Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Ysgol Gynradd Craigfelen yn datblygu ei dulliau gweithredu fel Ysgol Fro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyd-destun yr ysgol

  • Ysgol Gynradd Craigfelen, awdurdod lleol Abertawe
  • 197 o ddisgyblion ar y gofrestr (2022)
  • 50.6% o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros gyfartaledd o dair blynedd (2022)

Dulliau o gefnogi ymgysylltiad cymunedol

Mae'r ysgol wedi’i lleoli mewn cymuned fechan, heb fawr o ddewis o leoedd i ymgynnull a chymdeithasu. Roedd hyn yn effeithio nid yn unig ar ddysgwyr yr ysgol ond ar y gymuned gyfan, gyda theimlo’n ynysig ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu nodi fel pryderon. Roedd ymgysylltu â'r gymuned yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r pryderon hyn ac i ddeall eu dymuniadau a'u hanghenion.

Roedd yr ysgol a'r gymuned eisiau creu lle diogel a chynhwysol, ar dir yr ysgol:

  • lle byddai'r gymuned yn teimlo bod croeso iddynt fynd yno a chymryd rhan mewn digwyddiadau rheolaidd
  • a fyddai’n gweithredu fel canolbwynt canolog i bawb

Mewn partneriaeth â'r cyngor lleol, llwyddodd yr ysgol i sicrhau defnydd parhaol o adeilad ar ei thir at y diben hwn. Wrth gymryd drosodd y gofod, nid oedd eisiau dweud wrth y gymuned i ba ddiben y byddai’r adeilad yn cael ei ddefnyddio. Yn hytrach, fe wnaeth ofyn i’r gymuned, drwy holiadur, beth fydden nhw’n hoffi ei weld yno.

Gyda’r wybodaeth hon, gallai'r ysgol wedyn gysylltu â phartneriaid eraill a chael cyllid i wireddu'r prosiect gofod cymunedol. Oni bai am leisiau'r gymuned, ni fyddai'r prosiect wedi llwyddo ac efallai y byddai’r gofod wedi cael ei ddefnyddio i bwrpas llai teilwng.

Meddai'r Pennaeth Alison Williams:

Roedd pryderon yn y gymuned y byddai’r adeilad, petai’r ysgol yn ei gymryd drosodd, yn cael ei ddefnyddio fel ystafell ddosbarth arall. Roedd yn rhaid i ni ennill ymddiriedaeth y gymuned i ddangos iddyn nhw fod y lle yma i bawb.

Rhoddwyd ystyriaeth i ddymuniadau'r gymuned a'r dysgwyr ac o ganlyniad, mae'r gofod cymunedol hwn yn cael ei ddefnyddio'n llawn amser ar gyfer gweithgareddau amrywiol fel a ganlyn:

  • fel caffi a siop goffi
  • ar gyfer dosbarthiadau iechyd a lles
  • fel cegin gymunedol ac ar gyfer dosbarthiadau coginio
  • fel siop talu fel y dymunwch
  • ar gyfer clybiau gwyliau
  • ar gyfer grwpiau rhieni a phlant
  • ar gyfer dosbarthiadau celf a chrefft

Effeithiau cadarnhaol y dulliau ar ddysgu plant (datblygiad a lles)

Mae'r gofod a grëwyd wedi cael effaith sylweddol nid yn unig ar y gymuned gyfan, gan roi lle diogel iddynt gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd, ond ar blant yr ysgol, gan ganiatáu iddynt wneud y canlynol:

  • cymryd perchnogaeth o'r gofod a phrosiectau newydd
  • meithrin sgiliau rhifedd, darllen a chyfathrebu
  • dysgu sgiliau ar gyfer y gweithle, fel cyfrif arian, defnyddio tiliau a stocio cyflenwadau bwyd
  • mynegi creadigrwydd drwy greu posteri ac arwyddion
  • dysgu sgiliau marchnata, drwy siarad â'r gymuned a phostio am ddigwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
  • cyfathrebu â phobl o bob oedran a chefndir
  • dysgu pwysigrwydd maeth a choginio prydau iach

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Jamie Taylor:

Mae’r ffaith bod y gymuned yn gallu gweld y plant yn rhedeg rhywbeth wedi dod â rhythm positif i'r gymuned, mae gan bawb ddiddordeb ac mae pawb eisiau cymryd rhan. Mae gweld deugain neu hanner cant o bobl yn y neuadd ar unrhyw adeg benodol, yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod.

Camau nesaf fel Ysgol Fro

Mae'r ysgol yn falch iawn bod y dysgwyr a'r gymuned yn cymryd perchnogaeth o'r prosiect gofod cymunedol. Mae mwy o awgrymiadau a syniadau'n cael eu cynnig ac mae mwy o wirfoddolwyr eisiau cofrestru a chymryd rhan. Mae gobaith y gall aelodau'r gymuned redeg y gofod yn annibynnol yn y dyfodol a'i ddefnyddio'n barhaus am flynyddoedd lawer i ddod. Gyda'r sgiliau y gall y gymuned eu datblygu, mae gobaith y gallant ddenu eu harian eu hunain, arian nad yw ar gael i’r ysgol, i redeg eu mentrau eu hunain.

Dywed Jamie:

Mae'n wych gweld y gymuned yn gweithio gyda'i gilydd ac mae'n creu atgofion parhaol i'r plant. Dyna beth rydyn ni'n ceisio ei greu yma, am genedlaethau lawer i ddod.