Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur dan arweiniad gorsaf radio cymunedol BGfm, sy'n trawsnewid ardal nad yw'n cael ei ddefnyddio yn ardd hygyrch i dyfu bwyd er mwyn cefnogi iechyd, lles ac ysbryd cymunedol yn Nant-y-glo.

Manylion allweddol

  • Lleoliad: Nant-y-glo, Blaenau Gwent
  • Math o Brosiect Gardd Tyfu Bwyd
  • Grŵp: Gorsaf radio gymunedol BGfm

Mynegai amddifadedd

  • Corfforol 50% lleiaf difreintiedig
  • Yn gyffredinol: 10-20% mwyaf difreintiedig

Y gymuned yn cymryd rhan

  • 10 gwirfoddolwr, 636 awr o wirfoddoli
  • 35 o bobl yn elwa o'r ardd
  • Growing Space (elusen iechyd meddwl), ffermwr lleol, a gwirfoddolwyr amrywiol yn cymryd rhan

Allbynnau

  • Gardd hygyrch gyda gwelyau plannu uwch, tŷ gwydr, pwll bywyd gwyllt, a blychau cynefinoedd
  • Llwybr troed newydd a ramp i bobl anabl
  • Cynnyrch ffres ar gyfer gwirfoddolwyr a banciau bwyd lleol
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol a garddio

Manteision

  • Cymdeithasol: Integreiddio, cyfeillgarwch newydd, ac ymgysylltu â'r gymuned
  • Iechyd: Gwell iechyd meddwl a chorfforol, mynediad at fwyd ffres
  • Economaidd: Tyfu bwyd cost-effeithiol i'r rhai sy'n wynebu diffyg diogelwch bwyd
  • Manteision annisgwyl: Cynefin bywyd gwyllt, cyrchfan leol i deuluoedd, gwirfoddoli rhwng cenedlaethau

Dyfyniadau

"Mae'r ardd wedi troi lle nad yw'n cael ei ddefnyddio yn lle i bobl ddod i gymysgu gydag aelodau eraill o'r gymuned i weithio gyda'i gilydd a mwynhau'r amgylchedd newydd, gan arwain at wneud ffrindiau newydd a chynhyrchu llysiau ac ati i roi yn ôl i'r gymuned."

Stephen Bower, BGfm

Cynnydd yn ystod y flwyddyn gyntaf

  • Daeth yr ardd yn gyrchfan leol i deuluoedd
  • Gwirfoddolwyr o bob oedran yn cymryd rhan, gan gynnwys trwy'r rhaglen Kickstarter
  • Ieir a draenogod bellach yn rhan o ecosystem yr ardd

Pethau wedi'u hychwanegu a'r effaith barhaus

  • Ychwanegwyd gwelyau plannu uwch, planhigion, blychau cynefinoedd, a seddi ychwanegol yn 2024
  • Gosodwyd pwll bywyd gwyllt lle gwelwyd mafallod a draenogod
  • Mae'r ardd wedi'i henwebu ar gyfer Gwobr y Faner Werdd, a bellach yn ganolbwynt casglu sbwriel
  • Wedi cyflogi garddwr trwy Brosiect Kickstart
  • Partneriaethau parhaus gyda grwpiau lleol a chynlluniau ar gyfer datblygu pellach
Gwirfoddolwyr BGfm o bob oedran yn adeiladu gwelyau uwch, plannu, a chynnal gardd gymunedol yn Nant-y-glo.