Summary
Crynodeb
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi datgarboneiddio’r sector cyhoeddus trwy alluogi prosiectau sy’n cael eu dylunio, eu gosod a’u cynnal yng Nghymru. Mae DA Hughes, contractwr trydanol ac ynni adnewyddadwy sydd wedi’i leoli yn Sir Ddinbych, yn enghraifft glir o’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru ar waith: BBaCh wedi’i wreiddio’n lleol sy’n darparu technoleg solar ffotofoltaidd, systemau storio ynni batris a seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled Gogledd Cymru, ac yn hyfforddi prentisiaid ac yn creu swyddi medrus ar yr un pryd.
Mae’r busnes wedi addasu trwy bedwar degawd o newid yn y farchnad, o gontractio trydanol cynnar, trwy gyfnod y Tariff Cyflenwi Trydan, i’r dechnoleg ffotofoltaidd glyfar, y storfeydd ynni a’r integreiddio a welir heddiw o ran cerbydau trydan. Erbyn hyn, mae DA Hughes yn cyflogi un ar ddeg o bobl, gan gynnwys tri phrentis, ac mae gwaith solar a storio yn cyfrif am tua hanner ei waith. Trwy brosiectau a ariennir gan y Gwasanaeth Ynni, mae’r cwmni wedi darparu gosodiadau ar draws ysgolion, canolfannau hamdden ac ystad gyngor, ochr yn ochr â gwaith a ariennir yn breifat ar gyfer ystadau gwledig a BBaChau lleol.
Cyd-destun: y gadwyn gyflenwi yng Nghymru
Mae datgarboneiddio’r sector cyhoeddus yn dibynnu ar system ddarparu wydn y gellir ei hehangu ac y gellir buddsoddi ynddi. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu gallu lleol i ddylunio, gosod a chynnal a chadw systemau carbon isel; llwybrau sgiliau sy’n dod â newydd-ddyfodiaid i’r sector ac sy’n uwchsgilio crefftau presennol; gwerth economaidd a gedwir yng Nghymru; a chyflawni ymarferol ar gyfer asedau cyhoeddus fel ysgolion, canolfannau hamdden, swyddfeydd a thai, yn aml o dan gyfyngiadau gweithredol tynn.
Mae prosiectau’r Gwasanaeth Ynni yn gofyn yn gynyddol am atebion integredig: paneli solar ffotofoltaidd, cysylltiadau allforio cyfyngedig, storfeydd batri ar gyfer rheoli brig, a gwefru cerbydau trydan gyda rheolaeth glyfar. Felly, mae angen i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru gynnwys dylunio trydanol, cydymffurfio â’r grid, comisiynu, trosglwyddo a chymorth perfformiad parhaus.
Proffil cyflenwr: DA Hughes, Sir Ddinbych
Mae DA Hughes yn BBaCh o Gymru sydd wedi adeiladu gallu yn raddol dros bedwar degawd. Mae’r cwmni’n olrhain ei wreiddiau i 1985, pan ddechreuodd y sylfaenydd yn y fasnach drydanol yn 18 oed cyn sefydlu busnes annibynnol yn ddiweddarach. Yn 2004, ffurfiolwyd y busnes o dan Part P a dechreuodd gyflogi gweithwyr a phrentisiaid, gan ymwreiddio hyfforddiant fel rhan o fusnes fel arfer.
Yn 2011 cafodd y cwmni ardystiad MCS ar gyfer systemau solar ffotofoltaidd, gan adlewyrchu’r newid o gontractio trydanol confensiynol i gyflenwi ynni adnewyddadwy yn ystod cyfnod y Tariff Cyflenwi Trydan. Fel llawer o osodwyr, profodd gyfyngiadau cyflenwi ac anwadalrwydd y farchnad, gan gynnwys cyfnodau pan oedd hi’n anodd sicrhau paneli, a dychwelodd i MCS yn 2021 wrth i’r farchnad aeddfedu i mewn i’r galw am dechnoleg ffotofoltaidd a storfeydd ynni a welir heddiw. Mae DA Hughes yn parhau i fod yn gontractwr trydanol cryf, gydag ynni adnewyddadwy yn cyfrif am oddeutu hanner ei waith erbyn hyn. Mae’r gwaith hwn o adeiladu gallu yn yr hirdymor yn creu arbenigedd sy’n aros yng Nghymru ac y gellir ei ddefnyddio’n gyflym ar gyfer darpariaeth yn y sector cyhoeddus.
Cyflawni prosiectau yng Ngogledd Cymru
Mae DA Hughes wedi cyflwyno cynlluniau ar draws Sir Ddinbych, Gwynedd ac ardaloedd ehangach o Ogledd Cymru. Mae’r enghreifftiau isod yn dangos ehangder technegol ac addasrwydd gweithredol.
Paneli solar ffotofoltaidd gyda storfeydd batri ar gyfer canolfan hamdden
Roedd prosiect cynrychioliadol yn cyfuno tua 100 kWp o baneli solar ffotofoltaidd ar ben to canolfan hamdden gyda dwy uned fatri o oddeutu 215 kWh yr un (cyfanswm o tua 430 kWh). Mae’r cyfluniad yn cefnogi paru llwyth yn ystod y dydd a gall leihau mewnforio brig, gan wella gwerth i’r ystad gyhoeddus.
Gwefru cerbydau trydan gyda storfeydd batri
Mewn cynllun arall, cyflawnodd DA Hughes brosiect ynni ffotofoltaidd a storio wedi’i integreiddio â 12 o wefrwyr cerbydau trydan. Dyluniwyd y proffil gweithredol o amgylch defnydd y fflyd, gyda cherbydau sbwriel yn gweithredu’n gynnar yn y bore tan ganol y prynhawn, fel bod modd gwefru a dadwefru batris i gyd-fynd â’r ffenestr wefru.
Ysgolion ac adeiladau cyhoeddus
Mae’r cwmni wedi gosod paneli solar ffotofoltaidd mewn tua 10 o ysgolion yn Sir Ddinbych ac mewn ysgolion eraill, canolfannau hamdden ac adeiladau swyddfa yng Ngwynedd. Mae’r gallu i wneud hyn ar draws asedau tebyg yn ganolog i gynyddu gweithgarwch datgarboneiddio yn effeithlon.
Ystadau gwledig a masnachol
Mae’r gwaith mewn lleoliadau amaethyddol a gwledig yn cynnwys cynllun ffotofoltaidd a storio wedi’i gynllunio ar gyfer fferm odro a safle ystad lle mae system ffotofoltaidd yn cefnogi gweithgarwch manwerthu a lletygarwch fferm. Mae’r prosiectau hyn yn dangos bod y gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn gwasanaethu asedau cyhoeddus a phreifat, gan helpu i sefydlogi’r galw am sgiliau a deunyddiau.
Ynni cymunedol a chynlluniau etifeddiaeth
Mae DA Hughes wedi cefnogi ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol hefyd, gan gynnwys prosiectau hydro a gyflwynwyd yn ystod cyfnod y Tariff Cyflenwi Trydan, gan ddangos profiad o ddarpariaeth leol a arweinir gan y gymuned ochr yn ochr â chaffael prif ffrwd yn y sector cyhoeddus.
Sgiliau, prentisiaethau ac uwchsgilio
Mae’r busnes yn adrodd yn gyson bod dod o hyd i waith yn haws na dod o hyd i weithwyr â chymwysterau addas. Prinder sgiliau yw un o’r prif gyfyngiadau ar draws y sector erbyn hyn. Mae DA Hughes yn mynd i’r afael â hyn trwy hyfforddiant uniongyrchol a llwybrau dilyniant clir. Mae tri phrentis wrthi’n cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, gyda chefnogaeth addysg bellach yng Nghymru yng Ngholeg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai. Mae’r cwmni hefyd yn datblygu gallu mewnol ym meysydd cymorth dylunio, cyfrifiadau ad-dalu a cheisiadau i gysylltu â’r grid. Un enghraifft ymarferol yw’r gallu mewnol i reoli ceisiadau G99 i gysylltu â’r grid ar gyfer systemau cynhyrchu a storio mwy o faint, sy’n dod yn fwyfwy hanfodol ar gyfer prosiectau ffotofoltaidd a systemau storio ynni batri ac yn lleihau dibyniaeth ar ymgynghorwyr allanol.
Ansawdd a pherfformiad hirdymor
Mae prosiectau sector cyhoeddus yn gofyn am systemau sy’n gweithio’n ddibynadwy am flynyddoedd, gyda throsglwyddo clir a monitro hygyrch. Mae DA Hughes yn defnyddio dull safonol o gomisiynu a darparu cymorth i ddefnyddwyr: pecyn trosglwyddo ysgrifenedig, arddangosiad a sefydlu systemau monitro gan gynnwys offer sy’n seiliedig ar apiau, a defnyddio pyrth ar-lein i oruchwylio perfformiad a datrys problemau.
Mae’r cwmni hefyd wedi mynd i’r afael ag anwadalrwydd o ran prisiau a tharfu ar y cyflenwad, gan gynnwys newidiadau sydyn yng nghostau paneli yng nghyfnod cynnar y rhyfel yn Wcráin. Mae contractwyr sydd wedi rheoli’r anwadalrwydd hwn mewn sefyllfa well i ddarparu rhaglenni cyhoeddus yn gyflym, gan gynnal ansawdd a sicrhau cydymffurfiaeth ar yr un pryd.
Casgliad
Mae DA Hughes yn dangos yr elfennau sydd eu hangen ar y Gwasanaeth Ynni o’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru: gallu lleol i gyflawni ym meysydd technoleg ffotofoltaidd, systemau storio ynni batri a gwefru cerbydau trydan; y gallu i ehangu o systemau tai cymdeithasol bach i gynlluniau aml-dechnoleg mwy o faint; cymhwysedd o ran y grid a chydymffurfiaeth, gan gynnwys rheoli allforio a cheisiadau cysylltu; ymrwymiad i hyfforddiant sydd wedi’i wreiddio yng Nghymru; darpariaeth a lywir yn weithredol sydd wedi’i chynllunio o amgylch y ffordd y mae safleoedd yn rhedeg go iawn; a threfniadau trosglwyddo o safon gyda chymorth parhaus o ran perfformiad.
Mae’r trawsnewidiad i ystad gyhoeddus sero net yng Nghymru yn dibynnu ar y gallu i gyflawni ar lawr gwlad yn ogystal â chyllid cyfalaf ac uchelgais polisi. Mae DA Hughes yn dangos bod gan Gymru sylfaen galluog ac esblygol o swyddi gosod yng Nghymru, prentisiaid o Gymru a BBaChau yng Nghymru sy’n cyflawni prosiectau ynni technegol cadarn ledled Gogledd Cymru. Rôl y Gwasanaeth Ynni yw parhau i alluogi’r farchnad hon: cefnogi’r biblinell o brosiectau sy’n caniatáu i gwmnïau lleol fuddsoddi mewn pobl, offer ac achrediadau; cryfhau fframweithiau sy’n hygyrch i gyrff cyhoeddus; a sicrhau bod manteision datgarboneiddio yn cael eu cadw yng Nghymru trwy gyflogaeth a sgiliau lleol.
