Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgwyl i dros 60 o leoedd wedi’u hariannu a ddyrannwyd ar gyfer Rhaglen y Dyfarniad Corfforaethol ddechrau yn Hydref/Gaeaf 2022 i 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

CIPS yw’r corff proffesiynol ar gyfer y proffesiwn caffael a chyflenwi. Yn dibynnu ar lefel eu profiad, gall gweithwyr caffael proffesiynol o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru wneud cais naill ai am hyfforddiant Lefel Ymarferydd, neu Lefel Ymarferydd Uwch.

Bydd ymestyn y rhaglen yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru wedi ariannu bron i 200 o leoedd i fyfyrwyr caffael diolch i fuddsoddiad o £600,000. Bydd hyn yn gwella sgiliau'r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth ac yn annog newydd-ddyfodiaid i'r proffesiwn.

Mae'r holl fyfyrwyr yn ymrwymo i aros yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu cwrs. Pan fyddant wedi cymhwyso'n llawn, bydd yr ymarferwyr caffael yn helpu i fynd i'r afael â chynaliadwyedd hirdymor caffael, ac yn cryfhau'r proffesiwn yng Nghymru.

Dywedodd Rebecca Morris, Swyddog Caffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd wedi bod yn astudio Lefel Uwch Ymarferydd:

"Mae'r cwrs hwn wedi fy ngalluogi i barhau â'm taith i gael fy achredu gan MCIPS. Rwyf wedi dilyn llwybr arholiad o'r blaen, ond mae'r gefnogaeth a'r adnoddau a ddarperir gan y rhaglen hon, yn enwedig y darlithoedd rheolaidd a'r eDdysgu wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynorthwyo fy astudiaethau. Cyflwynwyd y modelau mewn modd rhesymegol a chyson a rhoddwyd sylw i’r myfyrwyr i gwestiynu, trafod a dadlau drwy gydol yr hyfforddiant.

“Mae’r wybodaeth a gefais wedi fy helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o gaffael a pholisi Cymru. Mae cynnwys y cwrs yn gysylltiedig â'm maes gwaith fy hun ac mae wedi fy ngalluogi i ddefnyddio enghreifftiau o brosiectau a chontractau yr wyf wedi ymgymryd â nhw yn fy swydd a'u defnyddio yn aseiniadau'r cwrs.  Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r offer a'r technegau rwyf wedi'u dysgu drwy gydol y cwrs yn fy rôl."

Dywedodd Shannon Mason, Rheolwr Busnes Caffael, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sydd wedi bod yn astudio'r Lefel Ymarferydd Uwch:

"Mae'r cwrs hwn wedi rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i mi sydd wedi cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol o fewn fy rôl bresennol. Nid yn unig y mae’r cwrs wedi darparu adnoddau a chyd-destun rhagorol o gaffael cyhoeddus yng Nghymru; mae wedi galluogi cysylltiadau proffesiynol i ddatblygu ar draws cyrff ehangach yn y sector cyhoeddus, sy'n rhoi cyfle i rannu profiadau a dulliau dysgu i wella arferion caffael y sector cyhoeddus."

Dywedodd Tristian Jones, Swyddog GwerthwchiGymru, Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn astudio Lefel Ymarferydd y Dyfarniad Corfforaethol:

"Fel rheolwr contract gyda Llywodraeth Cymru, mae'r cwrs hwn wedi rhoi cipolwg ardderchog i mi nid yn unig i achrediad MCIPS, ond hefyd sut mae cynnwys wedi'i deilwra'r cwrs, a'r wybodaeth a gafwyd yn helpu i wella fy nealltwriaeth o dirwedd ehangach caffael a pholisi Cymru. 

“Gan fod y cwrs wedi’i deilwra i Gymru, mae’r cynnwys yn uniongyrchol berthnasol i’m maes gwaith fy hun ac yn rhoi’r cyfle i mi allu defnyddio enghreifftiau go iawn ar gyfer aseiniadau’r cwrs.

“Mae’r gefnogaeth a’r adnoddau a ddarperir gan y rhaglen, yn enwedig y darlithoedd, a’r e-ddysgu wedi bod yn amhrisiadwy. Rwy’n edrych ymlaen at symud ymlaen ymhellach ar ôl i mi gwblhau’r cwrs Ymarferwr a gallu gweithredu fy nysgu yn uniongyrchol yn fy rôl.”

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen y Dyfarniad Corfforaethol, gweler y tudalennau gwe Ymarferydd ac Uwch-ymarferydd y Dyfarniad Corfforaethol.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am gyrsiau a gynigir gan CIPS ar gael yma.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen gallu a chapasiti Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost at: GalluMasnachol@llyw.cymru