Neidio i'r prif gynnwy

Fel ysgolion eraill ledled Cymru, mae ysgolion yn Abertawe yn hanesyddol wedi talu eu biliau ynni drwy siec.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ysgolion Abertawe yn rhan o bortffolio cyfleustodau Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru sy'n prynu ynni drwy Fframwaith Ynni Gwasanaethau Masnachol y Goron. Pan adnewyddwyd y contract ynni, roedd angen trosglwyddo cyflenwadau nwy i gyflenwr newydd. Cyn gallu trosglwyddo'r contract, roedd yn rhaid i Gyngor Abertawe nodi a setlo unrhyw wallau a dyledion oedd yn weddill ar y cyfrifon. Roedd y dasg hon yn ddwys o ran adnoddau ac fe wnaeth achosi oedi sylweddol.

Nododd Cyngor Abertawe fod taliadau sieciau yn aneffeithlon ac yn agored i wallau bilio. Yn ogystal, roedd oedi mewn taliadau yn golygu bod dyled sylweddol yn cronni ar gyfrifon ysgolion unigol gan ohirio'r trosglwyddiad i'r contract newydd a buddion dilynol o gyfraddau ynni mwy cystadleuol.

Unwaith yr oedd y cyfrifon i gyd wedi'u clirio a'u trosglwyddo i'r cyflenwr nwy newydd, ac er mwyn osgoi problemau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol, sefydlwyd debydau uniongyrchol er mwyn i ysgolion dalu eu biliau. Mae'r debydau uniongyrchol wedi cael gwared ar aneffeithlonrwydd o'r broses dalu ac wedi rhoi gwell telerau talu i ysgolion gan arbed arian i’r pwrs cyhoeddus.

Dywedodd Kelly Small, Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg, Cyngor Abertawe,

“Ers i ni symud pob ysgol yn Abertawe i ddebyd uniongyrchol yn hytrach na siec, rydyn ni wedi arbed amser ac arian. Mae'r dull safonol hwn wedi rhoi gwell rheolaeth i ysgolion dros eu cyllid eu hunain; wedi helpu gydag adrodd ac atebolrwydd ac yn golygu bod cyfrifon bob amser yn gyfredol.”

Dywedodd Paul Griffiths, Pennaeth Cyflawni Masnachol, Llywodraeth Cymru,

“Rwy'n falch iawn bod cefnogi Cyngor Abertawe i symud tuag at daliadau debyd uniongyrchol i ysgolion wedi symleiddio'r broses dalu, bod adnoddau wedi'u hoptimeiddio ac arbedion wedi eu gwneud.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: CommercialProcurement.Utilities@gov.wales