydd y Dirprwy yn cefnogi'r Asesydd Interim i fwrw golwg dros y sylwadau a gyflwynir gan y cyhoedd, rhoi blaenoriaeth iddynt yn ôl eu difrifoldeb a faint o frys sydd yn eu cylch, a pharatoi asesiadau am sut y mae'r gyfraith yn cael ei gweithredu pan fo materion amgylcheddol difrifol yn codi.

Daeth sylwadau i law am amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys coedwigaeth, llygredd dŵr, gwrychoedd, gwarchod bywyd gwyllt, safleoedd gwarchodedig, y rhyngweithio rhwng cynllunio a chyfraith amgylcheddol a halogiad biffenyl polyclorinedig (PCB). Gall Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru wedyn wneud argymhellion ar gyfer unrhyw gamau y mae’n ystyried y gallai fod angen eu cymryd gan Weinidogion Cymru.  

Rôl y mesurau interim hyn yw cadw golwg effeithiol ar sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu yng Nghymru tra bo trefniadau statudol newydd yn cael eu rhoi ar waith ar waith ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod deddfwriaeth Cymru yn darparu amddiffyniad cadarn i’r amgylchedd yng Nghymru.  Mae angen y gallu i bwyso a mesur tystiolaeth gymhleth mewn cyfnod byr o amser, gan ddod i gasgliad rhesymegol ynghylch difrifoldeb mater.   Yn ganolog i'r rôl y mae'r angen i arfer doethineb barn, gan roi ystyriaeth briodol i fframwaith deddfwriaethol cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, a hefyd yr egwyddorion sy'n rhan annatod o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Gwybodaeth bellach a sut i wneud cais
 
Tâl cydnabyddiaeth:   £375 (cyfradd ddyddiol), ynghyd â chostau teithio a chostau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.
Lleoliad:         Ar draws y DU / Lleoliad Gweithio Hyblyg
Ymrwymiad Amser:     O leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos
Hyd y penodiad:     3 blynedd a phosibilrwydd o estyniad
Dyddiad cau:                16.00 Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023.