Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Ysgol Uwchradd Prestatyn yn datblygu ei dulliau gweithredu fel Ysgol Fro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyd-destun yr ysgol

  • Ysgol Uwchradd Prestatyn, awdurdod lleol Sir Ddinbych
  • 1446 o ddysgwyr ar y gofrestr (2022)
  • 23.5% o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros gyfartaledd o 3 blynedd (2022)

Dulliau Ysgol Fro a fabwysiadwyd

Mae Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cydnabod pwysigrwydd mabwysiadu dulliau Ysgolion Bro.

Roedd yr ysgol yn ymwybodol o ffactorau allanol a oedd yn cael effeithiau negyddol ar ddysg ei disgyblion, gan gynnwys effeithiau hirdymor Covid a'r argyfwng costau byw. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i'r ysgol ddyfeisio ffyrdd newydd o gynnal lefelau presenoldeb a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fe wnaeth hyn ei harwain i feithrin perthnasau a phartneriaethau gydag asiantaethau eraill yn y gymuned. Fe wnaeth yr ysgol sylweddoli fod yn rhaid i'r gymuned leol ddod at ei gilydd er mwyn meithrin amgylchedd lle mae pobl ifanc yn teimlo'n hyderus ac yn gallu ffynnu.

Er mwyn eu helpu i gyflawni'r uchelgais hon, fe wnaeth yr ysgol benodi Rheolwr Ysgolion Bro.

Wrth fyfyrio ar ei rôl, dywedodd Jo Wynne-Eyton, Rheolwr Ysgolion Bro:

Ar y cyd â'n partneriaid, ein nod yw cysylltu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud â themâu sy'n bwysig yn y gymuned; edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc a gostyngiad yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned, edrych ar waith aml-genhedlaeth, edrych ar ddatblygu sgiliau oedolion, edrych ar y gymuned a'i chefnogi, yr argyfwng costau byw. Mae’r rhain i gyd mor bwysig ac yn cael effaith sylweddol ar addysg plant a'u hagweddau tuag at yr ysgol.

Mae datblygiad pobl ifanc a'r effaith y gallant ei chael ar y gymuned bob amser ar frig agenda'r ysgol. O'r herwydd, mae'r ysgol wedi cyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau ehangach mewn cydweithrediad â'r gymuned, gan gynnwys:

  • man gofalu am anifeiliaid lle mae anifeiliaid bach a rhai anifeiliaid fferm yn cael eu cadw ac mae’r myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros ofalu amdanynt
  • gerddi, lle gall myfyrwyr dyfu cnydau o hadau i ffrwythau gan ganiatáu iddynt ddysgu am ddeietau maethlon a sut i gynhyrchu bwyd yn fforddiadwy

Dulliau penodol o gefnogi ymgysylltu â phartneriaethau amlasiantaeth

Mae'r ysgol yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol. O fewn yr ysgol mae lle diogel i bob dysgwrl wedi’i greu, sef yr 'Wellbeing Hub' (Hyb Lles).

Mae hwn yn fan lle gall myfyrwyr ddod os ydynt yn wynebu anawsterau, lle maent yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â staff ac yn gallu cymryd amser allan os oes angen, tra'n aros ar dir yr ysgol.

Yn ogystal, mae Jo yn gweithio gydag asiantaethau allanol i sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnal pan fydd plant oddi ar y safle.

Mae hi'n gweithio gyda:

  • elusennau
  • yr heddlu
  • perchnogion busnesau lleol
  • sefydliadau'r trydydd sector
  • y cyngor lleol

Mae'r ysgol hefyd yn gwneud ymdrechion mawr i gynnwys y myfyrwyr mewn mentrau newydd gan eu bod yn  credu bod cael y myfyrwyr eu hunain i ymgysylltu yn hanfodol i lwyddiant. Cyn gwyliau'r haf, cynhaliwyd ymgynghoriad ar draws yr ysgol lle canfuwyd bod plant eisiau mwy i wneud yn ystod eu hamser i ffwrdd o'r ysgol ac roeddent yn arbennig o bryderus am fforddiadwyedd rhai gweithgareddau.

Gan dynnu partneriaid lleol at ei gilydd mewn trafodaeth i fynd i'r afael â'r her hon, llwyddodd yr ysgol a'i phartneriaid i ddatblygu rhaglen gyfoethog sy'n diwallu anghenion y  bobl ifanc.

Mae'r ysgol hefyd yn gweithio gyda'i phartneriaid yn y trydydd sector i greu rhesymeg ariannu, gan alluogi'r partneriaid hynny i gael gafael ar gyllid nad yw ar gael i'r ysgol, ond a fyddai o fudd i bobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol trwy wasanaethau y gall y partneriaid trydydd sector hynny eu cynnig.

Gyda'r ddeialog agored hon rhwng yr ysgol ac asiantaethau eraill, mae'n haws cael cyllid fel partneriaeth, a gellir trefnu mentrau yn gyflymach.

Effeithiau cadarnhaol y dulliau Ysgolion Bro a fabwysiadwyd

Trwy gyflwyno'r hyb lles fel man diogel i ddysgwyr a mwy o gysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl, mae effaith amlwg wedi bod ar y plant. Mae hyn i’w weld drwy:

  • welliannau mewn presenoldeb
  • gostyngiadau mewn absenoldeb cyson
  • cyfraddau gwahardd is

Ar ben hynny, mae'r ysgol wedi dod â gwasanaethau, busnesau a sefydliadau trydydd sector lleol at ei gilydd. Mae hyn wedi tanlinellu’r ffaith y gall cydweithio gael manteision ehangach i'r gymuned, hyd yn oed os nad yw'r ysgol yn rhan uniongyrchol o hynny. Mae'r manteision ehangach hyn yn effeithio ar bobl ifanc yn y gymuned hefyd.

Mae'r Dirprwy Bennaeth, Claire Turner yn hapus iawn gyda'r cynnydd y maent yn ei wneud:

Mae'r cyfan yn ymwneud â sicrhau eu bod yn yr adeilad, yn dysgu, yn datblygu sgiliau fel y gallant fynd ymlaen i fod yn llwyddiannus ym mha bynnag beth maen nhw'n dewis ei wneud, gyda chymuned sy'n falch ohonyn nhw.

Camau nesaf fel Ysgol Fro

Bydd yr ysgol yn parhau i ddatblygu partneriaethau gydag asiantaethau lleol i sicrhau bod darpariaeth ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mewn ymgynghoriad â rhieni, mae'r ysgol wedi nodi'r angen am grŵp cymorth i rieni. Bydd hyn yn rhoi cyfle i rieni ddysgu sgiliau newydd ac elwa o'r adnoddau a gynigir gan sefydliadau cymunedol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r ysgol.

Dywed y pennaeth, Neil Foley:

Rydym yn edrych ymlaen at gymuned wirioneddol gynhwysol a chydlynol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau newid oherwydd dyna'r cyfan yr ydym yma ar ei gyfer, i wella cyfleoedd bywyd a bywydau pob person ifanc.