Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr yn gwella ac yn datblygu gyda chefnogaeth rhaglen lleoliadau caffael Llywodraeth Cymru drwy gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae tri ar ddeg o fyfyrwyr o Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru wedi elwa ar ryng-leoliadau fel rhan o'u Graddau BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi. Rhoddodd hyn gyfle iddyn nhw roi theori caffael ar waith a chyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Lansiwyd rhaglen beilot lleoliadau ar gyfer myfyrwyr Cymru gyfan gennym yn 2020 i gynyddu capasiti a denu talent newydd i’r proffesiwn caffael. Sicrhaodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr leoedd mewn timau caffael a masnachol ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2021.

Rhoddodd y rhaglen gapasiti ychwanegol ar brosiectau ar draws meysydd masnachol allweddol, wrth roi’r sgiliau i fyfyrwyr gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru.

Wrth groesawu'r fenter, dywedodd Ian Evans, Rheolwr Caffael a Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

 "Mae'n rhaglen ardderchog a llwyddiannus iawn, sydd wedi caniatáu i Gyngor Caerffili feithrin a datblygu gweithwyr caffael proffesiynol y dyfodol ers sawl blwyddyn, gan chwarae rhan sylfaenol wrth helpu i feithrin gallu a chapasiti ym maes caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o amrywiaeth eang o arferion, prosesau a gweithdrefnau busnes, wrth ganiatáu iddyn nhw ddatblygu yn y ddisgyblaeth gaffael ac, yn anad dim, dod ag agwedd ffres a chadarnhaol at y proffesiwn. Heb os, mae'n adnodd cadarnhaol, defnyddiol a gwerth chweil i Gyngor Caerffili. Mae wedi bod yn bleser pur bod yn rhan o'r rhaglen a hir y parhao".

Fe wnaeth rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2022 ein galluogi i gynyddu'r trefniadau lleoli gan ganiatáu cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr gael eu cefnogi ynghyd â buddsoddiad yn yr Economi Sylfaenol yn hybu gweithgarwch masnachol hollbwysig parhaus.

Gan adeiladu ar lwyddiant Rhaglen De Cymru, fe wnaethom ddechrau rhaglen brawf yn y Gogledd oedd ar gyfer y flwyddyn ariannol 23/24 gyda dau leoliad llwyddiannus o gefndir nad oedd yn ymwneud â chaffael. Mae hyn yn dangos gallu lleoliadau myfyrwyr i godi proffil caffael a denu talent newydd i'r proffesiwn.

O blith y 5 myfyriwr a fu ar leoliad yn y flwyddyn brawf gyntaf, sicrhaodd pedwar ohonynt swyddi caffael cyhoeddus parhaol.

Dywedodd Scott Parfitt, Arweinydd Cwrs Prifysgol De Cymru,

"Mae cynllun lleoliad myfyrwyr Llywodraeth Cymru yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i fyfyrwyr a chaffael rheng flaen. Mae hwn yn un o’r ychydig fentrau sy'n ychwanegu capasiti mawr ei angen i gaffael cyhoeddus rheng flaen. Mae'r myfyrwyr yn elwa'n fawr o'r cynllun drwy ennill profiad yn y diwydiant yn gweithio mewn rolau caffael sefydlog. Mae’r hanes cyflogaeth wedi bod yn ardderchog gyda myfyrwyr o’r cynllun yn cael eu cadw ym maes Caffael Cyhoeddus Cymru”.

A hwythau’n cael eu hystyried yn rhan allweddol o’r timau masnachol, mae’r myfyrwyr yn cael eu trwytho yng ngwaith o ddydd i ddydd y swyddogaeth gaffael gan ennill profiad gwerthfawr wrth iddynt ddatblygu.

Ychwanegodd Connor Thomas, CBS Caerffili,

"Mae gweithio i Gyngor Caerffili wedi rhoi cyfle i mi weithio ar amrywiaeth eang o brosesau caffael sydd wedi gwella fy nealltwriaeth ymarferol o brosesau caffael allweddol yn fawr".

Trwy dwf parhaus y rhaglen, mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio parhau i gynnig cymorth gan gydweithio ag addysg uwch a thimau caffael cyhoeddus a chefnogi'r gwaith o greu capasiti y mae mawr ei angen.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â GalluMasnachol@llyw.cymru.

.