Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn datblygu ei dulliau gweithredu fel Ysgol Fro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyd-destun yr ysgol

  • Ysgol Gynradd Tregatwg, awdurdod lleol Bro Morgannwg
  • 499 o ddysgwyr ar y gofrestr (2022)
  •  37% o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros gyfartaledd o dair blynedd (2022)

Dulliau Ysgol Fro a fabwysiadwyd

Mae'r ysgol wedi creu cymuned gynhwysol, ddiogel a galluogol lle mae cydberthnasau yn ffynnu. Mae’n ymdrechu i sicrhau y gall pob plentyn a phob teulu yn ei chymuned dyfu ac anelu at gyflawni eu breuddwydion a'r pethau y maent yn angerddol yn eu cylch.

Mae'r ysgol wedi mabwysiadu dull cydweithio ysgol-i-ysgol drwy Gymuned Ddysgu Pencoedtre. Mae hyn wedi rhoi grym a dyfnder gwirioneddol iddi o ran cyfuno meddwl ac adnoddau. Mae gweithio mewn clwstwr o 5 ysgol wedi creu darpariaethau ychwanegol, cyfleoedd dysgu a chlybiau i blant. Mae hyn i gyd wedi’i wireddu trwy gyfnewid adnoddau, staff ac opsiynau gweithio hyblyg. Mae'r dull hwn hefyd wedi galluogi'r ysgolion i ymestyn y diwrnod ysgol.

Dywedodd Hannah Cogbill, Rheolwr Ysgolion Bro:

Rydym ni wedi newid y diwylliant. Drwy ymestyn y diwrnod ysgol, mae'r ysgol yn teimlo fel estyniad o'r cartref i fyfyrwyr, ac  maen nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus ac yn ymgysylltu’n well.

Mae staff yr ysgol wedi datblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â chydberthnasau ac ymyriadau sy’n golygu nad yw cyfranogiad teuluol a chymunedol yn cael ei ystyried fel rhywbeth ychwanegol i’w gwaith, ond fel rhan allweddol o bopeth a wnânt. Mae'r ysgol yn ganolbwynt i blant a'u rhieni, lle gallant dderbyn cymorth corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn enwedig ar adegau o angen.

Mae'r clwstwr wedi gweithio gydag asiantaethau allanol, er enghraifft mae prosiect wedi'i dreialu gyda Theuluoedd yn Gyntaf, lle mae cynghorydd wedi cael ei secondio i bob ysgol unwaith bob pythefnos. Mae hyn yn rhoi cymorth ychwanegol i rieni, gan gynnwys cyngor ynghylch arian, addysg a thai. Mae'r ysgol yn gweld hyn fel estyniad hanfodol o wasanaethau i rieni nad ydynt bob amser efallai yn gallu cael gafael ar y cymorth a'r wybodaeth hon.

Fel rhan o'u ffocws cymunedol mae'r ysgol wedi datblygu'r rhaglen 'Big Bocs Bwyd'. Mae hyn yn cynnwys siop 'Talu fel rydych yn teimlo' sy'n cynnig ffrwythau, llysiau a hanfodion ffres. Mae'r ysgol hefyd wedi cyflwyno 'Caffi Cadog (Cadog’s Café)', sy’n cynnig cyfle i'r gymuned gymdeithasu, gwneud ffrindiau a byw'n well trwy wneud dewisiadau iach yn fforddiadwy. Mae'r caffi wrth galon cymuned Tregatwg.

Effeithiau cadarnhaol y dulliau a fabwysiadwyd

Gyda'r dulliau a fabwysiadwyd, mae'r ysgol wedi gweld effeithiau mawr ar yr ysgol a'r gymuned ehangach, gan gynnwys:

  • cyfraddau presenoldeb gwell
  • plant yn ymgysylltu’n well â dysgu
  • plant sydd eisiau treulio mwy o amser ar safle'r ysgol
  • rhieni’n ymgysylltu’n well a gwell cyfathrebiad rhwng rhieni a staff yr ysgol
  • profiad mwy croesawgar a chefnogol i rieni, gyda hynny’n eu hannog i dreulio mwy o amser ar safle'r ysgol a rhoi'r hyder iddynt fynegi unrhyw anghenion neu bryderon sydd ganddynt yn haws.

Dywedodd y Pennaeth, Janet Hayward:

Mae llawer o'r gwaith hwn yn ymwneud â chael gwared ar rwystrau i deuluoedd a datblygu ymddiriedaeth trwy bopeth a wnawn. Rydym yn cael llwyddiant gyda hynny. Mae llwyddiant wedyn yn magu llwyddiant, sy'n ein galluogi wedyn i fynd gam ymhellach i chwalu rhwystrau i'n teuluoedd.

Camau nesaf fel Ysgol Fro

Fel rhan o'r clwstwr, mae'r ysgol wedi gweld llwyddiannau mawr o ganlyniadau i'r mentrau hyd yn hyn. Y cam nesaf yw cymryd y dystiolaeth hon fel grŵp er mwyn cael gafael ar gyllid i greu mwy o gyfleoedd i'r ysgolion a'r gymuned. Mae'r weledigaeth a'r effaith gyfunol hon yn bwerus iawn i arianwyr. Mae'r ysgol am greu etifeddiaeth a ffordd o gyfathrebu a gweithio, dyna'r sylfaen ar gyfer cenedlaethau i ddod i wasanaethu'r gymuned a'r ysgolion ar gyfer dyfodol uchelgeisiol.