Neidio i'r prif gynnwy
Ashley Rogers

Cyfarwyddwr masnachol Cyngor Busnes Mersi Dyfrdwy gogledd Cymru.

Dechreuodd Ashley ar ei yrfa drwy weithio ym musnes twristiaeth y teulu yng Ngogledd Cymru, gan fynd ati wedyn i astudio Marchnata yn y Brifysgol yn Swydd Efrog, cyn gweld rhywfaint o'r byd, gan gynnwys byw yn Fflorens, Melbourne a Madrid. Ar ôl gweithio ym maes Marchnata/Datblygu Cynnyrch a rheolaeth fasnachol ledled Ewrop ar gyfer cwmnïau rhyngwladol a busnesau bach a chanolig, bu'n rheoli Is-adran Gogledd Ewrop ar gyfer Menter Iwerddon (corff datblygu masnach Gweriniaeth Iwerddon) ar Farchnadoedd Manwerthu, a Defnyddwyr cyn dychwelyd i Ogledd Cymru yn 2010. Ers hynny, mae wedi rhannu ei amser rhwng gwneud gwaith ymgynghori annibynnol gyda Gill & Shaw Ltd a gwaith datblygu economaidd rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru drwy’r Cyngor Busnes, fel Cadeirydd Cyngor Busnes a’r Heddlu Gogledd Cymru ac fel Aelod o Fwrdd Sŵ Mynydd Cymru.