Neidio i'r prif gynnwy

Fe ddechreuodd Sophie Stacey ei thaith gaffael yn gweithio fel prynwr i fusnes teuluol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Astudiodd Sophie Stacey o Bontypridd ffasiwn yn y brifysgol ac mae bellach yn Uwch Reolwr Busnes Caffael ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn dilyn gyrfa fel prynwr i siop adrannol yng Nghymru.

Meddai Sophie:

“Dechreuais fy siwrnai gaffael yn gweithio fel prynwr i fusnes teuluol. Roedd hwn yn gwmni preifat lle’r oeddwn yn caffael ar gyfer adrannau fel cegin a llestri. Symudais i’r GIG yn 2017 fel prynwr band 3 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.”

Ers ymuno, mae gyrfa caffael Sophie wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi gweithio ei ffordd i fyny’n Uwch Reolwr Busnes Caffael band 7. Ym mis Medi 2022, diolch i fuddsoddiad o £5,754 gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS), cwblhaodd Sophie ei chyflwyniad panel prosiect Ymarferydd Uwch CIPS terfynol i gwblhau’r rhaglen. CIPS yw’r corff proffesiynol ar gyfer caffael, gyda hanes byd-eang o ragoriaeth caffael.

Mae Sophie yn un o’r 11 myfyriwr ar raglen Ymarferydd Uwch cyntaf Llywodraeth Cymru i gwblhau’r cyrsiau sydd wedi’u gosod mewn cyd-destun Cymreig, gan ddysgu am bolisïau Cymreig, a defnyddio enghreifftiau o Gymru, hyd yma. Mae’r cynllun yn rhan o raglen gallu a chapasiti caffael Llywodraeth Cymru, sy’n cydnabod yr angen i gynyddu cynaliadwyedd a thwf hirdymor y proffesiwn caffael yng Nghymru.

Mae myfyrwyr CIPS yn cynnwys gweithwyr proffesiynol caffael presennol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n ymrwymo i aros yn y proffesiwn am dair blynedd ar ôl eu cwrs a thrwy hynny helpu i gryfhau’r proffesiwn yn y tymor hwy.

Ychwanegodd Sophie, sydd bellach yn ystyried astudio ar gyfer MSc. Caffael a’r Gadwyn Gyflenwi:

“Mae’r Rhaglen Uwch a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi’r cyfle i mi ddod yn MCIPS mewn dim ond 18 mis a chyda phum aseiniad.

“Yr hyn wnaeth fy nenu fwyaf at y llwybr hwn o ddysgu oedd y ffaith ei fod yn seiliedig ar aseiniadau yn hytrach nag arholiadau. Roedd y cwrs yn symud ar gyflymder da er mwyn cadw'r momentwm rhwng aseiniadau a chynigiwyd lefel dda o gefnogaeth drwy gydol y cwrs.

“Galluogodd y rhaglen i mi ddadansoddi’r gwaith roeddwn wedi’i gwblhau yn ystod fy ngyrfa i weld cymaint yr oeddwn wedi datblygu. Mae hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi yn fy ngwaith o ddydd i ddydd.”

Mae dwy garfan arall o fyfyrwyr hefyd yn dilyn y rhaglen Uwch Ymarferydd ar ail rownd o fuddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru a byddant yn graddio'r flwyddyn nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen y Dyfarniad Corfforaethol, gweler y tudalennau gwe Ymarferydd ac Uwch-ymarferydd y Dyfarniad Corfforaethol.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am gyrsiau a gynigir gan CIPS.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen gallu a chapasiti Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost at: GalluMasnachol@llyw.cymru