Neidio i'r prif gynnwy

Mae hon yn fenter gymunedol sy'n dwyn ynghyd leisiau lleol, arbenigwyr a busnesau i adfer, amddiffyn a rheoli amgylcheddau dŵr croyw a morol Afon Menai mewn ffordd gynaliadwy.

Manylion allweddol

  • Lleoliad: Afon Menai, Ynys Môn (Ynys Môn)
  • Math o Brosiect Rheoli, adfer a chynyddu capasiti arfordirol dan arweiniad y gymuned
  • Partneriaid: Menai Strait Fishery Order Management Association  (MSFOMA), Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, tîm Capasiti Arfordirol y Bartneriaeth Natur Leol (LNP), awdurdodau lleol, busnesau a grwpiau cymunedol

Amcanion

  • Datblygu platfform tryloyw a chydweithredol er mwyn gweithredu dros yr amgylchedd.
  • Creu "Cynllun y Bobl" wedi'i lywio gan anghenion ac arbenigedd y gymuned leol
  • Adfer ansawdd dŵr, cynefinoedd a physgodfeydd
  • Ymgysylltu â'r gymuned a'u grymuso i wneud penderfyniadau

Allbynnau ac effaith

  • Ymgysylltu â'r Gymuned:
  • Ymgysylltwyd â 3,046 o aelodau'r gymuned
  • Ymgysylltwyd â 100% o ddiwydiant pysgodfeydd Menai
  • 27 o bartneriaethau busnes
  • 16 gweithdy, 1 fforwm, 1 cynllun rheoli arfordirol

Gweithgareddau

  • Prosiectau adfer ac ymchwil
  • Gwelliannau i reoli pysgodfeydd
  • Ymchwil wyddonol, gwyddoniaeth gan ddinasyddion, a monitro parhaus.
  • Gweithdai, ymgynghoriadau a digwyddiadau cymunedol
  • Cymorth ac ymgyrchoedd busnes cynaliadwy
  • Adnoddau amrywiaeth a chynhwysiant
  • Arolygon dan dwr ar fywyd gwyllt a chynefinoedd, arolygon traethlin ac arfordirol
  • Allgymorth addysgol i ysgolion, grwpiau ieuenctid, a chartrefi gofal
  • 24 o ddigwyddiadau i lanhau Afon Menai, 68 o brofion ansawdd dŵr, 32 o arolygon bywyd gwyllt, 14 aelod o'r panel cynghori, 2 gynllun busnes, 72 o ymgyrchoedd wedi'u lansio

Cynllun ar y cyd: pum prosiect allweddol

  1. Adfer Cynefinoedd ac Ansawdd Dŵr: Adfer iechyd Afon Menai trwy wella ansawdd dŵr a chynefinoedd hanfodol.
  2. Lleihau a Lliniaru Llygredd: Mynd i'r afael â llygredd o garthffosiaeth, amaethyddiaeth a phlastigau gyda chamau lliniaru effeithiol.
  3. Hamdden a thwristiaeth gynaliadwy: Taro cydbwysedd rhwng hamdden/twristiaeth ffyniannus a chynaliadwyedd amgylcheddol ac anghenion y gymuned.
  4. Addysg ac Eiriolaeth: Codi ymwybyddiaeth, ymgysylltu â chymunedau, a hyrwyddo arferion cynaliadwy.
  5. Datblygu a Llywodraethu'r Fforwm: Cryfhau llywodraethu er mwyn i'r gymuned gymryd rhan a chydweithio. 

Manteision

  • Cymdeithasol: Cynllunio a gweithredu cynhwysol, wedi'i lywio gan y gymuned
  • Amgylcheddol: Gwell ansawdd dŵr, cynefinoedd wedi'u hadfer, pysgodfeydd cynaliadwy
  • Economaidd: Cymorth i fusnesau lleol, twristiaeth gynaliadwy, a dyframaethu
  • Partneriaeth: Cydweithio cryf rhwng arbenigwyr, busnesau a thrigolion

Dyfyniadau

"O geginau cawl i glybiau hwylio, mae pob llais yn cyfrif wrth adeiladu cymuned gryfach."

"Mae'r cynllun hwn yn cynrychioli ymdrech gydweithredol i amddiffyn a gwella Afon Menai, gan sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau lleol a'r amgylchedd."

Cyfryngau a gwybodaeth bellach

  • Llais Afon Menai – Cyfweliadau cymunedol a ffilm lansio.
  • Ffilm Lansio Fforwm Partneriaeth Afon Menai ar YouTube.
Gwirfoddolwyr yn casglu sbwriel yn ystod digwyddiad glanhau glannau Afon Menai.