Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Ysgol Gynradd Pencoed yn datblygu ei dulliau gweithredu fel Ysgol Fro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyd-destun yr ysgol

  • Ysgol Gynradd Pencoed, awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr 
  • 5765 o ddysgwyr ar y gofrestr 
  • 21.2% o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros gyfartaledd o 3 blynedd (2022)

Rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd

Mae Ysgol Gynradd Pencoed yn ymfalchïo mewn chwarae rhan allweddol o fewn y gymuned, cefnogi rhieni, gofalwyr a phlant yn eu blynyddoedd ffurfiannol a chroesawu rhieni a gofalwyr i'r ysgol i gefnogi dysg y plant. 

Mae rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd (SYT) yn allweddol i berthynas Ysgol Gynradd Pencoed â’i chymuned. 

Fel un a fagwyd yn y gymuned leol, gŵyr Rebecca Patrick am bwysigrwydd meithrin perthynas agos ac ystyrlon gyda'r teuluoedd sy'n bwydo'r ysgol.  

Dywedodd Rebecca:

Er mwyn cael dylanwad pellgyrhaeddol ac yn y dull mwyaf ystyrlon, mae'n ofynnol ein bod yn dechrau gyda'r babanod a'r plant bach. Mae hyn yn ein galluogi i ymgysylltu â'n teuluoedd o'r crud.

Dulliau Ysgol Fro a fabwysiadwyd gan y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a'r ysgol

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf cynhaliwyd 'grŵp plantos a babanod' o dan ofal y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd. Mae hwn yn caniatáu i rieni a gofalwyr fynychu amgylchedd diogel unwaith yr wythnos, gan alluogi eu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu cyn iddynt fynychu'r ysgol yn llawn amser. Mae hefyd yn gyfle i rieni: 

  • siarad a chymdeithasu ag eraill 
  • rannu cyngor a phrofiadau 
  • ennill hyder i ddechrau ymgysylltu ag amgylchedd yr ysgol 
  • ymgyfarwyddo â'r dulliau cymorth sydd ar gael yn yr ysgol cyn i'w plant fynychu yn llawn amser

Er mwyn atgyfnerthu'r fenter, ar ôl y sesiynau grŵp, cynhelir Together Time Library’’, i ddarllen gyda’r plant gan feithrin cariad cynnar at ddarllen.

Yn ychwanegol, mae'r fenter ehangach, 'The Caterpillar Club, yn cynnig ymweliadau cartref gan y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd ac athrawon, gan alluogi rhieni a gofalwyr i drafod unrhyw bryderon a meithrin cydberthynas gyda staff yr ysgol mewn amgylchedd diogel. Cynhelir 3 sesiwn trosglwyddo yn ystod gwyliau'r Haf fel bo plant a'u rhieni yn cael dod i adnabod amgylchedd yr ysgol, y staff a phlant eraill a'u teuluoedd cyn i'r tymor newydd ddechrau. Mae rhieni wedi mynegi pa mor fuddiol fu'r rhain iddynt hwy a’u plant gan wneud trosglwyddo i’r ysgol yn brofiad cadarnhaol.

Fel Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd, mae Rebecca yn gweithredu 'polisi drws agored'. Os oes gan unrhyw riant neu ofalwr unrhyw bryderon neu gwestiynau, mae hi'n sicrhau ei bod hi ar gael yn rhwydd, gan wneud iddynt deimlo'n gyfforddus wrth siarad am faterion a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn lleoliad anffurfiol.

Effeithiau cadarnhaol y dulliau Ysgolion Bro a fabwysiadwyd

Mae’r 'grŵp plantos a babanod' wedi cael adborth da iawn gan rieni. Mae un o fynychwyr cyson y grŵp, wedi bod yn mynychu am 2 flynedd, a hynny ers i'w mab fod yn ddim ond 2 wythnos oed, gyda'i merch hynaf eisoes mewn addysg llawn amser yn yr ysgol. Dywedodd:

Mae fy mab eisoes wedi cael cyfarfod â’i athrawes dosbarth derbyn cyn iddo hyd yn oed ddechrau'r ysgol, sy'n rhywbeth prin iawn. Mae Rebecca a'i ddarpar-athrawes eisoes wedi dechrau cynllunio ymweliad cartref i siarad ag ef ynglŷn â'r adeg y bydd yn ymuno â'r ysgol, sy’n braf iawn.

Wrth fyfyrio ar effeithiau positif y dulliau Ysgolion Bro a gymerwyd gan y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a'r ysgol yn ehangach, dywedodd Rebecca:

Mae 100% o'r rhieni neu'r gofalwyr yn dweud eu bod eisiau mynychu mwy o raglenni ymgysylltu â theuluoedd.

Mae'r ysgol wedi gweld effaith gadarnhaol iawn ar addysg y plant. Mae'r dulliau  wedi gwneud i rieni a gofalwyr deimlo'n rhan o gymuned yr ysgol ac wedi eu cynorthwyo i ddysgu strategaethau ac ennill hyder i gefnogi eu plant, nid yn unig o fewn amgylchedd yr ysgol, ond yn y cartref hefyd.

Datblygu rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a'r dulliau a gymerwyd fel rhan o fenter Ysgolion Bro

Mae'r ysgol yn cydnabod pwysigrwydd parhau i ddatblygu ac ymestyn ei dulliau Ysgolion Bro. Bydd hyn yn cael ei ywio gan anghenion a dymuniadau’r gymuned. Y bwriad yw cynnal  cyfarfodydd a llunio holiaduron  ar gyfer rhieni a gofalwyr, gan archwilio’r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt ac awgrymiadau ynglŷn â'r hyn yr hoffent eu gweld yn cael ei wneud yn y dyfodol. 

Fel Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd, bydd Rebecca yn cymryd y mewnwelediadau hyn ac yn eu rhannu â'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gan sicrhau bod y rhaglen yn tyfu am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Rebecca:

Mae gweld brwdfrydedd yr athrawon, y rhieni a'r gofalwyr ac ymgysylltiad y plant, yn rhywbeth arbennig iawn. Mae gwneud cysylltiadau cynnar gyda rhieni a gofalwyr yn hanfodol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol, gan sicrhau bod amgylchedd yr ysgol yn groesawgar a chynhwysol i bawb.