Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr o Gymru i ddod o hyd i ddodrefn mewn modd cynaliadwy a chefnogi amcanion economi gylchol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, dyfarnwyd y contract yn ôl y gofyn i gyflenwi atebion o ran dodrefn o gytundeb fframwaith cydweithredol cenedlaethol Llywodraeth Cymru, i Ministry of Furniture, sydd wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd y contract hwn yn caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili elwa o weithio gyda gweithgynhyrchwyr o Gymru sydd â nodau cymdeithasol tebyg, arbenigedd mewn ail-weithgynhyrchu, a'r economi gylchol.

Datblygodd y busnes o Remploy Furniture ac mae'n arbenigo mewn dylunio, gweithgynhyrchu a dodrefnu lleoedd i bobl weithio, dysgu a chwarae.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gweithio'n agos gyda'r Ministry of Furniture a Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MTIB) i ddatblygu eu caffi ystwyth yn Nhŷ Penallta yn Ystrad Mynach i gefnogi ffyrdd newydd o weithio. Fel rhan o'r prosiect, cafodd y dodrefn a'r loceri presennol eu hailweithgynhyrchu ar gyfer y gofod ystwyth newydd.

Bydd Ministry of Furniture ac MTIB hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus drwy blannu coed ar draws y fwrdeistref, er cof am y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod pandemig COVID-19.

Dywedodd Graham Hirst, Rheolwr Gyfarwyddwr Ministry of Furniture a Phrif Swyddog Gweithredol Ministry Group:

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ochr yn ochr ag MTIB i gefnogi eu hagenda economi gylchol. Rydym yn frwd dros ailweithgynhyrchu ac rydym ni wrth ein boddau’n gweithio gyda sefydliadau sydd â gweledigaethau tebyg. Mae ailweithgynhyrchu dodrefn etifeddol a’r cynllun plannu coed ill dau yn dangos ymrwymiad Caerffili i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a manteision cymunedol."

Nododd Paul Griffiths, Pennaeth Cyflenwi Masnachol a Gallu gyda Llywodraeth Cymru:

"Cododd y bartneriaeth rhwng Ministry of Furniture ac MTIB o'n bwriad i ddarparu fframwaith dodrefn a oedd yn hyrwyddo cylcholdeb drwy ymgorffori mentrau cymdeithasol Cymru drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan. Mae pob un o gyflenwyr y fframwaith wedi ymrwymo i gefnogi'r dulliau hyn gan sicrhau bod gennym fodel sydd wir yn coleddu cylcholdeb ac economi Cymru."

I gael gwybod sut y gallwch brynu eich anghenion dodrefn mewn ffordd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, cysylltwch â thîm categori Adeiladu a Chyfleustodau Llywodraeth Cymru ar CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau’r fframwaith yn y gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi)